Cyflwr yr Parc

Eryri

alt=Yr olygfa o Gopa'r Wyddfa

Priddoedd Mawn a Storio Carbon

Dal a storio carbon yw lle mae carbon deuocsid atmosfferig yn cael ei dynnu allan drwy brosesau naturiol neu artiffisial a’u storio. Mae priddoedd mawn yng Nghymru yn darparu storfa garbon sylweddol. Yr amcangyfrif presennol8 o faint y priddoedd mawn dwfn (≥0.5m ddyfnder) yng Nghymru yw 90,995ha, tua 4% o gyfanswm arwynebedd y tir. Maent yn darparu’r storfa ddaearol ecosystem fwyaf o garbon yng Nghymru, oddeutu 157mt.

Amcangyfrifir petaent yn cael eu dychwelyd i gyflwr bron yn naturiol, byddau eu potensial lliniaru newid yn yr hinsawdd yn 300,000 tunnell o garbon deuocsid bob blwyddyn. Mae hyn yn fras yn cyfateb i 5% o'r holl allyriadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yng Nghymru.

Ceir tua 30% o gorsydd mawn Cymru o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri. Er mwyn cael asesiad mwy cywir, mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi comisiynu mapio a gwerthuso mawn, cynefinoedd mawndir, gwasanaethau ecosystem cysylltiedig, a blaenoriaethau adfer yn Eryri. Bydd allbynnau'r gwaith hwn yn cynnwys:

  • rhestr sy'n seiliedig ar GIS o ddyddodion mawn dwfn (>0.5m) yn ac o fewn byffer amrywiol ffin y Parc Cenedlaethol;
  • amcangyfrif o stociau carbon mewn mawn, yn seiliedig ar ddyfnder mawn a morffoleg mawndir i nodi safleoedd storio carbon â blaenoriaeth o fewn ardal y prosiect;
  • map a gwerthusiad o orchudd cynefinoedd a chyflwr mawndiroedd o fewn ac ar gyrion y Parc Cenedlaethol ar lefel gymunedol planhigion fel NVC a/neu Rhan I. Gorchudd cynefin i gael eu grwpio i mewn i gyfres o ddosbarthiadau sy'n adlewyrchu cyflwr y cynefin eang; cynhyrchu mapiau a thablau maint gorchudd cynefin, sy'n dangos i ba raddau y ceir gorgyffyrddiad o'r dosbarthiadau gorchudd cynefin cyffredinol hyn ar fawn;
  • map yn dangos nodweddion draenio (ffosydd) ar fawn dwfn yn ardal yr astudiaeth yn dilyn methodoleg a ddatblygwyd gan Arolwg Daearegol Prydain;
  • map o "fannau problem" o ran allyriadau a blaenoriaethau adfer drwy draws fapio ffactorau allyriadau i gategorïau gorchudd cynefin diffiniedig i roi allbynnau wedi'u mapio o allyriadau yn ôl dosbarthiadau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw;
  • nodi cyfleoedd allweddol lle gellid ffocysu gwaith adfer i leihau allyriadau. Bydd hyn yn golygu casglu tystiolaeth yn ymwneud â chymeriad a chyflwr cynefin, topograffi (llethr yn bennaf) ac agosrwydd at afonydd a llynnoedd i nodi safleoedd blaenoriaeth ar gyfer adfer. Mae trydydd haen GIS i gael ei datblygu sy’n adlewyrchu 'brys adfer' yn seiliedig ar ba mor agored yw’r safleoedd tir mawn i niwed pellach ac i golli carbon (e.e. safleoedd sydd wedi’u herydu’n ddifrifol);

Bydd canlyniadau'r gwaith hwn, gyda rhai ohonynt yn cael eu hymgorffori yn y ddogfen hon pan ddônt ar gael, yn galluogi'r Awdurdod i ddatblygu strategaeth mawndir i helpu llywio gwaith adfer yn y dyfodol fel elfen o reoli tir yn gynaliadwy ac i helpu i feintioli rhai o'r prif fuddiannau gwasanaeth ecosystem sy'n gysylltiedig â gwaith adfer. Mae'r map isod yn dangos hyd a lled y priddoedd mawn yn Eryri.

Priddoedd mawn yn Eryri

Mae'r map uchod yn arddangos ardaloedd mawndir o fewn Parc Cenedlaethol Eryri (amlinelliad gwyrdd). Mae'r ardaloedd a arddangoswyd yn biws yn dangos yr ardaloedd mawndir.

 Cyfanswm Ardal (ha)Ardal Mawn (ha)% mawn
Parc Cenedlaethol Eryri213,96925,46012

Cyfanswm stoc carbon ym mhriddoedd man a priddoedd di-fawn o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

Mawn stoc C (t) Cyfartaledd stoc C mawn (t/ha) Di-fawn stoc C (t) Cyfartaledd stoc C di-fawn (t/ha)
Parc Cenedlaethol 16,968,000 666 15,735,000 83

8 Cipolwg ar Gyflwr Adnoddau Naturiol Cymru, 2015