Cyflwr yr Parc

Eryri

alt=Yr olygfa o Gopa'r Wyddfa

Tir

Daeareg a Phriddoedd

Mae gan y Parc Cenedlaethol gymeriad daearegol unigryw a gweladwy sy'n rhan sylfaenol o'i dirwedd ragorol a golygfeydd a ffurfiwyd ac a ail-siapiwyd gan brosesau cymhleth fel tectoneg platiau, rhewlifiannau, hindreuliad ac erydiad. Chwaraeodd Eryri ran bwysig yn natblygiad y gwyddorau daear, gyda llawer o ddaearegwyr nodedig yn ymweld i wneud gwaith maes. Mae'n cynnwys cyfoeth o nodweddion daearegol a geomorffolegol sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn lleol, ac mae yn Eryri ystod eang o fathau o bridd sy'n cael eu dylanwadu gan y ddaeareg sylfaenol a mathau o graig a hefyd yr arferion rheoli tir/ gweithgarwch.

Dros amser sylweddol, mae gweithredu dynol wedi effeithio mewn gwahanol ffyrdd ar adnoddau daearegol a phridd drwy weithgareddau megis chwarelydda; clirio coetiroedd brodorol ar gyfer amaethyddiaeth; draenio corsydd yr ucheldir; coedwigo masnachol ac erydiad o ganlyniad i weithgareddau hamdden a gorbori.

LANDMAP

Mae LANDMAP yn arf er mwyn helpu gwneud penderfyniadau cynaliadwy a chynllunio adnoddau naturiol at amrywiaeth o lefelau, o leol i genedlaethol. Mae yna bump set ddata gofodol yn cael eu cynnwys yn hyn, sef:

  • Tirweddau Daearegol
  • Cynefinoedd Tirwedd
  • Gweledol a Synhwyraidd
  • Tirweddau Hanesyddol
  • Tirweddau Diwylliannol

Mae'r ddelwedd isod yn dangos canran o ardaloedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri sydd wedi derbyn gradd o uchel neu ragorol o fewn eu categoriau perthnasol.

Safleoedd Geoamrywiaeth o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS)

Dynodwyd y RIGS fel Safleoedd Daearegol/ Geomorffolegol sy’n Bwysig yn Rhanbarthol o ran Gwarchod Natur yn y DU “Earth Science Conservation in Great Britain: A Strategy (1990), ac sydd o safon sy'n haeddu cydnabyddiaeth a gwarchodaeth fel safleoedd anstatudol, i gyd-fynd â'r SoDdGA a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sydd o dan warchodaeth statudol. Bellach gelwir safleoedd RIGS yng Nghymru yn Safleoedd Geoamrywiaeth Rhanbarthol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfrannu at archwiliad Cymru gyfan o RIGS drwy gymorth ariannol a thechnegol. Yr archwiliad a ddechreuodd yn 2003 yw’r asesiad cenedlaethol cynhwysfawr cyntaf o safleoedd ail-haen yng Nghymru. Fe'i cynhaliwyd i raddau helaeth gan grwpiau RIGS lleol a Gwyddonwyr Daear Cyfoeth Naturiol Cymru gyda'r mwyafrif o'r cyllid yn dod o Gronfa Gynaliadwyedd yr Ardoll Agregau, ond gyda chyfraniad ariannol gan Gyfoeth Naturiol Cymru at y prosiect yng Ngogledd Cymru. Arweiniodd yr archwiliad at safoni’r ddogfennaeth safle, digideiddio ffiniau'r safle i fformat cyffredin a sicrhau bod y tirfeddianwyr ac awdurdodau cynllunio yn cael eu hysbysu o'r RIGS.

Roedd datblygu cronfa ddata GIS ar gyfer y prosiect yn fewnbwn sylweddol gan Gyfoeth Naturiol Cymru, lle y gwelwyd pob un o'r 600 neu fwy o safleoedd a gofrestrwyd hyd yn hyn yn cael eu digideiddio gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Ar hyn o bryd Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cynnal y data GIS hwn.

Mae 47 o RIGS yn y Parc Cenedlaethol.

Safleoedd RIGS yn Eryri

Safleoedd RIGS yn Eryri

Lleoliad Safleoedd Mwynau sy’n Gweithio yn Eryri

Mae Tabl 9 yn rhoi manylion y safleoedd mwynau sy'n gweithio ar hyn o bryd yn Eryri.

Enw'r SafleNwyddauMath arall o fwynauGrid Cenedlaethol DwyreiniadGrid Cenedlaethol Gogleddiad
  Braich DduGwastraff LlechiCerrig Adeiladu271970338440
  Craig y TanCraig Igneaidd a MetamorffigCerrig Adeiladu271349336224
  Ty'n-y-CoedGwastraff LlechiAgregau Eilaidd265030315275

Safleoedd Mwynau sy’n Gweithio (Ffynhonnell: Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri)