Gofalu

Coed Cymysg

alt=Parc Cenedlaethol Eryri

Difa Rhododendron

Difa Rhododendron ponticum yn Nant Gwynant

Ar ôl cwblhau Rhododendron yn Eryri a strategaeth i’w reoli yn 2008, bu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn arwain y ffordd i reoli ymlediad y planhigyn hwn yn yr ardal. Gwedd ddiweddaraf y prosiect parhaus hwn yw cynllun uchelgeisiol i gael gwared ar Rododendron ponticum o’r dyffryn sy’n arwain o Nant Gwynant i’r dwyrain drwodd i Feddgelert i’r gorllewin. Ystyrir mai’r ardal hon yw un o brif gadarnleoedd y planhigyn ymledol hwn yn Eryri; mae’n ffynhonnell hadau enfawr, ac felly mae’n hwyluso ymlediad y planhigyn i gefn gwlad cyfagos, megis y tir comin arbennig o fregus sy’n ffurfio Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Eryri i’r dwyrain.

Difodiad Rhododendron ponticum yn Nant Gwynant

Difodiad Rhododendron ponticum yn Nant Gwynant

Dechreuodd y gwaith o reoli’r planhigyn yn 2012 mewn partneriaeth â sefydliadau, grwpiau a thirfeddianwyr preifat eraill, a’r bwriad yw dal ati â’r prosiect am o leiaf 5 mlynedd. Mae’r rhanddeiliaid yn y prosiect yn cynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Sir Gwynedd, yn ogystal â nifer o grwpiau gwirfoddol a thirfeddianwyr unigol; mae’r mwyafrif llethol ohonynt yn hynod gefnogol o’r gwaith. Hyd yma (Hydref 2013), llwyddwyd i drin oddeutu 280ha gydag ystod o ddulliau sy’n cynnwys chwistrellu’r coesynnau, chwistrellu a thorri a llosgi. Contractwyr lleol sydd wedi bod yn gwneud y gwaith, ac mae hynny wedi sicrhau bod yr arian yn cael ei fwydo yn ôl i mewn i’r economi leol.

Ychydig iawn o fywyd gwyllt sy’n gysylltiedig â Rhododendron ponticum, er ei bod hi’n ddeniadol iawn yn ei blodau; yn amlach na pheidio, bydd yn trechu’r rhywogaethau brodorol, ac felly mae’n andwyol i gynefinoedd ac ecosystemau naturiol. Ar ben hynny, mae’r dystiolaeth yn awgrymu y gall y newid yn yr hinsawdd hwyluso ei ymlediad i dir uwch, a fydd yn golygu ei fod yn fwy o fygythiad i gynefinoedd mynyddig, a bydd hefyd yn sicrhau bod mwy o hadau’n goroesi.

Drwy gael gwared ar y planhigyn ymledol o’r ardal, y gobaith yw y gall bywyd gwyllt brodorol ffynnu yn y dyffryn unwaith eto; mae llawer ohono wedi’i ddiogelu o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd neu ddomestig. Y dynodiadau sydd i’w canfod yn agos at y dyffryn yw ACA Coedydd Derw a Safleoedd Ystlumod Meirion, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Coedydd Nant Gwynant, SoDdGA Coedydd Beddgelert a Cheunant ac ACA a SoDdGA Eryri.

Yn ychwanegol at y gwaith a wnaed yn Nant Gwynant a Beddgelert, cafodd prosiectau llai eu cwblhau yn flaenorol, ac mae eraill ar y gweill ledled Eryri. Mae’r rhain yn cynnwys:

Ochr ddeheuol Aber Mawddach
Y bwriad yw clirio’r rhannau sylweddol o Rododendron rhwng Y Friog a Llynpenmaen. Mae’r gwaith hwn yn ategu’r gwaith sydd eisoes wedi cael ei wneud yn yr ardal hon gan Awdurdod y Parc yn ei goedlan ei hun yn Abergwynant, a gan Gyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoed y Garth.

Llanymawddwy
Roedd ciper lleol wedi plannu Rhododendron mewn sawl planhigfa a choedlan frodorol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Mae hadau wedi gwasgaru o’r ardaloedd hyn, a bellach mae yna ardaloedd â llwyni sydd wedi hen ymsefydlu dros gilomedr i ffwrdd. Mae’r bryniau i’r gogledd a’r dwyrain uwch Llanymawddwy yn rhan o weundir grug Berwyn. Mae ambell blanhigyn Rhododendron wedi ymddangos yn y gweundir, ac roedd cryn bryder fod hyn yn arwydd o ddechrau ymlediad ar raddfa eang.