Gofalu

Coed Cymysg

alt=Parc Cenedlaethol Eryri

Adfer Mawndiroedd Eryri

Dros y pedair mlynedd diwethaf mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod ynghlwm a nifer o briosectau sy'n manylu ar adfer rhannau o fawndiroedd anhygoel Eryri. Mae mawndiroedd gweithredol o fudd i'n cymdeithas mewn amryw o wahanol ffyrdd (cyfeirir yn aml fel gwasanethau ecosystem) gan gynnwys:

  • Gwella ansawdd y dŵr yn y dalgylch drwy weithredu fel hidlydd naturiol a lleihau swm y gwaddod sy’n mynd i mewn i’r cyrsiau dŵr cyfagos;
  • Lleihau cyfraddau anterth llif ymhellach i lawr y dyffryn drwy ddal gafael ar ddŵr pan fydd hi’n bwrw glaw yn drwm a gollwng dŵr yn ystod y cyfnodau sych;
  • Sicrhau bod y gors yn parhau i fod yn ddalfa net o garbon drwy ail-wlychu’r tir, atal ocsideiddiad y mawn ac felly rhyddhau carbon yn ôl i’r atmosffer a hybu dal rhagor o garbon.

Dechreuodd y gwaith yng ngaeaf 2012/13, ymgymerodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ar y cyd â Chyngor Cefn Gwlad Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru bellach) a thirfeddiannwr preifat, â phrosiect uchelgeisiol i adfer dros 33 hectar o fawndir yn Rhyd Ddu, Beddgelert. Nod y prosiect £35,000 a ariannwyd drwy Gronfa Cydnerthedd ac Amrywiaeth Ecosystemau Llywodraeth Cymru, yw adfer y mawndir i’w ogoniant gynt fel y gall unwaith eto ddarparu’r buddion ecosystemau yr arferai ei wneud.

Adfer mawndir Rhyd Ddu gyda gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri (© APCE)

Adfer mawndir Rhyd Ddu gyda gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri (© APCE)

Wedi’i leoli rhwng pentrefi Rhyd Ddu a Beddgelert (SH573513), mae safle’r prosiect o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn, yn ogystal â chefndeuddwr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Gwyrfai a Llyn Cwellyn. Yn sgil defnyddio dulliau amhriodol o reoli’r gors yn hanesyddol, a oedd yn cynnwys torri mawn, agor ffosydd a llosgi llystyfiant yn ddamweiniol, gadawyd y safle mewn cyflwr anffafriol. Dyma'r gwaith gyflawnwyd yn ystod y priosect:

  1. Gan ddefnyddio contractwyr lleol caewyd 18km o ffosydd er mwyn adfer cylch hydrolegol y corsydd.
  2. 3.Ar ôl cwblhau gwaith cau’r ffosydd, defnyddiwyd cynaeafwr porthiant gwlyptir arbenigol i dorri’r gors a chlirio’r haen o laswellt y gweunydd marw cyn ailgyflwyno tir pori. Yn ychwanegol i glirio'r haen o laswellt gobeithir bydd torri'r gors yn annog lledaeniad mawn a thyfiant mwsogl yn yr ardal.
  3. Yn dilyn hynny, mae’r tirfeddiannwr yn bwriadu cynnig y tir ar gyfer Glastir, sef cynllun amaeth-amgylcheddol yng Nghymru, a phrydlesu hawliau pori’r safle. Y gobaith yw y bydd pori’r safle yn ddwys yn atal ail-dyfiant Molinia, ac yn rhoi hwb i’r safle gael adfer.
  4. Cwblhawyd gwaith ychwanegol ar dir cyfagos gan gynnwys cau oddeutu ffos 1km, adeiladu 'pwyntiau croesi ar gyfer da byw er mwyn lleihau cyfleon dwyn, ac adfer terfynnau caeau (ffensio ac walio cerrig traddodiadol) er mwyn rheoli’r lefelau pori yn briodol..

Ymhellach i'r uchod arweiniodd yr Awdurdod briosect 18 mis ariannwyd gan Gronfa Ecosystemau Gwydn Llywodraeth Cymru ar y cyd â RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Dŵr Cymru; y nod yw adfer oddeutu 485 ha o fawndir diraddiedig mewn amrywiol leoliadau ledled gogledd-orllewin Cymru.

Adfer mawndir fel rhan o briosect Ffridd Uchaf (© APCE)

Adfer mawndir fel rhan o briosect Ffridd Uchaf (© APCE)

Mae ffactorau megis dwysáu amaethyddol a choedwigo wedi arwain at ddiraddio nifer o'n mawnogydd, y gwasanaethau ecosystemau hanfodol maent yn eu darparu, a’r fflora a ffawna sy’n gysylltiedig â hwy. Fodd bynnag, mae'r prosiect £210,000 hwn am wrthdroi'r dirywiad hwn drwy ymgymryd â gwaith gyda'r nod o adfer y mawndiroedd nodedig hyn i'w hen ogoniant. Bydd hyn yn cael ei wneud yn bennaf drwy i. ail-wlychu’r tir drwy rwystro ffosydd draenio artiffisial ii. cael gwared ar brysgwydd sy’n ennill tir a / neu ardaloedd o goed ac iii. ymgymryd â gwelliannau i fynediad a ffiniau caeau er mwyn rheoli’r trefniadau pori ar y safleoedd hynny yn y dyfodol. Yn ogystal â'r manteision ecolegol, mae’r prosiect yn bwriadu adfer rhai o'r gwasanaethau ecosystemau allweddol sy'n cael eu darparu gan ein hucheldiroedd, gan gynnwys:

  • Dal carbon yn y tir a fyddai fel arall yn cael ei ryddhau i'r atmosffer. Amcangyfrifir bod mawn yn storio oddeutu 30% o garbon organig pridd y byd, er y credir mai dim ond 2-3% o arwyneb y Ddaear maent yn ei orchuddio. Er ei fod bron yn amhosibl cyfrifo’n gywir faint o fawn sydd wedi’i gloi ar safleoedd y prosiect, mae'n sicr o fod yn rhai cannoedd o dunelli. Tra’n sych / wedi'i ddiraddio mae mawn yn galluogi i garbon adweithio gydag aer, a thrwy hynny i ocsideiddiad ddigwydd a’i ryddhau i’r atmosffer, yna mae ail-wlychu’r tir yn cael gwared â’r effaith hon ac felly mae’r carbon sydd wedi’i storio yn y mawn yn aros wedi’i gloi yn y tir. At hynny, yn sgil amodau anaerobig a gyflawnir trwy gyfrwng tir dirlawn, mae corsydd mawn gweithredol yn dod yn ddalfa net o garbon trwy gloi oddeutu 0.25kg/metr² pan fydd yn gweithredu’n iawn, ac mae hyn oll yn cyfrannu tuag at liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd;
  • Gwelliannau i ansawdd dŵr o ganlyniad i allu corsydd i weithio fel hidlwyr dŵr naturiol a lleihau faint o waddodion sy’n mynd i mewn i gyrsiau dŵr cyfagos;
  • Rheoli lefelau dŵr mewn dalgylchoedd trwy gadw dŵr yn ystod cyfnodau o law trwm, a thrwy hynny leihau cyfraddau’r prif lif, a storio dŵr yn ystod cyfnodau o sychder.

Dechreuodd y gwaith ar y prosiect ym mis Tachwedd 2013, a daeth i ben ym mis Chwefror 2015. Gyda'r arian caewyd oddeutu 67km o ffosydd draenio ar safleoedd ym Mynydd Hiraethog, y Migneint, Mynyddoedd y Berwyn, Cors Arthog a Dyffryn Ogwen, a chlirwyd llystyfiant naturiol ac adferwyd terfynnau yng nghors Arthog. Yn ychwanegol i'r gwaith ymarferol fel rhan o'r priosect, cynheliwyd nifer o nosweithiau cymunedol ac ymweliadau addysgiadol i hyrwyddo'r gwaith.

Daeth y taliad diwethaf o nawdd trwy Gronfa Natur Llywodraeth Cymru pan fu'r bartneriaeth eto'n llwyddianus yn sicrhau £132,000 er mwyn cyflawni gwaith adfer mawndiroedd. Yn debyg i'r uchod, gwaith cau ffosydd oedd mwyafrif y gwaith (oddeutu 9km ar y Migneint a nifer o gilometrau ar Fynydd Hiraethog yn ogystal). Roedd agweddau eraill o'r priosect yn cynnwys clirio tua 40ha o falurion ar goedwigaeth blaenorol er mwyn hwyluso'r adferiad, torri coed naturiol sydd wedi adfywio o fewn ardal Migneint-Arenig-Dduallt SAC (oddeutu 19,000 mewn maint!), atgyweirio terfynau stoc er mwyn annog pori yn gynaladwy a chynhyrchu strategaeth i gynorthwyo ar ymdrechion pellach i adfer mawndiroedd yn y Parc Cenedlaethol yn y dyfodol. Trefnwyd gwaith pellach gyda chymunedau gan gynnwys creu fidio 'rap mawndir' gyda ysgolion lleol a threfnu sgyrsiau gyda'r nos gyda grwpiau amrywiol.

Os hoffech wybod mwy am adfer mawndiroedd Eryri cysylltwch â Swyddog Bioamrywiaeth yr Awdurdod, Gethin Davies trwy alw 01766 770 274 neu e-bostio bethan.jones2@eryri.llyw.cymru.