Gofalu

Coed Cymysg

alt=Parc Cenedlaethol Eryri

Cyfoeth Ein Corsydd

Dyma brosiect unigryw a diddorol a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn cofnodi hanes diwylliannol corsydd, eu defnydd a’u harwyddocâd i bobl dros yr oesoedd yn Eryri. Bydd yn edrych ar drysorau hynafol sydd wedi eu darganfod yn y corsydd, yn ogystal â’r defnydd ymarferol a wnaed ohonynt dros y blynyddoedd.

Beth yw Cors?

Enw arall ar gors yw ‘siglen’, a hynny am ei bod yn symud dan eich traed! Cyn gellir galw darn o dir yn ‘gors’, mae’n rhaid iddo fod ag o leiaf hanner metr o fawn a ffurfiwyd dan ddŵr glaw yn bennaf. Mae mawndir yn nodweddiadol o gors, ac mae’n diffinio’r llystyfiant a’r creaduriaid sydd wedi tyfu neu fyw yno ar un adeg.

Ffurfir mawn wrth i lystyfiant fel mwsoglau a hesg sydd wedi dechrau pydru ar wyneb y gors gronni.Wrth i ragor o lystyfiant dyfu dros wyneb y gors, caiff yr hen lystyfiant ei wasgu i lawr yn ddyfnach i’r gors. Mae’r amodau gwlyb, asidig ac anaerobig a geir dan wyneb y gors yn atal y llystyfiant rhag pydru rhagor, a thros amser caiff ei gywasgu dan bwysau’r gors uwchben gan ffurfio mawn. Bob blwyddyn bydd dyfnder y mawn yn cynyddu o tua 1mm, ac felly mae’n fath o beiriant amser: pob milimedr yn cynrychioli un flwyddyn, ac felly un medr yn cynrychioli mileniwm cyfan o hanes! Gall rhai mawndiroedd fod yn ddyfnach na 10 metr o ddwfn, ac felly’n gofnod o hanes tyfiant a hinsawdd ers diwedd Oes yr Ia diwethaf - dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl!

Cors (© APCE)

Cors (© APCE)

Gwlithlys (© APCE)

Gwlithlys (© APCE)

Gwresogi

Mae hanes torri, neu ladd mawn fel tanwydd i wresogi yn deillio’n ôl i’r Oesoedd Canol, gyda hawliau torri mawn yn bodoli er mwyn i bobl gyffredin gael mawn o’r tir comin i gynhesu eu tai. Hyd yn oed cyn hynny, arferai’r Rhufeiniaid gynhesu dŵr hallt mewn padell fâs dros dân mawn i gael halen.

Cynaeafwyd mawn yn ardaloedd Cwm Cynllwyd, Llanuwchllyn ac Abergeirw, Trawsfynydd mor ddiweddar â 1992, ac felly mae’r hanesion a’r atgofion yn siŵr o fod yn fyw ar gof! Os oes gennych chi unrhyw atgofion o gynaeafu mawn yna fe hoffem glywed gennych chi!!

Goleuo

Pabwyra oedd yr hen arfer o gasglu brwyn er mwyn gwneud canhwyllau. Roedd hon yn grefft a arferid gan y teulu cyfan, gyda rhai ffermydd ym Meirionnydd yn parhau i wneud canhwyllau brwyn tan ganol y ganrif ddiwethaf, pan ddaeth trydan i gefn gwlad. Golau gwan iawn a daflai’r canhwyllau, gan lenwi’r tŷ ag arogl cryf braster tawdd.

Torri mawn, Cwm Cynllwyd, 1984 (© Simon Jones)

Torri mawn, Cwm Cynllwyd, 1984 (© Simon Jones)

Gwneud canhwyllau brwyn (©Casgliad Geoff Charles - LlGC)

Gwneud canhwyllau brwyn (©Casgliad Geoff Charles - LlGC)

Mwsogl aml-ddefnydd!

Mwsoglu yw’r term am gasglu mwsogl, a thros y blynyddoedd fe’i casglwyd at sawl diben…

Llenwi tyllau

Defnyddid mwsogl yn hanesyddol i lenwi tyllau mewn waliau a thoeau tyddynnod, arferiad sydd wedi diflannu erbyn heddiw.

Gofalu am blanhigion

Oherwydd gallu mwsogl i amsugno a dal dŵr caiff ei ddefnyddio fel leinin basgedi blodau, ac i gadw planhigion megis tegeirianau gwerthfawr yn wlyb.

Trin clwyfau

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, oherwydd ei allu i amsugno hylif, defnyddiwyd mwsogl migwyn i drin clwyfau gan arbed bywydau miloedd o filwyr. Ceir cofnodion o’i ddefnydd mewn brwydrau’n dyddio’n ôl mor bell â dechrau’r G11 hyd yn oed.

Mwsogl migwyn (© Warren Photography)

Mwsogl migwyn (© Warren Photography)

Nyrsus wrthi’n paratoi migwyn ar gyfer trin clwyfau milwyr (© I Rotherham)

Nyrsus wrthi’n paratoi migwyn (© I Rotherham)

Hanes o fewn haenau

Mae trysorau hynod wedi’u darganfod mewn mawn dros y blynyddoedd!! Un o’r rhai hynotaf yw Pair Arthog, sef bwced efydd a gafodd ei ddarganfod wrth dorri mawn ym 1826. Defnyddiwyd y blwch gan breswylwyr Plas Nannau i ddal llwch sigarennau…nes darganfod ei fod yn dyddio’n ôl i 1100CC!

Ymhlith y trysorau eraill mae Tarian Moel Hebog sy’n dyddio’n ôl i tua 1000CC, a ddaeth i’r golwg wrth dorri mawn ym 1784, a Thancard Trawsfynydd wedi ei wneud o bren ywen ac efydd sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Haearn Diweddar [50CC-OC75]. Daeth y tancard i’r golwg mewn mawn yng nghanol y 1850au, ac mae atgynhyrchiad ohono ar gael yn Llys Ednowain, Trawsfynydd.

Arwyddocâd Ecolegol

Mae corsydd o bwysigrwydd ecolegol hefyd gan eu bod yn storfeydd carbon o bwys eithriadol, yn storfeydd dŵr o safbwynt ansawdd a rheoli llifogydd, ac yn gynefin pwysig i lu o blanhigion a chreaduriaid.

Crochan Arthog (© Casgliad y Werin Cymru)

Crochan Arthog (© Casgliad y Werin Cymru)

Tarian Moel Hebog (Casgliad y Werin Cymru)

Tarian Moel Hebog (Casgliad y Werin Cymru)

Manylion Cyswllt

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Haf Roberts, Swyddog Priosect Cyfoeth ein Corsydd :-

Ffôn - (01766) 772 236
E-bost - haf.roberts@eryri.llyw.cymru.