Rhywogaethau ymledol

Llysiau'r Dial

alt=Rhododendron

Ffromlys Chwarennog (Impatiens glandulifera)

Planhigyn blynyddol sy’n ymddangos yn gynnar yn yr haf ac yn tyfu i ffurfio coesyn noddlyd tal gyda dail danheddog a blodau gyda rhyw wawr o binc iddynt. Mae’r codennau hadau yn ffrwydro wrth i chwi eu cyffwrdd ac yn rhyddhau hadau du sgleiniog.

Fe wnaeth y Ffromlys Chwarennog ddianc i’r gwyllt dros gan mlynedd yn ôl ac yn awr mae’n blanhigyn cyffredin iawn yn y rhan fwyaf o Brydain. Bu cynnydd aruthrol yn ei boblogaeth yn Eryri dros yr ugain mlynedd diwethaf. Ei hoff gynefin ydi ar lannau afonydd ond maent yn barod iawn i goloneiddio unrhyw le llaith lle aflonyddwyd gyda’r pridd.

Mae’r tyfiant uchel yn goruchafu dros ac yn disodli perlysiau a gweiriach brodorol.

Strategaeth Reoli

Mae’r Ffromlys Chwarennog wedi lledaenu gymaint erbyn hyn fel nad yw’n bosibl cael gwared arno’n gyfan gwbl ar hyn o bryd. Mae’n werth ystyried ei reoli ar safleoedd lle mae yna ddiddordeb cadwriaethol arbennig. Dylid cyflawni camau rheolaeth yn lleol hefyd lle mae coloniau ynysig mewn ardaloedd nad ydynt wedi cael eu heffeithio ganddo fel arall, yn enwedig pan fo’r rheini yn agos at gyrsiau dŵr. Bydd mesurau rheoli wedi’u targedu yn arafu ymlediad y planhigyn.

Ni ddylid tyfu Ffromlys Chwarennog mewn gerddi.

Rheolaeth

Planhigyn unflwydd yw hwn. Mae’r hadau’n parhau i fod yn hyfyw ar y llawr am flwyddyn neu ddwy. Yr allwedd i lwyddiant yw torri’r cylch ac atal y planhigyn rhag ymsefydlu ei hadau am o leiaf tair blynedd. Mae gwahanol ddulliau o wneud hyn:

  • Chwynnu â llaw (cyn i’r hadau ymsefydlu - ddechrau Gorffennaf yn Eryri yn nodweddiadol)
  • Torri gyda phladur neu strimar (yn union cyn i’r cyfnod blodeuo ddechrau – tua diwedd mis Mehefin fel rheol)

Chwynladdwr

Gwartheg a defaid yn ei bori ac yn ei sathru dan draed.

Mae pridd moel yn darparu amodau delfrydol i’r hadau egino. Pan fo’r Ffromlys Chwarennog yn y cyffiniau, dylid osgoi symud pridd, cloddio ffosydd ac aredig tir. Gall waethygu’r sefyllfa os na ddefnyddir chwynladdwr mewn ffordd sy’n targedu’r sefyllfa yn gywir oherwydd bydd hyn yn creu rhai rhannau o ddaear foel.

Am ragor o fanylion gweler:

www.nerc-wallingford.ac.uk/research/

www.cornwall.gov.uk