Canllaw i'r Sêr
Does dim rhaid buddsoddi mewn offer drud i ddechrau gerthfawrogi’r sêr. Yn aml iawn, bydd llygad noeth neu sbienddrych yn ddigon. Mae nifer dirifedi o sêr, planedau, cytserau, galaethau a meteorau i’w gweld yn awyr dywyll y nos, ond dyma wybodaeth am dri ohonynt.

Orïon - Yr Heliwr (© Keith O'Brien)

Y Sosban (© Keith O'Brien)
Orïon – Yr Heliwr
Hon mae’n debyg, yw’r alaeth hawsaf i’w hadnabod yn Eryri yn ystod y gaeaf. Cafodd ei henw ar ôl yr heliwr Groegaidd. Os dowch chi o hyd i Orïon, fe fydd hi’n haws i chi adnabod sêr eraill.
Y Sosban - neu’r Aradr
Clwstwr o saith seren lachar sy’n rhan o gytser Yr Arth Fawr.
Y Lleuad
384,000 km i ffwrdd a’r lloeren ddisgleiriaf yn yr awyr. Er nad ydym yn gallu ei weld o hyd, mae’n effeithio ar ein byd gan fod tynfa disgyrchiant y lleuad yn gyfrifol am lanw a thrai’r môr ddwywaith bod dydd.

Lleuad Fedi uwch Cwm Prysor (© Keith O'Brien)
Tua'r De
Mae’r sêr yn yr awyr ddeheuol yn newid wrth i’r tymhorau newid, ond ar adegau gwahanol, mae’n bosib gweld Orïon yr Heliwr, yr Efeilliaid, Seren y Gweithiwr, y Pleiades neu’r Saith Chwaer, Triongl yr Haf, yr Alarch, a’n galaeth ni, Y Llwybr Llaethog neu Gaer Gwydion a sgwâr Pegasws.




Tau'r Gogledd
Y Sosban yw’r clwstwr sêr sydd hawsaf i’w adnabod wrth edrych tua’r gogledd. Mae i’w weld uwchben y gorwel ac yr un siâp â sosban. Tynnwch linell ddychmygol o’r ddwy seren sydd bellaf o ‘ddolen’ y sosban ac os ydych yn ddigon ffodus i’w gweld, fe ddowch chi at Seren y Gogledd. Os ydych yn wynebu’r seren hon, rydych yn wynebu’r gogledd.
Ar yr ochr arall i Seren y Gogledd, mae Llys Dôn, sy’n debyg o ran siâp i’r llythyren ‘W’ neu ‘M’, Yr un yw’r sêr yn yr awyr ogleddol drwy gydol y flwyddyn felly mae’n hawdd i’w darganfod ar noson glir.




Byddwch angen...
Dillad cynnes, sbienddrych, fflachlamp (gyda hidlydd coch os yn bosib), ffôn symudol, het a menyg, esgidiau cryf.
