Newid Hinsawdd

Tyrbin gwynt

alt=Traphont Viaduct

Y Sefyllfa Bresennol yn Eryri

Yn ychwanegol at ein hymrwymiad parhaus i leihau ein ôl-troed carbon, yma yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, ein nod yw gweithio ochr yn ochr â sefydliadau eraill y Llywodraeth, cyrff cadwraeth, grwpiau cadwraeth natur a chymunedol y trydydd sector, a thirfeddianwyr i hyrwyddo a gweithredu cynlluniau ymaddasu a lliniaru priodol. Er bod Eryri fel ardal yn debygol o fod yn ddalfa net o nwyon tŷ gwydr oherwydd ei lleoliad gwledig a’r diffyg diwydiannau ynni trwm, mae o hyd le i wella drwy addasu’r arferion rheoli tir cyfredol, lleihau allyriadau a rhoi technegau lliniaru sŵn ar waith. Er enghraifft:

  • Mae oddeutu 30% o fawnogydd Cymru i’w canfod o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n cyfateb i dros 21,000 ha. Pan fydd mewn cyflwr da, mae mawn yn dal oddeutu 5,000TCO₂ha⁻¹, ac yn amsugno 0.7TCO₂ha⁻¹yr⁻¹. O ganlyniad, drwy ymgymryd â gwaith adfer cynefin gorgors, gallwn wneud y gorau o botensial mawn fel dalfa net CO₂.
  • Mae oddeutu 38,000ha o goedlannau ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sy’n cyfateb i oddeutu 18% o’r tir. Amcangyfrifir bod coedlannau’r Deyrnas Unedig yn dal cyfanswm o 150mTCO₂, ac yn amsugno 4mTCO₂ o’r atmosffer bob blwyddyn (oddeutu 2% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr y Deyrnas Unedig bob blwyddyn). Er bod union swm y carbon a ddelir mewn coedlan benodol yn dibynnu ar nifer o ffactorau, megis y math o goed sy’n bresennol, y math o bridd isod, cyfraddau twf ac oedran y gelli, dros gyfnod o 100 mlynedd, gall coedwig newydd ei sefydlu ddal hyd at 5tCO₂ha⁻¹. Felly, mae’n bwysig ein bod ni’n amlhau potensial creu coedlannau yn y Parc Cenedlaethol i’r eithaf, gan sicrhau dulliau rheoli priodol o’n coedlannau presennol er mwyn iddynt barhau i fod yn ddalfa garbon dros y degawdau nesaf.
  • Mae’r sector amaethyddol yn gyfrifol am oddeutu 11% o’r allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru, â’r rhan fwyaf o’r rhain yn fethan ac ocsid nitraidd (oddeutu 90%). Yn sgil presenoldeb sylweddol amaethyddiaeth yn Eryri (mae oddeutu 80% o’r tir yn y Parc Cenedlaethol wedi’i gofrestru fel tir amaethyddol), ac absenoldeb diwydiant trwm a chynhyrchu ynni, mae’n debygol mai’r sector defnydd tir yw’r prif allyrrydd o nwyon tŷ gwydr yn y Parc Cenedlaethol. Drwy wella effeithlonrwydd ar ffermydd a chyflwyno technegau newydd i reoli da byw a thir, rydym yn credu y gall y sector amaethyddol chware rhan bwysig o ran lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Yn ychwanegol at yr uchod, mae nifer o sectorau eraill sy’n cyfrannu’n sylweddol at lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn Eryri, yn enwedig y diwydiant hamdden a thwristiaeth a’r sector cludiant. O ganlyniad, sefydlwyd mentrau megis Eryri Gwyrdd er mwyn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynaliadwyedd ac ymaddasu i newid hinsawdd yn y sector hamdden a thwristiaeth leol. Yr hyn sy’n amlwg o’r uchod yw’r rôl bwysig sydd gan bawb i’w chwarae i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Rydym ni, fel Awdurdod, yn bwriadu cymryd yr awenau i roi newidiadau ar waith. Serch hynny, mae’n hynod bwysig bob pob un ohonom yn cymryd rhan yn hyn er mwyn gwneud gwir wahaniaeth ym Mharc Cenedlaethol Eryri.