Newid Hinsawdd

Tyrbin gwynt

alt=Traphont Viaduct

Addasu i a lliniaru newid hinsawdd

Lliniaru

Oherwydd gollyngiadau hanesyddol nwyon tŷ gwydr, bellach mae hi'n rhy hwyr i ni osgoi newid hinsawdd. Fodd bynnag, gall pobl effeithio ar raddfa newidiadau'r dyfodol trwy leihau ein graddfa gyfredol o ollyngiadau nwyon tŷ gwydr - cyfeirir at hyn fel lliniaru ar gyfer newid hinsawdd. Gosodwyd targedau ar draws y byd o dan y protocol Kyoto ar sut y gallwn wneud hyn, gyda Llywodraeth Cymru wedi rhoi addewid i dorri nwyon ty gwydr o 3% bob blwyddyn 3% * mewn ardaloedd datganoledig cymwys o'i gymharu â chyfartaledd gwaelodlin o ollyngiadau a gymerwyd yn ystod y cyfnod rhwng 2006 - 2010. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am dargedau newid hinsawdd yng Nghymru yn y Strategaeth Newid Hinsawdd ar gyfer Cymru (2010) ar wefan Llywodraeth Cymru.

* Nid yw'r gollyngiadau o 3% yn cynnwys gollyngiadau yn sgil cynhyrchu ynni nac o ddiwydiannau trwm.

Addasu

Yn ogystal â lliniaru er mwyn lleihau newidiadau'r dyfodol, mae'n rhaid i ni ddysgu delio gyda'r newidiadau yr ydym ni eisoes wedi ymrwymo iddynt oherwydd y gollyngiadau cyfredol a hanesyddol - y term a ddefnyddir ar gyfer hyn yw addasu. Mae'n hanfodol nad yw'n dulliau ar gyfer addasu ar gyfer newid hinsawdd yn gwrthdaro gyda'n mesurau lliniaru. Er enghraifft, petai bob cartref yn y DG yn gosod uned cyflyru'r awyr er mwyn delio gyda'r tymheredd cynyddedig a ddisgwylir yn sgil newid hinsawdd, yna fe fyddai'r galw am ynni yn cynyddu'n sylweddol, a'r canlyniad fyddai bod rhagor o nwyon ty gwydr yn cael eu gollwng! Gall mesurau addasu amrywio yn sylweddol o ran math a graddfa, - o weithredu prosiectau cymunedol ar raddfa fach i ymgymryd â rheoli adnoddau dwr ar sail dalgylch neu adeiladu amddiffynfeydd llifogydd arfordirol.

Bydd newid hinsawdd, a'i newidiadau cysylltiedig, yn cyflwyno heriau newydd i'r Parciau Cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain. Bydd cwestiynau yn cael eu codi ar draws y sbectrwm cymdeithasol, economaidd ac ecolegol mewn perthynas â sut yr ydym ni'n rheoli ein Parciau, ar gyfer pa ddiben, ac fe fydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn ymateb i'r heriau hyn. Fodd bynnag, rydym ni'n credu, fel Parc Cenedlaethol, y dylwn ni fod yn gosod esiampl i Awdurdodau eraill a sectorau a'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch pwysigrwydd gweithredu mesurau lliniaru ac addasu ar gyfer newid hinsawdd. Rydym yn gwneud hyn nid yn unig er mwyn gwarchod y rhinweddau arbennig sy'n gwneud Eryri mor unigryw, ond hefyd er mwyn cynnal swyddogaeth ein hamgylchedd naturiol ac er mwyn sicrhau ein bod wedi paratoi yn ddigonol ar gyfer y newidiadau a ddaw yn sgil newid hinsawdd heb os nac oni bai.

Mae cynlluniau addasu a lliniaru yn debygol o gynnwys rhyw gymaint o ddargyfeirio, a lle bo gwrthdaro diddordeb / neu les yn bodoli, bydd angen eglurder mewn perthynas â blaenoriaethu er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau clir a chryno. Dyma enghreifftiau lle gall gwrthdaro godi:

  • Adeiladu llynnoedd newydd er mwyn darparu dŵr i ardaloedd trefol vs gwarchod tirwedd y Parc Cenedlaethol;
  • Cynlluniau storio carbon fel plannu coedlan vs diddordeb cynefinoedd bioamrywiaeth fel gorgors, rhostir ayyb;
  • Hyrwyddo'r diwydiant twristiaeth a hamddena o fewn Parciau Cenedlaethol vs ymdrechion i gynnal hunaniaeth ddiwylliannol cymunedau lleol.

Er mai megis dechrau ydi hyn o ran y gwrthdrawiadau dichonol, mae'n arddangos yn amlwg yr ystod eang o ffactorau sydd angen cael eu hystyried fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwrthdrawiadau diddordeb, rydym ni'n credu trwy fabwysiadu ymagwedd holistaidd tuag at reolaeth lle mae canlyniadau penderfyniad ar yr holl ddiddordebau eraill yn cael eu hystyried, gellir cael aml fuddion yn sgil dewisiadau rheolaethol.

Term cyffredin a ddefnyddir i ddisgrifio rheolaeth holistaidd o'n hamgylchedd naturiol yw'r ymagwedd ecosystem tuag at reolaeth a chadwraeth tir. Mae'r term hwn yn egluro'r angen i ystyried canlyniadau gweithrediadau ar bob rhan o'r amgylchedd er mwyn cynnal a chadw iechyd ecosystem tra ar yr un pryd yn ennill aml fuddion o'r ecosystem honno. Byddai hyn yn cynnwys gwasanaethau yr ydym ni'n dibynnu arnynt i oroesi a gwarchod yr amgylchedd naturiol. Mae esiamplau o wasanaethau sy'n hanu o ecosystemau yn cynnwys cyflenwi a rheoli adnoddau dwr, coedlannau cynaliadwy fel ffynonellau coed, mwynhad a bioamrywiaeth, a chynnal a chadw iechyd pridd ar gyfer buddion amaethyddol. Yn ychwanegol at sicrhau cynaliadwyedd y gwasanaethau hanfodol hyn, bydd ecosystemau iach yn darparu aml fuddion trwy gynnal cynefinoedd a phoblogaethau rhywogaethau dan amodau ffafriol, sydd ynddynt eu hunain yn hanfodol ar gyfer swyddogaeth ein hamgylchedd naturiol.

Sut fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar Eryri a'i chymunedau?

Ni fydd y newidiadau uchod yn ein hinsawdd yn digwydd heb i neb sylwi arnynt – byddant yn cael ardrawiadau / effeithiau mawr ar ein bywydau bob dydd, yn ogystal ag ar natur, a'r adnoddau naturiol y maent yn eu cynhyrchu. Yn Eryri, bydd raid i'r diwydiannau mawr fel amaethyddiaeth, twristiaeth a choedwigaeth addasu, a bydd angen i Lywodraethau lleol sicrhau y bydd gwasanaethau cyhoeddus ac isadeiledd hanfodol yn gallu ymdopi gyda'r newidiadau hinsoddol. Dylid nodi nad yw newid hinsawdd yn ddu i gyd i bawb ohonom! Cyn belled â bod mesurau addasu digonol yn cael eu gweithredu, fe all newid hinsawdd ddod â chyfleoedd newydd i nifer sy'n byw ac yn gweithio ym Mharc Cenedlaethol Eryri.