Newid Hinsawdd
Does dim diwrnod yn mynd heibio heb i newid hinsawdd gael ei grybwyll yn y papurau newydd, ar y teledu neu ar y radio. Ac eto, ‘does neb yn gwybod beth mae’r term newid hinsawdd yn ei olygu, na be’ sy’n digwydd, na sut y bydd yn effeithio arnom ni, fel unigolion, nac ar ein cymdeithas a’n byd naturiol. Fodd bynnag, dydi newid hinsawdd ddim yn rhywbeth sydd yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol yn unig …..maen nhw’n newidiadau sy’n digwydd eisoes yn awr, ac fe fydd yr ardrawiadau cysylltiedig yn effeithio ar Gymru yn sylweddol dros y ganrif nesaf - hynny ydi, yn ystod oes nifer ohonom ni!
Tra fo newidiadau hinsoddol naturiol wedi digwydd ar y Ddaear trwy gydol ei hanes, bellach mae yna dystiolaeth ddigamsyniol fod gweithgareddau a achosir gan ddyn, fel llosgi ffosilau tanwydd, wedi achosi tymheredd bydol graddfa uwch dros y 50 mlynedd ddiwethaf na’r hyn a welwyd dros gyfnod o filoedd o flynyddoedd. Trwy gynyddu'r graddfeydd gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, rydym wedi newid cyfansoddiad atmosffer y Ddaear, a chanlyniad hynny yw rhagor o ynni yn cael ei ddal gan yr haul gan achosi tymheredd bydol i godi - adwaenir hyn fel yr effaith tŷ gwydr.
Felly beth ydi nwyon tŷ gwydr? Er bod yna nifer, y 3 prif nwy a adnabyddir yw:
- Carbon deuocsid, sy’n cael ei rhyddhau i'r atmosffer trwy losgi tanwydd ffosil, coed a chynnyrch coed, cynhyrchu sment a cholli carbon trwy ddigoedwigo a newid defnydd tir;
- Methan / Llosgnwy, sy’n cael ei ollwng pan fo gwastraff organig yn pydru, boed hynny mewn safleoedd tirlenwi neu mewn cysylltiad â ffermio da byw. Hefyd mae gollyngiadau llosgnwy yn gallu digwydd yn ystod cynhyrchiad a chludiant tanwyddau ffosil. Mae llosgnwy 21 gwaith yn gryfach fel nwy ty gwydr na charbon deuocsid;
- Ocsid nitraidd, sy’n cael ei ollwng yn ystod gwahanol brosesau amaethyddol a diwydiannol, a pan fo gwastraff caled neu danwydd ffosil yn cael eu llosgi. Mae ocsid nitraidd yn 310 gwaith yn gryfach fel nwy tŷ gwydr na charbon deuocsid.
Newidiadau a ragwelir yn Eryri
Erbyn diwedd yr 21 ganrif, yn sgil newid hinsawdd fe all Eryri edrych a theimlo yn wahanol iawn i'r hyn rydym ni’n gyfarwydd ag o heddiw. Trwy ddefnyddio technegau modelu a thechnoleg ddiweddar (UKCP09), disgwylir gweld y newidiadau a ganlyn yng Nghymru erbyn yr 2080’au trwy ddefnyddio 3 golygfa yn seiliedig ar lefelau gwahanol o ollyngiadau nwyon ty gwydr yn y dyfodol (a gyfeirir atynt fel golygfeydd / senarios gollyngiadau Isel , Canolig ac Uchel):
Tymh Gaeaf Cymedrig (°C)* | Tymh Haf Cymedrig (°C)* | Tymh Dyodiad Blynyddol* | Tymh Dyodiad Gaeaf* | Tymh Dyodiad Haf* | |
*lefelau gwaelodlin yn 1961 – 1990 ar gyfartaledd. | |||||
2020au | |||||
Isel | +1.2 | +1.5 | +1% | +5% | -6% |
Canolig | +1.3 | +1.4 | 0% | +7% | -7% |
Uchel | +1.2 | +1.3 | 0% | +5% | -4% |
2050au | |||||
Isel | +1.8 | +2.2 | -1% | +9% | -12% |
Canolig | +2 | +2.5 | 0% | +14% | -17% |
Uchel | +2.3 | +2.8 | 0% | +13% | -17% |
2080au | |||||
Isel | +2.4 | +2.7 | 0% | +16% | -13% |
Canolig | +2.8 | +3.5 | 0% | +19% | -20% |
Uchel | +3.3 | +4.5 | 0% | +26% | -26% |
Er na ddisgwylir i newidiadau hinsoddol yn Eryri i fod mor eithafol â’r rhai sy’n digwydd ym mhen deheuol a dwyreiniol Ynysoedd Prydain, rydym yn dal yn debygol o brofi newidiadau sylweddol dros y degawdau sydd i ddod. Er y bydd cyfartaledd y dyddodiad blynyddol yn gyson gan mwyaf, rydym yn debygol o weld gwahaniaethau sylweddol mewn patrymau tywydd tymhorol. Er enghraifft, erbyn 2080au, er y rhagwelir y bydd y disgyniad glaw yng Nghymru yn aros fel ac y mae yn awr o dan y 3 golygfa, mae patrwm y disgyniad glaw yn debygol o newid yn sylweddol, gyda gaeafau yn debygol o fod 26% yn wlypach a’r disgyniad glaw yn yr haf yn disgyn yr un faint a hynny. Gallwn ddisgwyl i dymheredd y gaeaf a’r haf i gynyddu hyd at 3.3°C a 4.5°C yn olynol. O ganlyniad, bydd y newidiadau hyn, ynghyd â’r digwyddiadau o dywydd eithafol yn cynyddu, yn effeithio ar bob un ohonom, gan gynnwys unigolion a theuluoedd a’r sectorau diwydiannol ac awdurdodau'r Llywodraeth, ac felly mae addasu ar gyfer newid hinsawdd yn hanfodol er mwyn lleihau’r effeithiau / ardrawiadau ar ein cymdeithas, yr economi a’r byd naturiol.