Partneriaeth Tirwedd y Carneddau

alt=

Y Carneddau

Ardal fawr ac amrywiol o ucheldir yng ngogledd y Parc Cenedlaethol yw’r Carneddau, lle ceir dau o bum copa Cymru sydd dros 1000m, sef Carnedd Llywelyn a Charnedd Dafydd.

Mae’r ardal yn gartref i lawer o anifeiliaid a phlanhigion prin, yn cynnwys rhywogaethau adar eiconig fel y frân goesgoch, yn ogystal â chynefinoedd pwysig fel rhostir mynydd, y twndra Cymreig.

Brân goesgoch

Rhostir mynydd, Carnedd Dafydd (© CNC)

Mae'r uchafbwyntiau archaeolegol yn cynnwys carneddau claddu 4,000 o flynyddoedd oed ar y copaon, a chaeau creiriol eang a chytiau crynion o anheddiad yn dyddio tua 2,000 o flynyddoedd yn ôl ar y llethrau canol.

Carneddau cynhanesyddol, Carnedd Dafydd © YAG

Caeau creiriol © Hawlfraint y goron: CBHC

Yn crwydro'r mynydd agored mae math o ferlod gwydn, lled-wyllt. Yn bywiogi'r dirwedd ddiwylliannol mae traddodiadau, chwedlau ac enwau lleoedd Cymreig.

Merlod y Carneddau (© APCE)

Hel defaid (© John Roberts)