Archaeoleg

Maen y Bardd, Rowen

alt=Pont Tai Hirion, Migneint

Cyn-hanes

Er bod y dystiolaeth gynharaf o ddeiliadaeth ddynol yn dyddio i rhwng 4000 a 3000 CC, mae'n debygol y camfanteisiwyd ar Eryri a’i defnyddio yn fuan ar ôl yr oes iâ ddiwethaf. Nodweddir tystiolaeth o orffennol cyn hanesyddol y rhanbarth gan olion systemau caeau, aneddiadau a henebion yn y dirwedd. At hynny, mae'r nodweddion hyn yn debygol o fod yn dyddio o'r Oes Neolithig, Efydd a Haearn.

Bryn Cader Faner (© APCE)

Bryn Cader Faner (© APCE)

Bryn y Castell (© APCE)

Bryn y Castell (© APCE)

Yn wahanol i rannau eraill o Brydain, mae Eryri yn ddigon ffodus i gadw olion helaeth o systemau caeau cyn hanesyddol. Yn nodweddiadol mae ei ucheldiroedd yn cynnwys caeau afreolaidd â chylchoedd cytiau bach wedi eu diffinio'n fras, tra bo'r iseldiroedd yn cynnwys ffiniau sylweddol gyda grwpiau ffurfiol o geblau a systemau caeau. Ymddengys bod yr aneddiadau hyn hefyd yn dilyn y patrwm nodweddiadol a welir yng Ngogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys clwstwr o gylchoedd cytiau gydag amgaeadau bach. Yn ogystal, mae rhai o'r aneddiadau mwy datblygedig yn dilyn siâp polygonaidd gydag un o adeiladau mwy hirsgwar. Mae ymchwiliadau o'r awyr wedi datgelu bod marciau cnydau cyn hanesyddol yn parhau yn y dirwedd. Mae nodweddion gwahanol eraill yn cynnwys caeau cylchol, bryngaerau a siambrau claddu Oes Neolithig a’r Oes Efydd.