Archaeoleg

Maen y Bardd, Rowen

alt=Pont Tai Hirion, Migneint

Diwydiannol

Dechreuwyd defnyddio adnoddau naturiol Eryri cynhanes; fodd bynnag, ni ddigwyddodd hyn ar raddfa ddiwydiannol hyd nes y gwelwyd datblygiadau'r ddeunawfed ganrif. Ni ddigwyddodd diwydianaethu'r rhanbarth dros nos ac mae'n debygol y buasai yn ganlyniad o gydgyfeirio gwahanol ffactorau. Yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif sefydlodd y Senedd Ymddiriedolaethau Tyrpeg i reoli'r ffyrdd; nododd hyn newid yn y rhanbarth tuag at un a oedd yn fwy hygyrch ac wedi'i gysylltu â'r byd tu allan. Datblygwyd llwybrau ôl-gysïo, ac yn ddiweddarach adeiladwyd ffyrdd a phontydd Telford ynghyd â'r rhwydwaith rheilffyrdd. Ar yr un pryd, adeiladwyd harbwr newydd ym Mhorthmadog a dyma'r cefndir ar gyfer datblygu chwareli Ffestiniog.

Cefn Coch, Llanelltyd (© APCE)

Cefn Coch, Llanelltyd (© APCE)

Cwm Prysor (© APCE)

Cwm Prysor (© APCE)

O'r holl ddiwydiannau, chwareli llechi yw'r diwydiant sydd wedi bod yr un mwyaf arwyddocaol sydd wedi datblygu yn y rhanbarth o bell ffordd. Fe ddechreuodd dyfu yn y ddeunawfed ganrif ac ehangodd yn gyflym yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Am fwy na chanrif, roedd y diwydiant yn ffynhonnell sylweddol ar gyfer gwaith ac roedd yn cyflogi tua 12,000 o ddynion ar ei anterth. Yn ychwanegol at y chwareli eu hunain, datblygodd argaeau, cyrsiau dŵr, systemau cludiant, cyfleusterau porthladd ac ystod o ddiwydiannau a gwasanaethau rhyng ddibynnol. Yn ystod dynodiad Eryri fel Parc Cenedlaethol yn 1949, roedd llawer o'r ardaloedd chwarelyddol yn dal i fod yn weithredol. O ganlyniad, cafodd y rhain eu heithrio rhag cael eu dynodi. Ers hynny, mae nifer o'r safleoedd chwarelydda wedi cael eu cofrestru, sy'n nodi eu pwysigrwydd i archeoleg ddiwydiannol. Yn fwy diweddar, mae cais dan arweiniad Cyngor Gwynedd ar y gweill i gael rhai o'r safleoedd chwarelydda a'r safleoedd cysylltiedig wedi'u dynodi fel Safleoedd Treftadaeth y Byd cydnabyddedig.

Pont Scethin (© APCE)

Pont Scethin (© APCE)

Chwarel Rhiwbach (© APCE)

Chwarel Rhiwbach (© APCE)

Yn ogystal â llechi, mae chwareli cerrig hefyd yn ymddangos fel petai wedi bod yn ddiwydiant pwysig. Yn ystod ei anterth, roedd chwareli cerrig y Graiglwyd a Phenmaenmawr yn cyflogi tua 1,000 o ddynion. Mae rhanbarth Eryri hefyd yn cynnwys amrywiaeth o fwynau, gan gynnwys copr, haearn ac aur. Gwelwyd y rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu hecsbloitio neu eu cam-fanteisio yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gellir gweld gweddillion mwyngloddiau, melinau ac adeiladau cysylltiedig ar draws y dirwedd. Roedd llawer o'r rhain yn aflwyddiannus gan nad oedd yr ymdrech i echdynnu mwynau yn esgor ar fawr o enillion. Serch hynny, maent yn enghreifftiau gwerthfawr o archeoleg ddiwydiannol. Mae'r ffaith bod rhai wedi'u lleoli mewn ardaloedd anghysbell neu wedi'u cuddio mewn planhigfeydd coedwigol yn golygu bod maint eu cadwraeth yn ardderchog.

Chwarel Rhosydd (© APCE)

Chwarel Rhosydd (© APCE)

Ynys y Pandy (© APCE)

Ynys y Pandy (© APCE)