Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Cefndiroedd Zoom

Mae miliynau o bobl bellach yn defnyddio Zoom er mwyn cysylltu a'i gilydd. Pam lai lawrlwytho llun o Eryri fel cefndir newydd? Mi fyddwn ni'n diweddaru'r dudalen yma gyda thema wythnosol felly cofiwch ddod nol!

Newid eich cefndir Zoom ar eich cyfrifiadur

1. Yn yr ap Zoom, cliciwch ar eich proffil yn y gornel uchaf dde a clicio 'Settings'.

2. Ar y ddewislen ar y chwith cliciwch 'Virtual Background'.

3. Mi welwch ychydig o gefndiroedd wedi eu darparu gan Zoom. Cliciwch + ble mae'n dweud 'Virtual Background'. Mi fydd bocs yn ymddangos yn eich galluogi chi uwchlwytho llun o'ch cyfrifiadur. Cliciwch eich dewis a mi fydd yn ymddangos fel opsiwn newydd i chi.

4. Er mwyn gwaredu unrhyw luniau rydych yn uwchlwytho, cliciwch X ar y gornel uchaf chwith.

Newid eich cefndir Zoom ar ap symudol

1. Pan fyddwch yn mewngofnodi ac ymuno a sgwrs, cliciwch ar y tri dot ar waelod dde eich sgrin i agor y ddewislen.

2. Cliciwch 'Virtual Background'.

3. Uwchlwythwch eich llun a'i ddewis.

Lawrlwythwch un o'n templedi

1. Cliciwch un o'r dolenni er mwyn agor rhagolwg

2. Cliciwch y dde ar eich llygoden a dewis 'Save as image' er mwyn lawrlwytho i'ch cyfrifiadur

Yr Ysgwrn

Yr Ysgwrn

Dark Skies

Awyr Dywyll