Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Ymgyrch “Gweld Sêr” yn Eryri

Printio

2 Chwefror 2015

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd cyfle i drigolion a busnesau yn Eryri ddarganfod mwy am ymdrech yr Awdurdod i ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol i Eryri.

Erbyn hyn, mae llygredd golau yn broblem fawr gynyddol ar hyd ac ar led Prydain. Gall defnyddio gormod o olau neu olau anaddas fod yn gostus, gall adael gormod o ôl troed carbon, a gall fod yn niweidiol i’r tirlun ac yn bendodol i fywyd gwyllt y nos. I’r perwyl hwn, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri am ymgeisio am statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol i Eryri.

Fel rhan o’r gwaith cychwynnol, bu rhai o staff Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, gwirfoddolwyr o Gymdeithas Eryri ac eraill yn cofnodi golau yn y nos ac fe gomisiynwyd yr arbenigwyr golau James Paterson a Malcolm Mackness, i gynnal arolwg o oleuadau yn Eryri. Gyda chymorth gwirfoddolwyr ac wedi oriau o arolygu, fe ddaethpwyd i’r casgliad fod gan Eryri wir botensial fel cyrchfan i ymwelwyr awyr dywyll, a bod yr awyr dywyll yn Eryri yn hynod o werthfawr ac o’r herwydd fe ddylai’r Awdurdod ei warchod.

Ar ran yr Awdurdod, dywedodd y Cyfarwyddwr Cynllunio a Threftadaeth Jonathan Cawley,
“Fedrwn ni ddim anwybyddu manteision bod yn ardal sydd wedi ei dynodi’n Warchodfa Awyr Dywyll. Bydd bywyd gwyllt yr ardal yn cael ei ddiogelu, bydd ansawdd yr amgylchedd yn gwella, a bydd atyniad naturiol newydd i ddenu ymwelwyr newydd i Eryri ar gyfnodau tawel o’r flwyddyn. Bydd hyn yn ei dro yn gwella’r economi leol a bydd awyr dywyll Eryri yn cael ei diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Fyddwn ni ddim yn mynnu fod goleuadau nos yn cael eu diffodd a fyddwn ni ddim yn gofyn i neb wario symiau mawr o arian yn newid eu holl oleuadau! Y cyfan ofynnwn ni yw i bobl addasu eu defnydd o olau. Mae’n bwysig i ni esbonio mwy a chael cydweithrediad trigolion Eryri yn hyn o beth. Rydym felly wedi paratoi cyfres o gyfleoedd i’r cyhoedd gyfarfod a thrafod oblygiadu’r statws gyda’n swyddogion.”

I’r perwyl hwn, trefnwyd cyfres o nosweithiau galw i mewn yn y lleoliadau canlynol, rhwng 5.30 ac 8 o’r gloch yr hwyr:
• Nos Iau, Chwefror 19 Neuadd y Pentref, Trawsfynydd
• Nos Lun, Chwefror 23, Tŷ Siamas, Dolgellau
• Nos Fawrth, Chwefror 24, Plas y Brenin, Capel Curig
• Nos Fercher, Chwefror 25, Neuadd Goffa Ysbyty Ifan
• Nos Iau, Chwefror 26, Neuadd Henblas, Y Bala
• Nos Lun, Mawrth 2, Neuadd Bentref Beddgelert

Yn ogystal, trefnwyd cynhadledd i bobl sydd â diddordeb yn y statws, ac mae ychydig o lefydd ar ôl i’r gynhadledd a gynhelir ddydd Mercher, 18fed o Chwefror ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog.

Am fwy o fanylion, cyswylltwch â Gethin Davies yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, 01766 770274.

De-select box to type in content

Diwedd

Nodyn i Olygyddion

  1. Sefydliad di-elw ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau dros chwarter canrif yn ôl yw Sefydliad Rhyngwladol Awyr Dywyll a’i nod yw gwarchod a diogelu amgylchedd y nos. Un agwedd ar waith y sefydliad yw gwobrwyo lleoliadau sy’n gallu profi fod eu hawyr nos o ansawdd rhagorol ac sy’n ymdrechu i leihau llygredd golau.
  2. Mae rhai ardaloedd o’r DU, megis Galloway yn yr Alban, Parc Dŵr a Choedwig Kielder yn Northumberland a Bannau Brycheiniog yng Nghymru eisoes wedi cael eu cydnabod am safon eu hawyr nos glir drwy gael eu dynodi’n Warchodfeydd Awyr Dywyll Ryngwladol.
  3. Manylion y llun: Tŷ Cipar, Llyn Conwy gan Keith O’Brien. Dylid cydnabod enw’r ffotograffydd os ydych yn defnyddio’r llun.