Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Gwahodd trigolion i gyfrannu at waith ymchwil ar leihau effaith llinellau pŵer

Printio

21 Ionawr 2015

Cyfle i bobl helpu i gyfrannu at waith ymchwil cychwynnol i leihau effaith weledol llinellau trydan ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Mae preswylwyr sy’n byw yn y ddau Barc Cenedlaethol ac yn yr ardaloedd cyfagos yn cael eu gwahodd i rannu eu gwybodaeth leol ar gyfer prosiect i leihau effaith weledol peilonau.

Ym mis Tachwedd 2014, dynododd National Grid ddwy ran o linellau pŵer uwchben sy’n croesi afon Dwyryd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, ger Porthmadog a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ger y Fenni, fel y rhai oedd yn cael yr effaith fwyaf yn weledol ar y dirwedd.

Mae’r cwmni bellach yn bwriadu cynnal digwyddiad cyhoeddus yn yr ardaloedd hyn, er mwyn i bobl leol rannu eu gwybodaeth am yr ardal a helpu i gyfrannu at y gwaith ymchwil cychwynnol. Ar hyn o bryd mae National Grid yn ymchwilio i weld a oes modd lleihau effaith y llinellau trawsyrru hyn yn y Parciau Cenedlaethol.

Er mwyn helpu i gyfrannu at y gwaith ymchwil cychwynnol hwn, cynhelir digwyddiadau cyhoeddus i bobl leol rannu eu safbwyntiau a’u gwybodaeth leol. Bydd aelodau o'r tîm prosiect wrth law i ateb cwestiynau a rhoi rhagor o wybodaeth am y prosiect.

Cynhelir y digwyddiad ar gyfer Parc Cenedlaethol Eryri ar ddydd Mawrth 27 Ionawr yn y lleoliad isod ac ar yr amser a nodir:
• Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri, Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Gwynedd LL41 3YU
• Amser: 2.00pm - 8.00pm

Cynhelir y digwyddiad ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar ddydd Mercher 28 Ionawr yn y lleoliad isod ac ar yr amser a nodir:
• Gwesty’r Kings Arms, 29 Stryd Nevill, Y Fenni NP7 5AA
• Amser: 2.00pm - 8.00pm

Dywedodd Hector Pearson, Rheolwr Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol, National Grid
“Mae rhwydwaith trydan National Grid yn hanfodol i’n ffordd ni o fyw, ond mae’r prosiect hwn yn gyfle go iawn i ni helpu i leihau ei effaith ar dirweddau gwerthfawr fel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Pharc Cenedlaethol Eryri. Y digwyddiadau hyn yw'r cam cyntaf o ran casglu gwybodaeth hanfodol i'n helpu ni i ystyried a yw'n bosib lliniaru effaith weledol y llinellau trawsyrru hyn yn y Parciau Cenedlaethol.”

Dywedodd Julian Atkins, Cyfarwyddwr Rheoli Tir a Chefn Gwlad Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
"Mae gwybodaeth leol yn hanfodol a bydd yn ychwanegu manylion pwysig i waith ymchwil National Grid, felly rydyn ni’n croesawu’r digwyddiad cyntaf hwn am y prosiect. Rydyn ni’n awyddus i weld trigolion yn rhannu eu gwybodaeth â National Grid er mwyn i’r prosiect allu symud ymlaen, a gobeithio, gwella effaith weledol y llinellau trawsyrru sy’n mynd drwy dirwedd hynod werthfawr a hanesyddol bwysig yn ein Parc Cenedlaethol.”

Dywedodd Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Threftadaeth Ddiwylliannol gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Rydyn ni’n annog pobl leol i ddod i’r digwyddiadau hyn a rhannu eu gwybodaeth am ein tirwedd werthfawr. Pa un ai a ydyn nhw’n rhoi gwybodaeth am fywyd gwyllt, archaeoleg neu dreftadaeth, mae’r trigolion lleol mewn sefyllfa dda i rannu gwybodaeth a gaiff ei hystyried gan dîm y prosiect.”

Mae’r gwaith ymchwil yn rhan o’r prosiect Darpariaeth Effaith Weledol*, menter fawr i leihau effaith weledol y llinellau trawsyrru presennol mewn ardaloedd a warchodir ledled Prydain Fawr. Bydd y prosiect yn defnyddio lwfans o £500 miliwn sydd ar gael gan Ofgem tan 2021.

Diwedd

Nodyn i Olygyddion

*Am y Ddarpariaeth Effaith Weledol
Mae’r holl berchnogion trawsyrru trydan yn cael eu cyllido gan fecanwaith rheoli pris a bennir ac y cytunir arno gan Ofgem, y rheoleiddiwr ar gyfer marchnadoedd trydan a nwy. Mae Ofgem wedi cytuno ar gyfres o fesurau rheoli prisiau a chymhelliant ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2021. Mae’r mesurau rheoli a chymell ar gyfer y pris newydd yn cynnwys darpariaeth o £500 miliwn i liniaru effaith weledol y seilwaith trydan presennol mewn tirweddau a warchodir yn genedlaethol ym Mhrydain Fawr.

I National Grid, sef y perchennog trawsyrru trydan yng Nghymru a Lloegr, mae hyn yn golygu ystyried dymunoldeb gweledol ein seilwaith presennol mewn Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

National Grid yw un o’r cwmnïau ynni mwyaf yn y byd sy’n eiddo i fuddsoddwyr ac mae wedi cael ei enwi fel Busnes Cyfrifol y Flwyddyn 2014 gan Busnes yn y Gymuned. Rydym yn berchen ar ac yn rheoli’r gridiau sy’n cysylltu pobl i’r ynni y mae arnynt ei angen, o ba ffynhonnell bynnag. Ym Mhrydain ac yn nhaleithiau gogledd ddwyreiniol UDA rydym yn cynnal systemau sy’n cyflenwi nwy a thrydan i filiynau o bobl, busnesau a chymunedau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr her ynni ar gael yn www.nationalgridconnecting.com.