Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Y Gweinidog Lesley Griffiths i lansio prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru LIFE

Printio

29 Awst 2019

Dydd Iau y 5ed o Fedi bydd y Gweinidog Cymreig, Lesley Griffiths, yn lansio prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru yn swyddogol yn Neuadd Bentref Ganllwyd ger Dolgellau. Bydd rhanddeiliaid yn dod ynghyd i ddysgu am nodau’r prosiect 7 mlynedd, a ariennir yn bennaf gan raglen LIFE yr UE a Grant Seilwaith Gwyrdd Llywodraeth Cymru.

Nod y prosiect newydd sylweddol hwn yw gwella cyflwr ecolegol coetiroedd derw hynafol yng Nghymru, a elwir yn Goedwigoedd Glaw Celtaidd. Mae'r cynefinoedd hyn yn cynnal amrywiaeth eang o rywogaethau, rhai ohonynt yn brin iawn, ac oherwydd yr amrywiaeth hon mae'r coetiroedd hyn yn rhyngwladol bwysig. O ddiddordeb arbennig yw eu poblogaethau rhagorol o fflora'r Atlantig o fryoffytau a chen, ac ochr yn ochr â'r llu o rywogaethau planhigion eraill sy’n byw yn y coedlannau maen nhw’n darparu'r cartref perffaith i bryfed, adar a mamaliaid bach fel y gwybedog brith a'r ystlum pedol lleiaf.

Ar hyn o bryd, mae llawer o goetiroedd brodorol Cymru mewn cyflwr anffafriol. Ymhlith y prif fygythiadau i'r coetiroedd mae presenoldeb rhywogaethau planhigion estron goresgynnol fel Rhododendron ponticum, cyfundrefnau pori annigonol, a diffyg rheolaeth coetirol, a heb yr ymyriadau a gynigir trwy gyfrwng y prosiect hwn, byddai cyflwr y coetiroedd hyn yn sicr yn dirywio ymhellach.  

Yn ogystal â buddion ecolegol y gwaith arfaethedig, bydd adfer y coetiroedd hefyd yn cynnig buddion cyhoeddus sylweddol o ran creu amgylchedd mwy dymunol, amrywiol a diddorol i bobl ymweld ag o a'i fwynhau. Mae yna gyfrifoldeb mawr o fewn y prosiect i ymgysylltu â chymunedau lleol, gyda'r nod o sicrhau hyfywedd y coetiroedd y tu hwnt i hyd y prosiect. Trwy wneud hynny, rydym yn gobeithio ysbrydoli pobl i hyrwyddo a gofalu am Goedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru, gan sicrhau etifeddiaeth i'r prosiect am genedlaethau i ddod.

Lesley Griffiths, Gweinidog:

"Mae'r prosiect yma yn cryfhau gwydnwch rhai o'n ecosystemau fwyaf gwerthfawr ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ymateb Cymru i newid hinsawdd ac argyfyngau ecolegol. Mae'r Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn hanfodol i les Cymru. Mae'r prosiect yma'n enghraifft ragorol o sut mae ysgogi amrywiaeth o bartneriaid a'r gymuned leol i warchod ein treftadaeth naturiol yn galluogi hybu ein economi leol tra'n cyflawni ein cyfrifoldebau fyd-eang."

Mae Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ei gyffroi gan uchelgais y prosiect:

“Yn ychwanegol at y gwelliannau hanfodol y bydd y prosiect yn ei wneud i'r cynefinoedd gwerthfawr hyn, mae hefyd yn dod â buddion economaidd sylweddol i rannau o gefn gwlad Cymru. Trwy ddefnyddio contractwyr a darparwyr gwasanaeth lleol i'n helpu i gyflawni'r prosiect uchelgeisiol hwn, byddwn yn sicrhau bod buddion economaidd sylweddol y prosiect yn aros yng Nghymru, un o amcanion allweddol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.”

Dywedodd Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:

“Mae Cymru yn cynnal hanner coed derw digoes Atlantig Gorllewinol y byd, felly mae sicrhau dyfodol ein Coedwig Glaw Celtaidd yn bwysig ar raddfa fyd-eang. Bydd y prosiect hwn o fudd i gennau coed prin, ac adar fel teloriaid y coed a'u cân gyfoethog sy'n nodweddiadol o gorws y wawr mewn coetiroedd. Mae cyllid EU-LIFE yn fan cychwyn hanfodol, ond mae'n dyngedfennol bod cyllid ar gael i reolwyr tir edrych ar ôl cefn gwlad Cymru ac adfer lleoedd mor werthfawr y tu hwnt i Brexit, gan barhau â'r rheolaeth gadarnhaol y bydd y prosiect cyffrous hwn yn ei gyflawni.”

Ychwanegodd Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw Cymru:

“Nid dim ond adfer y safleoedd hyn sy'n bwysig - mae'n bwysig cael bobl i gymryd rhan ynddynt, eu cael i rannu'r cyffro, a'r hud y gallant ei sbarduno. Os yw pobl wirioneddol yn gwerthfawrogi rhywbeth, byddan nhw'n helpu i'w amddiffyn. Felly mae'r prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd yn anelu at adeiladu ar y brwdfrydedd hwn. Dyna'r rheswm, wrth gwrs, pam fod bron pob un o'n coetiroedd ni ein hunain ar agor i bawb ymweld â nhw, ar unrhyw adeg ac am ddim. Mae hwn yn brosiect gwych ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan ohono.”

Nodyn i Olygyddion

  1. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu Grant Seilwaith Gwyrdd gwerth £2 filiwn, gan alluogi'r bartneriaeth i ddenu £4.5m arall gan y Comisiwn Ewropeaidd trwy eu rhaglen LIFE Natur a Bioamrywiaeth.
  2. Arweinir y prosiect gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar ran partneriaeth sy'n cynnwys RSPB Cymru, Coed Cadw,  Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru.
  3. Elfen allweddol o'r prosiect yw cael gwared ar Rododendron ponticum o'r tu mewn i'r coetiroedd, a'r clustogfeydd o'u cwmpas. Mae'r planhigyn estron goresgynnol hwn yn atal llystyfiant brodorol, gan greu amodau sy'n anffafriol i fywyd gwyllt arall. Yn benodol, mae'r planhigyn yn atal golau haul rhag cyrraedd llawr y coetir, atal eginblanhigion derw ifanc rhag ymsefydlu, a goresgyn planhigion brodorol eraill.
  4. Mewn rhai safleoedd, mae'r gorchudd trwchus o goed conwydd a gyflwynwyd wedi bod yn taflu cysgod dros bridd y coetir hynafol oddi tano, gan atal y blodau gwyllt a lleihau'r ystod o bryfed ac adar a fu unwaith yn ffynnu yno. Fel rhan o'r prosiect, bydd planhigfeydd conwydd yn cael eu teneuo i annog rhywogaethau brodorol i ailsefydlu.
  5. Amcan craidd arall y prosiect yw gwella rheolaeth tir mewn coetiroedd dethol, trwy gyflwyno pori fel offeryn rheoli mewn rhai safleoedd. Bydd gwartheg, defaid a merlod yn cael eu cyflwyno i rai meysydd fel y bo'n briodol, ac i hyrwyddo arfer gorau trwy arddangos y gwaith hwn trwy astudiaethau achos a digwyddiadau.
  6. Disgwylir i bedair ardal wledig ledled Cymru elwa. Dyma'r ardaloedd sy'n lleol i bum Ardal Gadwraeth Arbennig (ACA): ACA Eryri, ACA Coed Derw a Safleoedd Ystlumod Meirionnydd, ACA Coed Cwm Einion, ACA Coetiroedd Cwm Elan a ACA Cwm Doethie - Mynydd Mallaen.
  7. Yn ogystal â sgwrs gan y Gweinidog clywir gan Martin Harper o'r RSPB; Natalie Buttriss o Goed Cadw ac Emyr Williams o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn y lansiad. Bydd taith gerdded dywysedig o amgylch Ystâd Dolmelynllyn yn Ganllwyd yn dilyn yn y prynhawn. Bydd yr ystâd, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn arddangos rheolaeth lwyddiannus coetiroedd, gyda gwartheg yr Ucheldir yn enghraifft berffaith o sut y gall pori cadwraethiaethol fod o fudd i’r cynefin.
  8. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar 01766 770274 / 07900 267506 neu e-bostiwch ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru