Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Mae Pythefnos Darganfod y Parciau yn cychwyn y penwythnos yma

Printio

6 Ebrill 2019

Heddiw (6 Ebrill) yw cychwyn Pythefnos Darganfod y Parciau Cenedlaethol - pythefnos o ddathliadau ar draws y DU gyda digwyddiadau a gweithgareddau yn rhedeg trwy wyliau’r Pasg er mwyn ysgogi pobl o bob oed i fwynhau, mentro a dysgu mwy am y llefydd arbennig yma.

Mae pymtheg Parc Cenedlaethol y DU yn unigryw – mae gan rai fynyddoedd uchel eraill a gwlyptiroedd troellog a rhai gyda arfordiroedd dramatig. Mae nhw’n cynnig cyfloedd diddiwedd i ddarganfod, dysgu ac ymlacio trwy amryw o ffyrdd megis antur gyda’r rhai bychan, taith hamddenol gyda’r teulu, gweithgareddau anturus i bobl ifanc i’w temtio ffwrdd o’i ffonau neu ddigwyddiadau diwylliedig yn canfod hanes arbennig y Parciau Cenedlaethol. Darganfyddwch fwy am yr amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau yn nationalparks.uk/discover.

Mae’r flwyddyn yma’n dynodi 70 mlynedd ers Deddf 1949 y Parciau Cenedlaethol a Mynediad Cefn Gwlad wnaeth arwain at sefydlu Parciau Cenedlaethol yn y DU.

Dywedodd John Packman, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol y Broads:  

“Mae’r pymtheg Parc Cenedlaethol wedi eu creu er mwyn gofalu am y tirweddau arbennig ar draws y DU, ac yn gwneud hyn ar ran pawb yn y wlad. Mae pen-blwydd 70 y Parciau yn amser perffaith i ni annog pobl – p’run a’i ydyn nhw’n byw yn un o’r Parciau neu yng nghanol dinas – i ddarganfod straeon amrywiol ac ysbrydoledig y pymtheg Parc Cenedlaethol.”

“Mae’r newyddion yn llawn straeon am bwysigrwydd ein iechyd meddwl a corfforol a mae treulio amser ym myd natur yn enwedig yn nyddiau’r cyfryngau cymdeithasol a byd digidol yn llesol. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn cynnig rhai o lecynnau gorau’r wlad i droi ffwrdd a phrofi cysylltiad a’n tirluniau, ein bywyd gwyllt, ein ffrindiau, ein teuluoedd a’n hunain.”

“Mae Darganfod y Parciau Cenedlaethol yn gyfle i amlygu pam bod y Parciau Cenedlaethol yn nodedig ledled y byd a pham bod angen i bawb ein helpu i’w gwarchod. Yn wahanol i amryw o Barciau Cenedlaethol ar draws y byd, mae ein tirluniau ni yn rhai byw, yn llawn o bobl – gyda amryw o bentrefi, trefi a hyd yn oed dinasoedd o fewn ffinau’r Parciau. Does dim giatiau na chôst mynediad a mae pobl yn byw ac yn gweithio yma. Mae hyn yn golygu ein bod yn fodelau byw ar gyfer dyfodol cynaliadwy gall rhannau eraill o’r DU ac o’r byd ddysgu gennym”.

Ymunwch â ni drwy ddefnyddio #PythefnosyParciau2019 a #DarganfodyParciauCenedlaethol gydol y flwyddyn.

DIWEDD

Nodyn i Olygyddion

  • Lluniau ar gael trwy gais
  • Mae rhestr o fwy na 70 o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar draws y pymtheg Parc Cenedlaethol yn fyw ar y wefan yma nationalparks.uk/discover

Am Barciau Cenedlaethol y DU

  • Mae 15 Parc Cenedlaethol yn y DU. 10 yn Lloegr, 3 yng Nghymru a 2 yn yr Alban. Mae’r Parciau Cenedlaethol yn gwarchod 10% o Loegr, 20% o Gymru a 8% o’r Alban.
  • Y Parc Cenedlaethol hynaf yw Parc Cenedlaethol y Peak District, sefydlwyd yn 1951 oherwydd y cerrig grut, dyffrynoedd calchfaen llethrog, mawndiroedd, ffermdir (sydd oddeutu 90% o’r parc) a’r ceudyllau sydd yn enwog am y cerrig glas.
  • Parc Cenedlaethol y South Downs yw’r Parc Cenedlaethol ieuengaf, dynodwyd yn 2010 oherwydd y canoedd o gilomedrau o goedtiroedd, trefi marchnad unigryw ucheldiroedd sialc a’i dyffrynoedd.
  • Mae Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd wedi ei ddynodi’n Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ac yn rhan o deulu enwog o safleoedd eiconig megis y Taj Mahal, Macchu Picchu, Ynys y Pasg a’r Barriff Mawr.
  • Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw’r unig Barc Cenedlaethol i’w ddynodi yn bennaf am yr arfordir, gall y cyfan ei gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Penfro sy’n 299 cilomedr o hyd.
  • Y Broads yw’r Parc Cenedlaethol lleiaf o gwmpas 305 cilomedr sgwar a gyda bron i 200 cilomedr o ddyfrffyrdd troellog i’w fforio.
  • Cairngorms yw Parc Cenedlaethol mwyaf y DU. Yn 4,528 cilomedr sgwar mae’n fwy na Lwcsembwrg gyfan.
  • https://nationalparks.uk/

Am ragor o fanylion, cysylltwch â Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu - Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 770 274, neu e-bostiwch ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru