Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Gwaith cadwraethol Yr Ysgwrn ym Mharc Cenedlaethol Eryri ymysg enillwyr Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra 2019

Printio

21 Mai 2019

Mae enillwyr Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra 2019, gwobrau fwyaf anrhydeddus yn eu maes trwy Ewrop, sy’n cael ei ariannu gan raglen Creative Europe, wedi eu cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Ewropeaidd ac Europa Nostra, rhwydwaith treftadaeth flaenllaw Ewrop.

Mae’r 25 enillydd o 16 o wledydd wedi eu cydnabod am eu gwaith anhygoel ym meysydd cadwraeth, ymchwil, gwasanaeth ymroddedig, addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth. Ymhlith y buddugwyr eleni yng nghategori Cadwraeth yw Yr Ysgwrn ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Mi fydd yr enillwyr yn cael eu anrhydeddu yng ngwobrau mawreddog Seremoni Treftadaeth Ewropeaidd ar 29 o Hydref ym Mharis yn ystod Cyngres Treftadaeth Ewrop.

Mi fydd Gwobrau Europa Nostra ar gyfer llwyddiant treftadaeth anhygoel yn cael eu derbyn gan wledydd Ewropeaidd sydd ddim yn rhan o raglen Creative Europe y UE, sef Twrci a’r Swisdir.

Mae dinasyddion ar draws Ewrop a gweddill y byd yn gallu pleidleisio ar-lein ar gyfer Gwobr Dewis y Cyhoedd a chefnogi llwyddiant o’u gwledydd eu hunain neu wlad Ewropeaidd arall.

Ymysg yr unigolion ymroddedig a gwaith treftadaeth o safon anhygoel gafodd eu gwobryo yn 2019 yw: adfer sensitif ‘Chapel of the Holy Shroud’ yn Turin, safle eiconic o dreftadaeth crefyddol gafodd ei ddifrodi mewn tân yn 1997 sydd bellach wedi ailagor i’r cyhoedd; datblygiad archif digidol o’r Roma, safle rhyngwladol hygyrch sy’n gwneud diwylliant ac hanes y Romani yn weledol yn ogystal ac ateb ystrydebau gyda straeon gan y Roma eu hunain; dyfalbarhâd un o sefydliadau anllywodraethol hynaf Ewrop sydd wedi ymroddi i warchod treftadaeth yn Norwy ers 175 o flynyddoedd; a rhaglen hyfforddiant i unigolion sy’n arbenigo mewn treftadaeth sydd wedi ffoi o Syria, caiff ei redeg gan sefydliad Almaenig yn Istanbul sydd yn enghraifft bwerus ar gyfer gwledydd Ewrop ac ymhellach.

Mae’ Comisiwn Ewropeaidd ac Europa Nostra hefyd wedi cyhoeddi Gwobr Treftadaeth Ewropeaidd Arbennig i anrhydeddu y Frigâd Dân ym Mharis. Gyda gwasanaethau’r heddlu ac arbennigwyr cadwriaethol, bu diffoddwyr tân y ddinas yn ymladd y fflamau ddifrododd y Notre Dame ar 15 o Ebrill a llwyddwyd i warchod prif strwythur yr heneb rhag llwyr ddinistr, yn ogystal a’r arteffactau tu mewn. Darllenwch ddatganiad ar wahân am y Gwobr Arbennig yng nghategori ‘gwasanaeth ymroddedig i dreftadaeth yma.

“Rwyf yn hynod falch o allu llongyfarch holl enillwyr Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra 2019. Mae’r arwyr treftadaeth hyn – yn swyddogion proffesiynol a gwirfoddolwyr o ar draws Ewrop wedi llwyddo gwneud pethau anhygoel. Mae eu gwaith yn adfer, cadw, cefnogi neu hyrwyddo henebion a safleoedd treftadaeth Ewrop yn ogystal a threftadaeth anniriaethol Ewrop i’r ansawdd uchaf posib yn anghredadwy. Mae’r Gwobrau yma yn brawf o’r effaith anhygoel mae prosiectau treftadaeth yn gael ar yr economi, amgylchedd, diwylliant ac ansawdd byw. Mae treftadaeth Ewrop yn adnodd allweddol ar gyfer dyfodol a ffyniant Ewrop. Dyma neges bwysig ag gyfer holl ddinasyddion yr UE a holl arweinwyr sefydliadau’r UE yn y dyfodol o flaen yr etholiadau Ewropeaidd” ddywedoddPlácido Domingo, y canwr opera byd enwog a Llywydd Europa Nostra.

“Mae ein treftadaeth ddiwylliannol yn adnodd ar y cyd, yn etifeddiaeth o’r gorffennol y gallwn adeiladu ein dyfodol. Mae yn ein calonnau ac yn ein bywyd dyddiol – ac yn hanfodol yn meithrin synnwyr o berthyn. Mae Blwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop yn 2018 wedi amlygu y rôl bwysig yma. Ein gwaith ni yw parhau i’w hyrwyddo yn y blynyddoedd i ddod. Mae enillwyr Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra yn chwarae rhan yn yr ymdrech yma i ymgysylltu o ganlyniad i safon eu gwaith a rydwyf yn eu llongyfarch yn fawr,” dywedodd Tibor Navracsics, Comisiynydd Ewropeaidd ar gyfer Addysg, Diwylliant, Ieuenctid a Chwaraeon.

Mae Rheithgor o arbenigwyr treftadaeth ar draws Ewrop wedi archwilio cyfanswm o 149 cais wedi eu cyflwyno o sefydliadau ac unigolion o 34 o wledydd Ewrop, ac wedi dewis y buddugwyr.

Mi fydd yr enillwyr yn cael eu anrhydedduyn Seremoni Gwobrau Treftadaeth Ewrop,sydd yn cael ei gyd-gynnal gan y Comisiynydd Ewropeaidd Tibor Navracsics a’r Maestro Plácido Domingo, a wedi ei threfnu o dan nawddogaeth Llywydd Gweriniaeth Ffrainc, Emmanuel Macron, ar noson 29 o Hydref ym Mharis. Mi fydd saith prif enillydd (fydd i gyd yn derbyn €10,000) ac enillydd Gwobr Dewis y Cyhoedd, sy’n cael ei ddewis o’r prosiectau buddugol, yn cael eu cyhoeddi yn ystod y Seremoni.

Mi fydd swyddogion lefel uchel o sefydliadau’r UE ac Aelod-Wladwriaethau, cynrhychiolwyr o gyrff treftadaeth, personél proffesiynol a chefnogwyr brwdfrydig i gyd yn mynychu’r Seremoni.

Mi fydd yr enillwyr yn cyflwyno eu llwyddiannau yn y byd treftadaeth yn y Ffair Ragoriaeth ar 28 o Hydref. Mi fyddant hefyd yn cyfrannu at nifer o ddigwyddiadau yn Nghyngres Treftadaeth Ewrop sy’n cael ei gynnal 27-30 o Hydref 2019.

Mi fydd Galwad am Gofnodion ar gyfer Gwobrau 2020 yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2019 ar y  wefan.

CYSYLLTIADAU

Europa Nostra

Audrey Hogan, ah@europanostra.org

T. +31 70 302 40 52; M. +31 63 1 17 84 55

Y Comisiwn Ewropeaidd

Nathalie Vandystadt

nathalie.vandystadt@ec.europa.eu, +32 2 2967083

I WYBOD MWY

Am bob priosect:

Information and jury’s comments,

PhotosandVideos(in high resolution)

Datganiad i’r wasg mewn amryw o ieithoedd

Gwefan Creative Europe

Gwefan y ComisiynwrNavracsics

Enillwyr Gwobrau 2019

(wedi rhestru yn nhrefn yr wyddor drwy enw’r wlad yn Saesneg)

Categori Treftadaeth

Castle of Montreuil Bonnin, FRANCE

Fortified Settlement of Mutso, GEORGIA

Chapel of the Holy Shroud, Turin, ITALY

Cathedral of Saint Bavo, Haarlem, THE NETHERLANDS

The Queen Louise Adit Complex, Zabrze, POLAND

Pavilion for the Presentation of Archaeological Remains, Celje, SLOVENIA

Lithica Quarry of s’Hostal, Menorca, SPAIN

Oratory of the Partal Palace in the Alhambra, Granada, SPAIN

The Portal of Glory, Santiago de Compostela, SPAIN

Medieval Tithe Barn, Ingatorp, SWEDEN

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, Wales, UNITED KINGDOM

Categori Ymchwil

​Solak 1: a Model of Predictive Archaeology, ARMENIA/ITALY​

VERONA: Van Eyck Research in OpeN Access, BELGIUM

RomArchive - Digital Archive of the Roma, GERMANY

Categori Gwasanaeth Ymroddedig

VVIA - Flemish Association for Industrial Archaeology, BELGIUM

Fortidsminneforeningen – National Trust of Norway, NORWAY

Categori Addysg, Hyfforddiant a Chodi Ymwybyddiaeth

TUMO Center for Creative Technologies, Yerevan, ARMENIA

History Radar 1938, Vienna, AUSTRIA

Betina Museum of Wooden Shipbuilding, CROATIA

Monument Europe, Berlin, GERMANY

Stewards of Cultural Heritage, GERMANY

Greek Paths of Culture, Athens, GREECE

Commonlands: Cultural Community Mapping in Alpine Areas, Parco Nazionale Val Grande, ITALY

Le Dimore del Quartetto, Milan, ITALY

A Place at the Royal Table, Warsaw, POLAND

Mi fydd Gwobr Europa Nostra hefyd yn cael eu cyflwyno i lwyddiannau treftadaeth anhygoel o wledydd Ewropeaidd sydd ddim yn rhan o raglan Creative Europe yr UE.

Categori Cadwraeth

Boğaziçi University Gözlükule Excavation Research Center, Tarsus, TURKEY

Categori Gwasanaeth Ymroddedig

Mr. Léonard Gianadda, Martigny, SWITZERLAND

Yr Ysgwrn, Trawsfynydd, Cymru, Y Deyrnas Gyfunol

Mae'r Ysgwrn yn ffermdy brodorol bach a adeiladwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif. Mae'n strwythur syml, wedi'i restru'n genedlaethol fel adeilad Gradd 2*, sy'n dangos ei arwyddocâd cenedlaethol. Mae ei leoliad yn anghysbell nid ymhell o bentref Trawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sy'n ardal gadwraeth rhyngwladol bwysig (oherwydd ei harddwch naturiol, bioamrywiaeth a threftadaeth ddiwylliannol) yng ngogledd Cymru. Yr Ysgwrn oedd cartref Hedd Wyn, y bardd rhyfel Cymreig a laddwyd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele yn 1917. Cafodd y prosiect i adfer ei ffermdy teuluol o a'i ddatblygu fel canolfan ymwelwyr a chofeb i'r nifer o Gymry fu farw yn y rhyfel ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cynulliad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda chymorth pellach gan bartneriaid y prosiect.

Dyfarnwyd Cadair y Bardd i Hedd Wyn wedi iddo farw yn Eisteddfod Genedlaethol 1917 am ei gerdd Yr Arwr. Cafodd y Gadair Ddu, fel y'i gelwir, ei pharatoi â llaw gan ffoadur o Wlad Belg ac ers hynny mae hi wedi dod yn eicon cenedlaethol, sy'n symbol o golli cenhedlaeth gyfan o ddynion ifanc i ryfel.

Er nad oedd ar agor yn ffurfiol i'r cyhoedd, roedd teulu Hedd Wyn yn croesawu ymwelwyr ac fe wnaethant gadw'r tŷ fel yr oedd yn 1917, er cof am golled frawychus eu mab. Fodd bynnag, ni allai'r teulu ar eu pennau eu hunain ddarparu'r adnoddau angenrheidiol sylweddol i gynnal y fferm. Arweiniodd hyn at ddirywiad araf y ffermdy a'i adeiladau allanol. Roedd angen sicrhau bod y Gadair Ddu a'r eitemau eraill a oedd wedi aros yn y cartref ers marwolaeth Hedd Wyn yn cael eu cadw. Felly, yn 2012, gyda chanmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn agosáu, prynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri'r adeilad. Aethant ati i ddechrau ar y gwaith adfer gofalus i ddatblygu'r fferm fel canolfan ymwelwyr ryngwladol a chofeb i'r nifer fawr o Gymry a fu farw yn y gwrthdaro. Nododd y panel dyfarnu “mae'r prosiect hwn, er ei fod ar raddfa fach, wedi'i integreiddio'n dda i'w gyd-destun Ewropeaidd ehangach drwy goffáu diwylliant Cymru a'i gysylltiad â'r Rhyfel Byd Cyntaf.”

Er bod y Gadair Ddu a chynnwys arall y tŷ wedi cael eu symud a'u hadfer, cafodd y ffermdy a'r adeiladau allanol eu hatgyweirio a'u huwchraddio yn ofalus. Gosodwyd cyfleusterau ymwelwyr a dysgu newydd yn ogystal ag arddangosfeydd wedi'u diweddaru. Mae'r tir ffermio o amgylch yn cael ei ddefnyddio unwaith eto ac fe ail-blannwyd y dirwedd drawiadol. Ymgynghorwyd â Gerald Williams, nai Hedd Wyn, i sicrhau bod ei feini prawf o ar gyfer gofal hirdymor Yr Ysgwrn fel cofeb i'w ewythr yn cael eu bodloni'n llawn.

Roedd y panel dyfarnu'n edmygu’r “dull gweithredu gofalus o sicrhau cadwraeth yr adeilad, gan ganiatáu i'w arwyddocâd hanesyddol a'i greiriau fod yn hygyrch i'r cyhoedd ehangach. Rhoddwyd sylw arbennig i'r ffermdir cyfagos, dull gweithredu cynaliadwy o warchod y dreftadaeth hon.”

Nodyn i Olygyddion

Cefndir

Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Europa Nostra Awards

Cafodd Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra ei lansio gan y Comisiwn Ewropeaidd yn 2002 ac mae wedi ei gynnal gan Europa Nostra fyth ers hynny. Mae nhw’n dathlu ac yn hyrwyddo’r gwaith gorau mewn perthynas a chadwraeth treftadaeth, ymchwil, rheoli, gwirfoddoli, addysg a chyfathrebu. Y ffordd hyn maen nhw’n cyfrannu at gydnabyddiaeth cyhoeddus cryfach o ddiwylliant treftadaeth fel adnodd strategol ar gyfer economi a chymdeithas Ewrop. Mae’r Gwobrau yn cael eu hariannu gan raglen Creative Europe yr Undeb Ewropeaidd.

Dros y 17 mlynedd diwethaf mae sefydliadau ac unigolion o 39 gwlad wedi cyflwyno cyfanswm o 3,032 cais am Wobrau. Wrth ystyried y nifer o geisiadau mewn perthynas a phob gwlad, Sbaen sy’n arwain y ras gyda 527 prosiect yna’r Eidal gyda 308 wedyn Y  Deyrnas Unedig gyda 299, Wrth ystyried y categoriau, Treftadaeth sydd wedi bod fwyaf poblogaidd gyda 1,744 cais. Yna Addysg, Hyfforddiant a Chodi Ymwybyddiaeth (555), yna Ymchwil (381) ac yn olaf Gwasanaeth Ymroddedig i Dreftadaeth (352).

Ers 2002 mae panel o arbenigwyr annibynol wedi dewis 512 o briosectau i o 34 gwlad i enill gwobrau. I gyd-fynd a nifer o geisiadau, mae Sbaen yn arwain y rhestr gyda 67 o wobrau. Mae’r Deyrnas Unedig yn ail (61 gwobr) a’r Eidal yn drydydd (45 gwobr). O ran y categoriau , Cadwraeth sydd wedi enill y nifer mwyaf (291) yna Addysg, Hyfforddiant a Chodi Ymwybyddiaeth (82), Gwasanaeth Ymroddedig i Gadwraeth (76) ac yn olaf Ymchwil (63).

Mae 116 o Brif Wobrau o €10,000 wedi eu cyflwyno i fentergarwch treftadaeth wedi eu dewis o blith enillwyr gwobrau prosiect.

Mae Gwobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra yn amlygu gwaith gorau, yn annog rhannu syniadau a gwybodaeth ar draws ffiniau ac yn cysylltu rhanddeiliaid mewn rhwydweithiau ehangach. Mae’r Gwobrau yn dod a budd anhygoel i’r enillwyr megis sylw cenedlaethol / rhyngwladol, parhâd arian cronfa a chynnydd yn niferoedd ymwelwyr. Yn ogystal a hyn mae’r Gwobrau’n meithrin dealltwriaeth o’n treftadaeth ymysg y cyhoedd cyffredinol. Mae’r Gwobrau felly’n declun allweddol i hybu treftadaeth Ewrop.

Europa Nostra

Mae Europa Nostra yn ffedarasiwn o sefydliadau anllywodraethol ar draws Ewrop sy’n cael ei gefnogi gan rwydwaith eang o gyrff cyhoeddus, cwmniau preifat ac unigolion. Mae’n cynnwys mwy na 40 o wledydd Ewropeaidd, mae’r sefydliad yn lais i gymdeithas sifil sydd wedi ymroddi i warchod a hybu treftadaeth diwylliannol a naturiol Ewrop. Wedi sefydlu yn 1963 mae heddiw’n cael ei weld fel y rhwydwaith fwyaf cynrhychioledig o dreftadaeth yn Ewrop.  Plácido Domingo y canwr opera byd enwog yw Llywydd y sefydliad.

Mae Europa Nostra yn ymgyrchu i achub henebion, safleoedd a thirluniau sydd mewn perygl, yn benodol Rhaglen 7 Mewn Perygl.

Mae’n dathlu gwaith rhagorol trwy Wobrau Treftadaeth Ewrop / Gwobrau Europa Nostra. Mae hefyd yn cyfrannu at weithrefu strategaethau a pholisiau Ewropeaidd sy’n gysylltiedig a threftadaeth drwy strwythur deialog gyda Sefydliadau Ewropeaidd a chydlyniant Cynghrair Treftadaeth Ewrop 3.3.

Creative Europe

Mae Creative Europe yn raglen UE sy’n cefnogi’r sectorau diwylliannol a chreadigol trwy alluogi cynydd yn eu cyfraniad mewn tyfiant a swyddi. Gyda cyllideb o €1.46 biliwn ar gyfer 2014-20 mae’n cefnogi sefydliadau ym meysydd treftadaeth, celfyddydau, cyhoeddi, ffilm, teledu, cerddoriaeth a gemau cyfrifiadurol yn ogystal a degau o filoedd o artistiaid a swyddogion proffesiynol yn y celfyddydau. Mae’r gronfa’n eu galluogi i fod yn weithredol ledled Ewrop, i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a datblygu sgiliau newydd sydd eu hangen yn yr oes ddigidol.

Am fwy o fanylion cysylltwch ag Ioan Gwilym, Swyddog Cyfathrebu - Gwasanaethau Corfforaethol APCE ar 01766 772 253 / 07900 267506 neu e-bostiwch ioan.gwilym@eryri.llyw.cymru