Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Adfer Coedwigoedd Glaw Celtaidd Cymru

Printio

28 Awst 2018

Diolch i nawdd Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru, yr hydref hwn fydd dechrau pennod newydd yn hanes coedwigoedd glaw Celtaidd Cymru sydd ar hyn o bryd mewn cyflwr cadwraethol anffafriol. Trwy ganolbwyntio ar waredu rhywogaethau planhigion estron a rheolaeth effeithiol y bwriad yw dod â’r coedwigoedd yn ôl i’w cyflwr ffrwythlon blaenorol.

Mae coedwigoedd glaw Celtaidd, sydd i’w cael yn y DU yn bennaf, yn cael eu hystyried o bwysigrwydd Ewropeaidd oherwydd eu strwythur agored, a’r amodau mwyn a llaith oddi mewn iddynt sy’n gynefin i gyfoeth o lystyfiant.

Ar hyn o bryd mae’r coedwigoedd hyn mewn cyflwr anffafriol sy’n parhau i ddirywio. Lledaeniad y Rhododendron ponticum sy’n bennaf gyfrifol am y dirywiad gan ei fod yn newid ansawdd y pridd, yn rhwystro golau’r haul rhag cyrraedd llawr y goedwig, ac yn mygu a rhwystro atgynhyrchiad llystyfiant brodorol. Ffactorau eraill sy’n effeithio ar y coedwigoedd yw gor neu dan-bori, diffyg rheolaeth a llygredd nitrogen atmosfferig.

Bydd pedair ardal yng Nghymru, sef Eryri, Cwm Einion, Cwm Doethie a Dyffryn Elan, yn elwa o’r cynllun a ariennir gan raglen LIFE yr UE, Grant Cyfalaf Seilwaith Gwyrdd Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n arwain ar y prosiect ar ran y partneriaid sy’n cynnwys RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru, Coed Cadw, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd y prosiect gwerth €9.5 miliwn yn rhedeg rhwng Awst 2018 a Gorffennaf 2025.

Prif nod y prosiect yw gwella’r cynefin o blanhigion isel fel mwsoglau a llysiau’r afu o fewn y coedwigoedd hyn trwy fynd i’r afael â’r rhywogaethau ymledol, yn enwedig y Rhododendron ponticum, sy’n bygwth statws cadwraethol y coedlannau. Bydd y cynllun hefyd yn datblygu rheolaeth actif o goedwigoedd yn ogystal ag arddangos pori gweithredol a thechnegau adfer coedwig fydd yn eu tro yn gwella cyflwr cynefin, arddangos arfer da, yn cynyddu gwydnwch a gwella gweithrediad ecosystem y coedwigoedd.

Meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mae gwerth y coedlannau hyn i Eryri o ran bywyd gwyllt a diwylliant yn amhrisiadwy. Diolch i’r nawdd yma gan raglen Ewropeaidd LIFE a Llywodraeth Cymru gallwn adfer a diogelu ein coedwigoedd, a meithrin gwerthfawrogiad a balchder ynddynt ymhlith trigolion Eryri, canolbarth a de Cymru er mwyn eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Meddai Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd:

“Mae coedwigoedd yn ased naturiol gwerthfawr i ni yma yng Nghymru. Maent yn hanfodol i’n hamgylchedd, yn gwarchod rhag llifogydd, yn gwella ansawdd ein aer ac yn darparu cysgod i anifeiliaid. Rwy’n llongyfarch Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac RSPB Cymru ar eu prosiect llwyddiannus sydd yn awr yn un o dri phrosiect yng Nghymru sy’n derbyn nawdd gan raglen LIFE yr UE. Nod y prosiect yw gwella cyflwr coedwigoedd allweddol yng Nghymru yn sylweddol, gan ein helpu i gwrdd â’n goblygiadau Ewropeaidd a rhyngwladol ar gyfer bioamrywiaeth a chyflawni buddion cymdeithasol ac economaidd pwysig i gymunedau lleol.”

Dywedodd Katie-jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru:

“Ein coedlannau hardd, bioamrywiol a hudolus yw rhai o drysorau mwyaf anhysbys Cymru wledig. Mae’r coedwigoedd naturiol hyn yn yn chwarae rhan flaenllaw mewn chwedloniaeth Gymreig, ond yn ddiweddar maent wedi dioddef o ddiraddiad a diffyg gwerthfawrogiad. Yn awr, diolch i bartneriaeth gadarn a chefnogaeth ariannol gan raglen LIFE yr UE a Llywodraeth Cymru, bydd y Coedwigoedd Glaw rhyfeddol a’r amrywiaeth eang o fywyd gwyllt arbennig sy’n ymgartrefu ynddynt yn derbyn y sylw maent yn ei haeddu. Bydd y prosiect hwn yn ein helpu i adfer y lleoedd dirgel ac arbennig hyn, ac yn annog pobl i’w dathlu a’u mwynhau – a gobeithio, yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o awduron chwedlau Cymreig…”

Nodyn i Olygyddion

1. Ni fydd perthynas y DU gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit yn amharu ar nawdd y prosiect. Derbyniwyd sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ac y DU y bydd nawdd ar gyfer y prosiect yn parhau waeth beth fydd sefyllfa’r DU wrth adael yr EU fis Mawrth 2019.

2. Am ragor o fanylion, cysylltwch â Naomi Jones, Pennaeth Addysg a Chyfathrebu APCE ar 01766 772 517 neu 07972145474, neu e-bostiwch naomi.jones@eryri.llyw.cymru