Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Prif Weinidog Cymru yn agor Yr Ysgwrn

Printio

6 Medi 2017

Heddiw, agorwyd Yr Ysgwrn yn swyddogol gan Y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AM, Prif Weinidog Cymru, yng nghwmni Gerald Williams, nai'r bardd enwog a’r milwr o’r Rhyfel Byd Cyntaf, Hedd Wyn.

Yr “Ysgwrn”, oedd cartref Hedd Wyn. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw ym 1917 am ei awdl, "Yr Arwr", ond cafodd ei ladd ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos cyn iddo gael ei gyhoeddi’n fuddugol yng nghystadleuaeth y Gadair. Gorchuddiwyd y Gadair â lliain du a daeth yn adnabyddus fel Y Gadair Ddu. Gydag amser, daeth y Gadair yn symbol o genhedlaeth o ieuenctid Cymru a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyn pryniant Yr “Ysgwrn” gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, mynegwyd pryderon am ei ddyfodol tymor hir, ond yn 2012, gyda chyfraniadau hael gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol llwyddodd yr Awdurdod i gwblhau’r pryniant ar gyfer y genedl. Derbyniodd yr Awdurdod £3.1m  gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £300,000 gan Lywodraeth Cymru i

  • atgyweirio a datblygu adeiladau hanesyddol Yr Ysgwrn
  • atgyweirio dodrefn yr Ysgwrn
  • dehongli’r safle yn seiliedig ar fywyd a gwaith Hedd Wyn, y Rhyfel Byd Cyntaf, hanes cymdeithasol Cymru wledig ar droad yr ugeinfed ganrif, treftadaeth amaethyddol a diwylliant y Gymraeg,
  • i ddarparu adnoddau addysg o’r radd flaenaf
  • ynghyd â gwella mynediad at y safle, gan gynnwys llwybrau o amgylch y daliad amaethyddol.

Yn ystod y bum mlynedd ddiwethaf, fel rhan o’r datblygu, gwnaed gwaith gwarchod a gwella ar y tŷ  gan gynnwys trwsio creiriau’r gegin a’r llofftydd a’r cadeiriau,  adfer y tŷ drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol, ac agor y llawr cyntaf i ymwelwyr. Datblygwyd Beudy Llwyd yn adeilad croeso i’r safle gan gynnwys derbynfa, caffi, ystafell gymunedol, oriel arddangosfeydd a gofod cymunedol awyr agored. Yma  mae cyfle i ddysgu hanes Hedd Wyn, ei deulu a’i gymuned ac yn y Beudy Tŷ, caiff stori colled y Rhyfel Byd Cyntaf ei chyflwyno drwy ffilm ac arddangosfa.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:

"Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael bod yma i agor yr Ysgwrn yn swyddogol − lle sydd ag arwyddocâd mawr yn hanes Cymru.  Mae'r heddwch a'r tawelwch yma ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn wrthgyferbyniad llwyr i'r erchyllterau y byddai Hedd Wyn wedi’u hwynebu yn Passechendaele dros gan mlynedd yn ôl.  Bu farw dros 3,000 o filwyr o Gymru yn y frwydr honno ac mae'r Ysgwrn nid yn unig yn coffáu Hedd Wyn ond yn dwyn i gof hefyd yr aberth a wnaed gan gynifer yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Gwnaed gwaith adnewyddu gwych yma yn yr Ysgwrn ac rwyf yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu gyda'r gwaith hwnnw, fel y bo’r darn gwerthfawr hwn o hanes Cymru yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL), dywedodd y Farwnes Kay Andrews, Ymddiriedolwraig a Chadeirydd pwyllgor Cymru o Gronfa Dreftadaeth y Loteri,

“Mae'n fraint o fod wedi bod â rhan o ddod â bywyd a gwaith Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn - y lle yr oedd yn ei adnabod a’i garu mor dda - i genhedlaeth newydd, ac i wneud hynny ym mlwyddyn canmlwyddiant ei farwolaeth a'i gyflawniad barddol mwyaf.

"Dygodd ei farwolaeth un o feirdd modern mwyaf Cymru, ond dygodd y Rhyfel Mawr ddawn ddifesur o Gymru gyfan. Mae Hedd Wyn yn sefyll dros yr holl ddynion hynny na wnaeth ddychwelyd, am yr addewid na chafodd erioed ei gyflawni, ac i deulu'r genedl sy'n eu hanrhydeddu.

"Trwy fuddsoddi mwy na £6 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol yn ein cymunedau i chwilio ac adrodd y straeon cudd hyn o’r Rhyfel Mawr, rydym yn falch ein bod wedi gallu dod â'r dreftadaeth fwyaf nodedig a gwerthfawr hon i olau dydd.”

Ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol, dywedodd y Cadeirydd, Owain Wyn,

"Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, a Mr Gerald Williams,  am eu cefnogaeth, eu gweledigaeth a'u brwdfrydedd dros y pum mlynedd diwethaf i sicrhau ein bod ni heddiw yn agor y safle hwn yn swyddogol.

Dros y blynyddoedd, mae’n staff wedi gweithio’n agos gyda Mr Williams ac mae'n fraint ein bod ni’n cael bod yn gyfrifol am ofalu a gwarchod yr eiddo cenedlaethol pwysig hwn. Ein bwriad yw cadw drws Yr Ysgwrn yn agored er mwyn rhannu negeseuon parhaol Yr Ysgwrn am ddiwylliant, cymdeithas a rhyfel ac ar yr un pryd,  cynyddu dealltwriaeth a mwynhad y cyhoedd o rinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Eryri”.

Y tu allan i’r prif adeiladau, datblygwyd llwybrau cerdded o gwmpas y tir fferm, trowyd y cwt mochyn yn dŷ ystlumod, codwyd sied newydd i’r tenant amaethyddol, adeiladwyd boelerdy biomas, ail-gyflwynwyd y corlannau moch, a chyflwynwyd corlan o ddeunydd traddodiadol at ddefnydd y tenant. Adeiladwyd maes parcio gyferbyn â’r Beudy Llwyd  (lle i 2 o fysus a 22 o geir) ac ar y cyd â Chyngor Gwynedd, adnewyddwyd y ffordd i fyny at Yr Ysgwrn i ddarparu 2 fan pasio newydd ar hyd y lôn.

Nodyn i Olygyddion

  1. Arferai tua 3,000 o bobl ymweld â’r “Ysgwrn” bob blwyddyn. Hyd yma, mae 4,000 wedi ymweld eleni.
  2. Cost y gwaith datblygu oedd £3.7m ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol fydd yn ariannu’r gwaith o gynnal a chadw’r ganolfan o hyn ymlaen.
  3. Bu’r “Ysgwrn” ar restr adeiladau mewn perygl. Mae’n gartref i un o 60 o Ryfeddodau Eryri, Cadair Ddu Hedd Wyn.
  4. Yn 1991 gwnaed ffilm am Hedd Wyn, a dderbyniodd enwebiad Oscar.
  5. Mae’r ffermdy yn adeilad rhestredig Gradd II * ger Trawsfynydd, ac yn bodoli ers 1830, er bod enw’r Ysgwrn yn bodoli ar fapiau degwm ers 1519.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri (APCE)

Mae Parc Cenedlaethol Eryri, sydd wedi ei leoli ar arfordir gorllewinol Prydain gan gwmpasu 823 milltir sgwâr o dir amrywiol, yn ardal fyw a gweithiol, ac yn gartref i 26,000 o bobl. Yn ogystal â bod y Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru, mae Eryri’n meddu ar y mynydd uchaf yng Nghymru, a’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru, ynghyd â chyfoeth o bentrefi prydferth fel Betws y Coed a Beddgelert. Fe’i sefydlwyd ym 1951, a hwn yw’r trydydd parc mwyaf o'r 15 yn y DU. Mae'n ymestyn o linell y penllanw ym Mae Ceredigion yn y gorllewin, hyd Ddyffryn Conwy yn y dwyrain ac o'r Afon Dyfi a'i haber yn y de, i arfordir Bae Conwy cyn belled â Chonwy yn y gogledd.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL)

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, buddsoddwn arian i helpu pobl ledled gwledydd Prydain archwilio, mwynhau a diogelu’r dreftadaeth sy’n golygu cymaint iddynt – o’r archaeoleg o dan ein traed i’r parciau ac adeiladau hanesyddol rydym yn eu caru, o atgofion a chasgliadau gwerthfawr i fywyd gwyllt prin. www.hlf.org.uk. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #NationalLottery a #HLFsupported

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918:

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yw'r rhaglen swyddogol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n cydlynu’r Rhaglen, gan weithio mewn partneriaeth â chyrff ledled Cymru a thu hwnt. Mae gwefan y Rhaglen yn ganolbwynt ar gyfer gwybodaeth ar y newyddion, prosiectau a digwyddiadau diweddaraf, a'r gwasanaethau cyfeirio ar gyfer y coffâd rhwng 2014 a 2018.

Dolenni Defnyddiol: