AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL ERYRI

DATGANIAD I'R WASG

Peidio Cario Cerrig

Printio

3 Chwefror 2016

Mae Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn apelio ar gerddwyr i roi’r gorau i symud cerrig a chodi carneddi ar y mynyddoedd.

Fe fu hi’n arferiad dros y blynyddoedd i adeiladu carneddi ar fynyddoedd er mwyn nodi llwybrau a chyffyrdd neu fannau peryglus. Ond yn fwy diweddar, fe ddaeth hi’n arferiad i gerddwyr nodi eu teithiau drwy osod carreg ar bentwr o gerrig a chreu carnedd. Ar Gadair Idris, mae hi’n gymaint o broblem nes bod yr Uwch Warden ar gyfer De Eryri yn mynd ati i drefnu diwrnod o leihau’r carneddi, eu maint a’u nifer, gyda chymorth gwirfoddolwyr.

“Mae hi’n gryn broblem ar Gadair Idris,” meddai Simon Roberts. “Wrth adeiladu’r carneddau, garreg wrth garreg, mae’r llwybrau’n erydu ac mae’r dirwedd fregus yn cael ei niweidio. Mae’r llwybrau’n lledu a’r gost o’u cynnal a’u cadw yn cynyddu. Ond, yn beryclach fyth, maent yn medru camarwain cerddwyr, yn enwedig mewn niwl. Fe fyddwn ni’n mynd ati nes ymlaen yn y flwyddyn i resymoli’r carneddau, ond yn y cyfamser apeliwn ar i gerddwyr roi’r gorau i symud cerrig ar y mynyddoedd.”

Ychwanegodd y Warden Myfyr Tomos,

“Ar lwybr Tŷ Nant, mewn prin filltir o ddarn rhwng Rhiw Gwredydd a bwlch y Cyfrwy, mae 102 o garneddi, ac wrth fôn pob carnedd mae andros o dwll mawr lle mae cerrig wedi eu codi o’r llwybr a’r tir cyfagos. Mae rhai o’r cerrig yn enfawr ac mae’r carneddi’n cynyddu bob wythnos. Mae angen i ni sicrhau gall cenedlaethau’r dyfodol fwynhau cerdded llwybrau mynyddoedd Eryri ac felly bydd lleihau’r erydiad wrth annog pobl i beidio â symud y cerrig, yn fodd o gyfrannu at hyn.”

Dywedodd Paul Williams, Rheolwr Gwarchodfa Cadair Idris ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru,

“Mae 'adaeiladu' carneddi wedi bod o bryder mawr dros nifer o flynyddoedd – one mae’r arfer, erbyn hyn, wedi mynd allan o bob rheswm gan greu creithiau ar rai o’n tirweddau mwyaf nodedig.

Mae’r arfer yn difrodi cynefinoedd bregus yr ucheldir, fel gweundir yr ucheldir a sgri, a'r anifeiliad a’r planhigion sy’n gysylltiedig â rhain.  Gall y difrod hefyd greu llwybrau newydd, gan ehangu erydiad ar ein mynyddoedd ac fe geir engreifftiau lu o hyn ar lechweddau'r Glydeiriau, Cadair Idris a’r Wyddfa. Dangos copa mynydd yn unig ddylai carnedd ei wneud – lle mae carneddi hanesyddol yn barod.”

Ategwyd y negeseuon hyn hefyd gan Elfyn Jones, Swyddog Mynediad a Chadwraeth i Gymru y Cyngor Mynydda Prydeinig,

“Mae adeiladu carneddau ar hyd prif lwybrau mynydd poblogaidd megis Cadair Idris yn ddiangen ac yn erydu cynefinoedd ar y mynydd.  Mae hefyd yn medru annog diogi mewn pobl wrth iddyn nhw beidio â defynddio map a chwmpawd a all yn ei dro eu harwain at sefyllfa beryglus.”

Mae’r broses o resymoli’r carneddau ar rai o fynyddoedd gogledd Eryri wedi dechrau eisoes, ac yn ystod misoedd yr haf, bydd Wardeiniaid De Eryri yn mynd ati i resymoli’r carneddau ar y Gadair. Gyda chymorth rhai o wirfoddolwyr o Glwb Mynydda Cymru, bydd y carneddi yn cael eu lleihau a rhai’n cael eu dymchwel yn llwyr.

Os oes gan rywun ddiddordeb mewn gwirfoddoli, mae croeso iddyn nhw gysylltu â Simon Roberts yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth ar 01766 770274.

Tŷ Nant 1 Tŷ Nant 2

Nodyn i Olygyddion

  1. Lluniau: Carneddi ar Lwybr Tŷ Nant ar Gadair Idris. Hawlfraint Cyfoeth Naturiol Cymru.
  2. Mae Cadair Idris yn Warchodfa Natur Genedlaethol a’i chopa 893 metr uwch lefel y môr.
  3. Yn ôl y chwedlau, mae “Cadair” yn cyfeirio at y safle lle’r eisteddai’r cawr Idris i syllu ar y sêr.

Tŷ Nant 2