Awdurdod y Parc

Filmio yn Hafod Eryri

alt=

Cader neu Cadair Idris?

Printio

15 Ebrill 2016

Anogodd trafodaeth ddifyr ac anarferol yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yr wythnos hon, i Swyddogion ac Aelodau ystyried tarddiad enwau lleoedd yn y Parc. Yn benodol, pa ffurf sy’n gywir, Cadair Idris neu Cader Idris?

Tan yn weddol ddiweddar, Cader Idris yr oedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn ei ddefnyddio ar ei arwyddion ac yn ei gyhoeddiadau. Fodd bynnag, wrth weithio mewn partneriaeth gydag Chyfoeth Naturiol Cymru ar safle Dôl Idris yn Nhal y Llyn yn ddiweddar, er mwyn sicrhau cysondeb ac yn dilyn arweiniad roddwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Swyddfa'r Comisiynydd Iaith, penderfynwyd mabwysiadu'r ffurf "Cadair".

Fodd bynnag, wrth drafod manylion cais cynllunio, mynegodd rhai o Aelodau’r Awdurdod y farn mai Cader sy’n cael ei ddefnyddio yn lleol bob amser ac mai hwn mewn gwirionedd, oedd y ffurf cywir i’w defnyddio. Er mai barn gyffredinol yw bod Cader Idris yn cyfeirio at gadair y cawr Idris, mae ‘cader’ mewn gwirionedd, yn ôl Geirlyfr Titus Lewis 1805, yn golygu caer neu gadarnle.

Fel y Cyfarwyddwr Cynllunio a Threftadaeth Ddiwylliannol, ac yn dilyn barn yr Aelodau ynghyd â'r ffurf a ddefnyddir yn lleol, bydd Jonathan Cawley yn awr yn ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd Iaith, i ofyn am eglurhad ar y fersiwn cywir. Mae'n debygol y bydd trafodaeth bellach gan Aelodau’r Parc Cenedlaethol ar ba derm i'w ddefnyddio yn ffurfiol, unwaith y bydd atebion wedi eu derbyn gan swyddfa’r Comisiynydd a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Nodyn i Olygyddion

Dim