Snowdonia National Park strapline

Awdurdod y Parc

Plas Tan y Bwlch

alt=

Bywyd Gwyllt yn ystod y Cyfnod Clo

Roedd pobl yn dychwelyd i safleoedd mwyaf poblogaidd Gogledd Orllewin Cymru ar ôl clo mawr y Coronavirus yn gysylltiedig â llai o arsylwadau o fywyd gwyllt a mwy o fygythiadau amgylcheddol, yn ôl adroddiad diweddar.

Edrychodd yr asesiad ar ardaloedd ymwelwyr allweddol, gan gymharu'r cyfnod clo ym mis Mehefin 2020 â'r tymor twristiaeth prysur a ddilynodd ym mis Mehefin 2021.

Er mai dim ond cipolwg ydyw, mae rhai arsylwadau diddorol y gellir eu hystyried i reoli twristiaeth mewn ffordd gynaliadwy fel rhan o adferiad gwyrdd Cymru allan o’r pandemig.

Datgelodd yr arolwg cyfnod clo gwreiddiol, a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020 mewn safleoedd allweddol fod rhywfaint o rywogaethau adar a phlanhigion wedi ymateb yn gadarnhaol i lai o aflonyddwch, a bod llawer llai o sbwriel i’w weld. Cafwyd hyd i'r gwrthwyneb yn y safleoedd wrth ail edrych arnyn nhw yn 2021 - cofnodwyd llai o niferoedd ac amrywiaeth o adar, ynghyd â mwy o sbwriel a mwy o erydiad llwybr troed.

Comisiynwyd y naturiaethwr Ben Porter gan Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gynnal yr arolygon. Ymwelodd â phedwar safle ucheldir Yr Wyddfa, Cadair Idris, Carneddau a Cwm Idwal, ac ardaloedd iseldir Coed y Brenin, Ceunant Llennyrch a Llanddwyn.

Gan ystyried yr arolygon, dywedodd Ben Porter: “Er ein bod yn gwybod bod angen data tymor hwy ar gyfer cymariaethau mwy dibynadwy â chyfnod clo eithriadol 2020, mae arwyddion clir yma am effaith pobl ar y byd naturiol.”

Cofnodwyd llai o rywogaethau adar ar ôl y cyfnod clo o’i gymharu ag yn ystod y clo - cyfanswm o 65 o rywogaethau adar ar draws safleoedd yr ucheldir yn 2020, o'i gymharu â 50 yn 2021.

Yn 2020, roedd llawer o rywogaethau adar, gan gynnwys Meadow pipit, Wheatears a hyd yn oed Ring Ouzels, yn bridio yn agos at y llwybrau a oedd fel arfer yn boblogaidd, yn enwedig mewn ardaloedd ucheldirol. Nid yw'n syndod nad oedd hyn yn wir yn 2021, gydag ychydig o adar yn nythu yn agos at lwybrau.

Ar Ynys Llanddwyn, nid oedd unrhyw arwydd o Gwtiad Torchog, a gofnodwyd yn nythu ar y traeth bach ger Twr Mawr yn 2020. Gellid priodoli absenoldeb y rhywogaeth yma, sy'n sensitif iawn i aflonyddwch, i darfu cynyddol gan ymwelwyr yn ystod 2021. Yn yr un modd, dim ond un pâr o Bioden y Môr a welwyd o amgylch Ynys Llanddwyn yn 2021, lle cofnodwyd saith pâr yn bridio yn 2020 - gwahaniaeth arall a allai gael ei briodoli i ddychwelyd i nifer uchel o ymwelwyr yn ystod y tymor magu.

Roedd ffactorau eraill ar waith yn ystod yr arolwg, oedd yn debygol o chwarae rhan fawr yn y gwahaniaethau hyn hefyd, yn enwedig yn yr ucheldir. Roedd cyferbyniad llwyr yn amodau tywydd y ddau dymor, gyda gwanwyn oer iawn yn 2021 yn gohirio tymhorau bridio i lawer o adar yr ucheldir, gan arwain at lai o adar bridio yn cael eu cofnodi adeg yr arolwg yn 2021.

Serch hynny, mae rôl aflonyddwch cynyddol yn sgîl dychwelyd nifer uchel o ymwelwyr mewn rhai ardaloedd yn ffactor allweddol sydd wedi chwarae rhan yn y gwahaniaethau rhwng 2020 a 2021.

Cyferbyniad digalon a chlir rhwng 2020 a 2021 oedd faint o sbwriel a gwastraff a gofnodwyd. Yn yr ucheldiroedd, cofnodwyd 418 darn o sbwriel yn ystod ymweliadau arolwg 2021, o'i gymharu â 93 eitem yn 2020. Roedd sbwriel ar ei waethaf ar Yr Wyddfa a Chwm Ogwen, gyda Niwbwrch yn dioddef fwyaf ar dir isel.

Gwelwyd gwersylla gwyllt yn ystod yr astudiaeth - problem sylweddol ers yr ailagor, ar ôl y clo, gyda nifer fawr o bobl yn gwersylla'n anghyfreithlon o amgylch safleoedd poblogaidd, gan adael llawer iawn o sbwriel, gwastraff a nwyddau ymolchi are u hôl.

Roedd llwybrau troed poblogaidd yn dangos arwyddion o ledu ac erydiad wrth i ymwelwyr ddychwelyd. Er enghraifft, mae'r prif lwybr troed sy'n esgyn Y Garn o Twll Du (Cwm Idwal) mewn perygl o ehangu ymhellach ac effeithio ar gymunedau sensitif Helyg Corrach. Yn Ceunant Llennyrch ac ar Lwybr Watkin i’r Wyddfa, mae llwybrau troed yn effeithio ar gymunedau pwysig o redyn a mwsoglau mewn rhai ardaloedd.

Mae adroddiad 2020 ar gael yma

Er mwyn cymhorthi cofnodi bywyd gwyllt yn Eryri ewch i wefan Cofnod.