Siarter Cwsmer
Mae’n eithriadol o bwysig i ni eich bod chi, fel cwsmer, yn deall yr hyn yr ydym ni’n ei wneud a pham yr ydym yn gwneud hynny. Rydym am i chi ei chael hi’n hawdd delio â ni, ac fel unrhyw sefydliad arall sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, rhaid i ni fod yn sicr ynglŷn â’r math o brofiad a gewch chi gyda ni, ynghyd â lefel y gwasanaeth y gallwch chi ei ddisgwyl gennym bob tro y dewch i gysylltiad â ni.
Rydym yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd rhagorol, ac rydym yn ymdrechu i wella’n barhaus. Mae’r siarter hon yn nodi safon y gwasanaeth yr ydym yn ceisio’i ddarparu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi roi gwybod i ni am eich profiad o ddelio â ni.
Ein ffyrdd o weithio
Beth bynnag fo eich ymholiad neu gais, rydym yn credu y dylech ddisgwyl safon o waith gennym sy’n rhoi i chi’r hyder yn ein gwybodaeth a’n gallu. Rydym yn dymuno gwneud yn sicr:
- eich bod yn cael yr wybodaeth yr ydych ei hangen gennym mewn pryd;
- eich bod yn cael yr wybodaeth gywir gennym;
- ein bod bob amser yn broffesiynol yn y ffordd yr ydym yn delio â chi; a
- bod gennym agwedd gadarnhaol a pharchus tuag atoch.
Ein Safonau Gwasanaeth Cwsmeriaid
Pan fyddwch chi’n codi’r ffôn arnom yn ystod oriau gwaith arferol, byddwn:
- yn gwneud ein gorau glas i ateb y ffôn cyn iddo ganu 6 gwaith
- yn datrys yr ymholiad dros y ffôn neu’n eich trosglwyddo i aelod o staff perthnasol
- yn rhoi ffordd arall i chi gysylltu â’r person perthnasol os yw hynny’n briodol
- yn ymateb i negeseuon cyn pen 48 awr
Pan fyddwch chi’n ysgrifennu atom, byddwn:
- yn paratoi ymateb llawn cyn pen 10 niwrnod gwaith
- os nad ydym yn gallu ymateb o fewn yr amserlen hon, byddwn yn cydnabod eich gohebiaeth ac yn un ai nodi’r dyddiad y rhagwelwn y byddwn yn gallu ymateb yn llawn neu roi eglurhad am yr oediad
Pan fyddwch yn anfon e-bost atom, byddwn:
- yn paratoi ymateb llawn cyn pen 10 niwrnod gwaith
- os nad ydym yn gallu ymateb o fewn yr amserlen hon, byddwn yn cydnabod eich gohebiaeth ac yn un ai nodi’r dyddiad y rhagwelwn y byddwn yn gallu ymateb yn llawn neu roi eglurhad am yr oediad
Pan fydd cwsmer yn anfon ymholiad trwy’r cyfryngau cymdeithasol, byddwn:
- yn darparu ymateb o fewn un diwrnod gwaith i ymholiadau byr / syml
- os oes angen ymateb llawn neu hirach na ellir ei ddarparu trwy’r cyfryngau cymdeithasol, byddwn yn gofyn i’r cwsmer anfon yr ymholiad trwy e-bost, lle bydd yn cael ei drin o dan yr amserlenni a nodwyd ar gyfer e-byst uchod.
Pan fyddwch yn ymweld â’n swyddfa, byddwn:
- yn groesawgar, yn gwrtais ac yn broffesiynol
- yn ceisio sicrhau eich bod yn cael gweld y person perthnasol o fewn 5 munud o gyrraedd i'ch apwyntiad
- yn darparu cyfleusterau glan a chyffyrddus
Byddwn yn mesur pa mor dda yr ydym yn gweithredu trwy:
- Arolygon Cwsmer Cudd
- Systemau cofnodi a llwybro
- Arolwg o fodlonrwydd cwsmeriaid
Rhowch adborth i ni
Beth bynnag fo eich rheswm dros gysylltu ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, rydym am sicrhau bod eich profiad, a safon y gwasanaeth a gewch, yn gyson trwy’r sefydliad. Felly, os nad ydym yn llwyddo i wneud hynny, hoffwn i chi ddweud wrthym beth ddigwyddodd a sut y gallwn ni wella.
Beth os nad wyf yn hapus â’r gwasanaeth a gefais?
Yn y lle cyntaf, cysylltwch â’r person neu’r gwasanaeth a ddefnyddiwyd gennych a rhowch gyfle iddynt ddod â phethau i drefn. Os nad yw pethau’n cael eu datrys, gallwch wneud cwyn swyddogol mewn ysgrifen a’i hanfon at y rheolwr perthnasol. Neu, os nad oes gennych enw cyswllt, cyfeiriwch eich cwyn at y Pennaeth Gweinyddol a Gofal Cwsmer yn:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Swyddfa’r Parc Cenedlaethol
Penrhyndeudraeth
Gwynedd LL48 6LF
Gallwch hefyd wneud cwyn dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu drwy anfon ffacs neu e-bost at:
Ffôn: 01766 770274
Ffacs: 01766 771211
Ebost: parc@eryri.llyw.cymru
Byddwn yn sicrhau:
- eich bod yn derbyn cydnabyddiaeth cyn pen 5 niwrnod gwaith; ac
- yn cael ymateb llawn cyn pen 15 niwrnod gwaith.
Pwy ddylwn i gysylltu â hwy os ydych wedi cyflawni rhywbeth yn dda?
Rydym bob amser wrth ein boddau’n cael clywed adborth cadarnhaol, felly os hoffech chi adael i ni wybod ein bod wedi gwneud gwaith da, cysylltwch â’r person neu’r gwasanaeth a ddefnyddiwyd gennych yn uniongyrchol. Neu, fe allwch gyfeirio eich gair o ganmoliaeth at y Pennaeth Gweinyddol a Gofal Cwsmer i’r manylion cyswllt uchod.