Snowdonia National Park strapline

Awdurdod y Parc

Plas Tan y Bwlch

alt=

Bywiogrwydd yr iaith Gymraeg

Ers ychydig wythnosau bellach rydym wedi cael y pleser o gwmni James o Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau yn ein adran Ymgysylltu. Mae James gyda ni am ddau ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o dri mis.

Fel rhan o'i leoliad gwaith gofynwyd iddo feddwl am un o Rinweddau Arbennig Eryri - 'Bywiogrwydd yr Iaith Gymraeg' er mwyn canfod ychydig o ffeithiau ar gyfer ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol.

Mae gan bob un o’r Parciau Cenedlaethol yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr restr wedi’i diffinio’n glir o ‘Rinweddau Arbennig ’. Maent yn nodi beth sy’n gwneud yr ardal yn arbennig ac yn unigryw. Y cyfuniad o’r Rhinweddau Arbennig hyn a arweiniodd at eu dynodi’n Barciau Cenedlaethol. 

Mae bywiogrwydd y Gymraeg fwyaf amlwg yn Eryri oherwydd mae’n parhau i fod yn ddewis iaith mewn llawer o amgylcheddau cymdeithasol a phroffesiynol. Mae’n amlwg mewn enwau lleoedd lleol, y bywyd gwyllt a’r hanes sydd ynghlwm iddi ac felly mae’n rhan annatod o natur unigryw treftadaeth ddiwylliannol a naturiol yr ardal.

Y Gymraeg yw un o’r ieithoedd byw hynaf yn Ewrop. Mae cysylltiad agos rhwng Llydaweg a Chernyweg gyda’r Wyddeleg, Gaeleg Yr Alban a Manaweg yn deillio o’r un iaith yn wreiddiol. Mae’n iaith gynhenid i Ynysoedd Prydain, sydd wedi gorfod cystadlu â’r Lladin, Normanaidd-Ffrangeg a Saesneg. Er ei bod wedi dirywio ar rai adegau yn ein hanes, mae’r Gymraeg wedi goroesi a hynny’n aml yn erbyn y llanw a bellach mae ganddi statws warchodedig drwy gyfrwng deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae ymwybyddiaeth gynyddol mwybyddiaeth o fanteision ‘ymennydd dwyieithog’; hefyd, gyda chydnabyddiaeth ehangach bod y Gymraeg wrth wraidd yr hyn sy’n gwneud Cymru ac Eryri yn unigryw a’i bod yn ased amhrisiadwy i’w meithrin ar gyfer y genedl gyfan.

Mae hanes a diwylliant ymhobman yn Eryri ac mae’r Gymraeg yn cael ei siarad gan 58% o’r boblogaeth gyda’r ganran mor uchel â 85% mewn rhai cymunedau.

Dyma ychydig o ffeithiau ymchwiliodd James i ni yr iaith Gymraeg . . .