Awdurdod y Parc

Plas Tan y Bwlch

alt=

Llwybrau wedi cau

Pa ardaloedd sydd wedi cau?

Nid oes mynediad i’r cyhoedd i’r mynyddoedd a’r ardaloedd canlynol:

  • Yr Wyddfa
  • Cader Idris
  • ‘Ogwen’- Y Garn, Glyderau, Tryfan a Chwm Idwal
  • Aran Benllyn ac Aran Fawddwy

Ceir mwy o fanylion a mapiau ar waelod y dudalen.

Pam bod y mynyddoedd wedi cau?

Ddydd Llun, 23 Mawrth 2020, deddfodd San Steffan llwyrgload ac yn ddiweddarach, deddfwyd mesurau gan Lywodraeth Cymru oedd yn ei gwneud yn ofynnol i rai hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad gael eu cau os:

  • oeddent yn ardaloedd fyddai’n debygol o gael nifer fawr o bobl yn ymgasglu neu’n bod yn rhy agos at eu gilydd.
  • byddai’r defnydd o’r ardaloedd yn achosi risg uchel o ledaeniad y firws o fewn yr ardal.

Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithredu’r deddfau Cymreig yma sy’n ein gorfodi i helpu i atal lledaeniad y firws a gwarchod ein cymunedau a’r gwasanathau iechyd, a’r gwasanaethau achub gwirfoddol.

Ceir mwy o wybodaeth ynghylch yr ymateb yng Nghymru yma.

Beth mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ei wneud yn ystod y llwyrgload i atal lledaeniad yr afiechyd haint?

Rydym yn adolygu’r ardaloedd sydd wedi cau yn wythnosol, gan roi ystyriaeth i unrhyw broblemau sy’n codi, y diweddaraf yng nghanllawiau’r Llywodraeth, risg i gymunedau lleol ac unrhyw adborth yr ydym yn ei dderbyn.

Dim ond pan fydd canllawiau a deddfwriaeth y Llywodraeth yn caniatáu i ni wneud hynny y byddwn yn gwyrdroi’r cyfyngiadau hyn, a dylid osgoi unrhyw negeseuon cymysg anfwriadol ynghylch ail agor yr ardal i’r boblogaeth ehangach. Ein blaenoriaeth yw diogelu ein cymunedau, y gwasanaethau iechyd, a gwasanaethau achub gwirfoddol yr ardal.

Gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru, mae ein Wardeniaid yn cadw golwg ar yr ardal ac yn monitro’r sefyllfa gan ymateb yn gyflym i unrhyw ddigwyddiad. Ar sawl achlysur, mae’r rhai sydd wedi cael eu dal yn diystyru’r rheolau wedi cael dirwy a’u hanfon adref.

Rydym yn cyfarfod yn ddyddiol gydag Awdurdodau ar hyd Gogledd Cymru er mwyn cytuno ar negeseuon a chyfathrebu sydd yn seiliedig ar ganllawiau mwyaf diweddar y Llywodraeth. Yng nghanol yr wythnos, rydym yn dechrau anfon negeseuon a chyngor i ymwelwyr ynghylch pwysigrwydd dilyn canllawiau’r Llywodraeth.

Tu ôl i’r llenni, mae cynlluniau yn cael eu paratoi ar gyfer y cam nesaf gan gynnwys adfer, ac yn rhoi ystyriaeth lawn i’r risgiau a’r effaith ar yr amgylchedd, economi a llesiant pobl.

Rydym yn cydweithio i gydlynu ein cynlluniau gyda’n cydweithwyr o dirweddau gwarchodedig ar draws Cymru a Phrydain. Rydym hefyd yn gwneud arolwg ar ddulliau Ewrop a’r byd i weld beth sydd yn gweithio a beth sydd ddim mor effeithiol o ran dychwelyd graddol.

Nid yw ein holl staff yn gallu gweithio o adref, felly mae nifer o’n cydweithwyr wedi gwirfoddoli i helpu sefydliadau eraill tra nad ydynt yn gallu cyflawni eu gwaith bob dydd. Mae Terry yn aelod o’n tîm prosiect ystadau, ond yn ystod y cyfnod yma mae’n helpu i ddosbarthu cyflenwadau meddygol yn ei ardal leol.

Rydym hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o helpu cymunedau a busnesau lleol yn y cyfnod heriol yma.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?

Ddydd Llun, 23 Mawrth 2020, deddfodd San Steffan  y llwyrgload ac yn ddiweddarach, deddfwyd mesurau gan Lywodraeth Cymru oedd yn ei gwneud yn ofynnol i rai hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad gael eu cau os:

  • oeddent yn ardaloedd fyddai’n debygol o gael nifer fawr o bobl yn ymgasglu neu’n bod yn rhy agos at eu gilydd.
  • byddai’r defnydd o’r ardaloedd yn achosi risg uchel o ledaeniad y firws o fewn yr ardal.

Y deddfau newydd yw’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020, ac maent wedi eu hanelu at:

  • Awdurdodau Lleol
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Nid yw’r rheoliadau yma yn gwahardd pobl rhag mynd allan i ymarfer corff, ond maent yn galluogi rhwystro mynediad i ardaloedd sydd yn dueddol o ddenu nifer fawr o bobl a lle mae ymbellhau cymdeithasol yn anodd i’w gynnal. Mae’r rheoliadau hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd ymarfer corff yn agos i’r cartref.

Ydw i’n cael teithio i ymarfer corff?

Erbyn hyn, mae’r rheoliadau yng Nghymru yn wahanol i’r rheini yn Lloegr. Mae’r mân addasiadau i’r deddfau a mesurau yng Nghymru yn berthnasol i rheini sydd yng Nghymru yn ogystal â’r rheini sydd yn teithio dros y ffin i Gymru. Nid yw’r addasiadau yn Lloegr yn berthnasol yng Nghymru. Yng Nghymru, y rheol yw aros gartref.

Os ydych yn byw yng Nghymru, ni chewch deithio i ymarfer corff ond cewch eich annog i ymarfer corff yn agos i’ch cartref ble mae’n bosib. Gallwch nawr wneud hyn mwy nag unwaith y diwrnod.

Mae gwybodaeth fanylach ar y ddeddf yng Nghymru i’w weld yma.

Mae mesurau gwahanol yn bodoli i’r rheini gydag anghenion iechyd neu symudedd penodol ac maent i’w gweld ar y linc uchod. Cysylltwch â ni os nad ydych yn gallu ymarfer corff yn agos i’ch cartref oherwydd y rhesymau penodol yma. Gallwn gynnig cymorth a chyngor mwy manwl ar yr opsiynau sydd ar gael ar eich cyfer.

Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch deithio i ymarfer corff, ond dim ond o fewn Lloegr. Ni allwch deithio i ardal o fewn Cymru i ymarfer corff.

Byddwch yn ymwybodol o a pharchwch yr wybodaeth a’r canllawiau a ddarperir gan Barciau Cenedlaethol unigol ledled y DU.

Ceir mwy o wybodaeth yma.

Sut mae’r ddeddf newydd wedi ei gyflawni yn Eryri?

Yn Eryri, ar ôl ystyriaeth hir, rydym wedi penderfynu cau mynyddoedd prysuraf yr ardal i bob aelod o’r cyhoedd. Penderfynwyd cadw mynediad i’r cyhoedd yn ardaloedd eraill y Parc Cenedlaethol ar agor er mwyn sicrhau bod pobl sydd yn byw yn lleol yn gallu ymarfer corff o’u cartref.

Roedd rhaid taro cydbwysedd rhwng anfon neges gref bod yr ardal wedi cau i ymwelwyr er mwyn arafu lledaeniad y firws a diogelu ein cymunedau a’n gwasanaethau iechyd, tra’n sicrhau bod pobl sydd yn byw yn yr ardal yn parhau i allu mynd allan i ymarfer corff.

Mae yna rai ardaloedd yng Ngogledd y Parc Cenedlaethol lle mae mynediad wedi effeithio ar bobl leol ac rydym yn ymddiheuro am hyn. Rydym yn adolygu’r ardaloedd sydd wedi cau yn wythnosol i weld os gallwn wneud unrhyw newidiadau neu addasiadau a hynny heb gael effaith anfwriadol ar eglurder ein negeseuon a lledaeniad y firws.

Cyfanswm hyd y llwybrau sydd wedi eu cau i’r cyhoedd yn Eryri yw 174km/ 108 milltir- 6.3% o’r cyfanswm o rwydwaith hawliau tramwy’r cyhoedd yn y Parc Cenedlaethol.

Cyfanswm arwynebedd mewn hectar o dir mynediad CGaHT sydd wedi cau i’r cyhoedd yw 23,500ha- cyfanswm o 18.4% o dir mynediad CGdHT yn Eryri ac 11% o gyfanswm arwynebedd y tir.

Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth am yr ardaloedd sydd wedi cau.

Ble allwn ni gael hyd i fwy o wybodaeth am yr ardaloedd sydd wedi cau?

Islaw ceir rhestr o fapiau sydd yn dangos y llwybrau ac ardaloedd sydd wedi cau.

Rydym wedi cydweithio gyda Chyngor Gwynedd ar gau’r ardaloedd yma, ac mae’r map yn dangos yr holl lwybrau ac ardaloedd sydd wedi cau.

Rydym wedi gweithio’n galed i gynnal cydbwysedd rhwng cau safleoedd poblogaidd er mwyn rhwystro ymwelwyr a sicrhau bob pobl leol yn gallu ymarfer corff o’u cartref tra mae canllawiau’r Llywodraeth yn caniatau. Rydym yn ymwybodol bod gan rai cymunedau lai o fynediad i fannau agored oherwydd ein bod wedi cau’r holl ardaloedd yma ac rydym yn ymddiheuro am hyn. Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw arafu lledaeniad yr afiechyd a gwarchod ein cymunedau lleol a gwasanaethau iechyd.

Mae’r prif gyngor mewn perthynas a’r sefyllfa bresennol fel a ganlyn:

  • Peidiwch â theithio i ymarfer corff – ewch i ymarfer corff yn yr awyr agored yn agos i’ch cartref
  • Ewch ar ben eich hunain neu gydag aelodau o’ch haelwyd - Cadwch bellter o 2 metr/ 6 ½ troedfedd i ffwrdd o eraill bob amser.
  • Byddwch yn ymwybodol o safon hylendid a golchwch eich dwylo- mae gatiau, camfeydd ac unrhyw strwythurau eraill yn cael eu cyffwrdd yn aml.
  • Peidiwch ag ymgymryd â gweithgaredd newydd neu beryglus. Arhoswch yn ddiogel yn ystod y cyfnod yma heb roi pwysau ychwaengol ar ein gwasanaethau brys a iechyd.
  • Dilynwch y cod cefn gwlad- Byddwch yn ymwybodol o amaethwyr sy’n gweithio’n galed i gadw ein silffoedd yn llawn ac isadeiledd y wlad i redeg.

A fydd yna fwy o ardaloedd yn cau? Pryd y bydd yn dod i ben?

Mae’r mesurau o gau ein hardaloedd wedi eu sefydlu er mwyn arafu lledaeniad yr afiechyd. Mae llwyddiant y mesurau hyn yn ddibynnol ar negeseuon cryf a chlir.

Rydym yn adolygu rhain yn wythnosol ynghyd ag unrhyw faterion eraill sydd yn codi gan y cyhoedd ac unrhyw sefydliadau eraill.

Mae’n anhebygol y byddwn yn agor unrhyw lwybrau neu ardaloedd hyd nes y bydd y Llywodraeth yn newid eu polisiau mewn perthynas â’r llwyrgloi. Pe byddem yn gwneud hyn yn rhy gynnar, gall greu dryswch yn ein negeseuon i’r cyhoedd, yn lleol neu’n ymwelwyr. Bydd hyn yn bwysig iawn wrth i bobl ddechrau blino ar y cyfyngiadau symud. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i adolygu yn wythnosol.

Ein blaenoriaeth yw diogelu ein cymunedau, y gwasanaethau iechyd a’r gwasanaethau achub gwirfoddol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi creu fframwaith ar gyfer llacio’r mesurau llwyrgloi. Bydd y fframwaith - a’r saith cwestiwn - yn gymorth i benderfynu ar yr amser iawn i lacio ar rai o’r rheoliadau aros gartref.

Y saith cwestiwn yw:

  • A fyddai llacio’r cyfyngiadau yn cael effaith negyddol ar reoli’r firws?
  • A yw mesur penodol yn gosod risg isel ar gyfer heintio pellach?
  • Sut mae monitro a gorfodi?
  • Os oes canlyniad anfwriadol, ydi hi’n bosib gwrth-droi yn gyflym?
  • Oes buddiannau economaidd bositif?
  • Oes effaith bositif ar iechyd a lles pobl?
  • Oes effaith bositif ar gydraddoldeb?

Rydym yn awyddus i glywed am unrhyw bryderon felly cysylltwch os oes gennych unrhyw gwestiynau neu fater i’w godi.

Ble allai gael hyd i wybodaeth ynghylch ardaloedd  sydd wedi cau mewn rhannau eraill o Gymru?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw ynghylch hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad sydd wedi cau i’r cyhoedd yng Nghymru

Ceir hyd i'r holl wybodaeth yma.