Diweddariad Coronafirws (Covid-19)
DIWEDDARIAD 7 Ionawr 2021 - CAU MEYSYDD PARCIO AWDURDOD PARC CENEDLAETHOL ERYRI
Yn sgil y nifer cynyddol o bobl sy’n anwybyddu canllawiau Llywodraeth Cymru i beidio â theithio yn ddiangen mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi penderfynu cau ei holl feysydd parcio tra bo Cymru dan fesurau cyfyngiadau Lefel 4.
Yng Nghymru nid oes cyfyngiad o ran pa mor aml gaiff pobl fynd allan i ymarfer, ond rhaid dechrau a gorffen ymarfer o’r cartref.
- Bydd ein holl Ganolfannau Wardeiniaid wedi cau i’r cyhoedd. Gellir gwneud ymholiadau yn ymwneud â’r Gwasanaeth Wardeinio trwy gysylltu â’r Canolfannau Perthnasol Pen y Pass: 01286 872 555, Llyn Tegid: 01678 520 626, Betws y Coed: 01690 710 022, Dolgellau 01341 422 878 neu trwy e-bostio parc@eryri.llyw.cymru
- Bydd ein Wardeiniaid yn parhau i fynychu’r gwaith ond byddant yn cyfyngu eu cyswllt gyda phobl. Eu prif ffocws fydd ymateb i unrhyw faterion yn ymwneud â rheolaeth ymwelwyr (parcio, sbwriel ac ati) ac yn cydlynu contractwyr. Rydym hefyd yn trafod gydag asiantaethau eraill er mwyn canfod ffyrdd y gallwn ni gynnig gwasanaeth ein Wardeiniaid i helpu cymunedau lleol.
- Mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn parhau i weithredu ond gyda llai o adnoddau. Rydym yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl geisiadau cynllunio ac ymholiadau cyn cyflwyno cais yn cael eu prosesu, ond mae’n anochel y bydd rhywfaint o oedi.
- Mae ein pencadlys ar gau i’r cyhoedd. Byddwch yn ystyriol y gall rhai staff fod yn hunan-ynysu a gyda’r teulu cyfan gartref felly gall fod oedi mewn ymateb.
- Lle bo hynny’n bosibl bydd unrhyw wasanaethau contract a phrosiectau yn parhau er mwyn cefnogi busnesau lleol a’r economi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyffredinol gallwch e-bostio parc@eryri.llyw.cymru
Helpwch ni i warchod cymunedau ac ymwelwyr y Parc Cenedlaethol trwy ddilyn y canllawiau canlynol.
Byddwch yn ddiogel - Cadwch at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol pob amser. Cadwch bellter diogel rhyngoch chi/eich grŵp ac eraill. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw fannau cyfyng a golchwch eich dwylo ar ôl cyffwrdd unrhyw arwynebau caled gan gynnwys peiriannau talu ac arddangos.
Troediwch yn ysgafn – Byddwch yn barod i newid eich cyrchfan. Paratowch fwy nag un opsiwn rhag ofn i chi gyrraedd ardal sy'n prysuro.
Byddwch yn garedig – Parciwch yn y mannau priodol. Peidiwch a pharcio ar ochr y ffordd neu ar draws unrhyw fynediad, gall achosi problemau i ffermwyr, cymunedau neu'r gwasanaethau brys.
Gwiriwch y rheolau Covid diweddaraf yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru cyn gwneud unrhyw gynlluniau.