Strategaeth Gymunedol
Beth yw Strategaeth Gymunedol?
Mae Deddf Llywodraeth Leol 2000 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau unedol yng Nghymru i baratoi strategaethau cymunedol i hyrwyddo lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ardaloedd a chyfrannu tuag at gyflawni datblygiad cynaladwy.
Bydd Strategaethau Cymunedol yn darparu fframwaith strategol ar gyfer yr holl gynlluniau a strategaethau eraill sy’n berthnasol i ardaloedd cynghorau unedol. Bydd hyn yn gwella integreiddiad rhwng gweithgareddau’r sector gyhoeddus, preifat a gwirfoddol, ac yn cynorthwyo i osgoi dyblygu gwaith.
Mae’r prosesau Strategaeth Gymunedol ar gyfer ardal y ddau awdurdod unedol sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri (sef Gwynedd a Chonwy) wedi’u sefydlu’n iawn erbyn hyn.
Beth yw nod Strategaeth Gymunedol?
Mae’r broses sydd a wnelo’r Strategaeth Gymunedol yn dod ag ystod eang o elfennau ‘diddordeb’ a chynrychioliadol bywyd ynghyd mewn cymuned. Mae’n anelu at gytuno beth yw’r flaenoriaeth o ran gweithrediadau er mwyn:
- Gwella ansawdd bywyd ar gyfer y bobl leol
- Cyfrannu tuag at ddatblygiad cynaladwy yr ardal
- Darparu mecanwaith i drafod anghenion, cyfleoedd a dyheadau lleol
- Darparu ffocws ar gyfer cydweithio, a
- Helpu cynghorau i ddatblygu polisïau corfforaethol
Beth yw’r elfennau allweddol yn y broses?
- Sefydlu trefniadau partneriaeth
- Sefydlu fframwaith cefnogol i wneud y gwaith
- Sefydlu perchnogaeth ar ran y gymuned ac ymwneud teg ac effeithiol yn y gwaith
- Rhannu adnoddau digonol i gyflawni’r gwaith
- Datblygu sianelau cyfathrebu effeithiol er mwyn rhoi gwybod i bobl beth yw’r broses
Sut bydd y broses yn datblygu?
Bydd y gwaith o baratoi ac adolygu’r strategaethau cymunedol yn broses barhaus. Bydd Cynllun Gweithredu yn cael ei gyflwyno bob blwyddyn yn manylu beth yw’r blaenoriaethau gwaith ar gyfer y deuddeg mis yn dilyn hynny. Bydd Partneriaethau'r Strategaethau Cymunedol yn adolygu’r strategaethau cymunedol yn gyfnodol, bob tair neu bedair blynedd i ddechrau, er mwyn adlewyrchu anghenion a sefyllfaoedd sy’n newid.
Adnabyddir Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel sefydliad sy’n fudd-ddeilydd allweddol yn y broses o lunio Strategaeth Gymunedol yng Ngwynedd a Chonwy, a bydd yn parhau i gael ei gynrychioli ar y Byrddau Llywio a phan fydd y Partneriaethau yn ymgynnull.