Parc Cenedlaethol Eryri

Coed y Brenin Dolgellau

Llyn Mymbyr Eryri

Mawrth - Pwll yr Afanc

Mae mytholeg wedi chwarae rhan amlwg mewn tarddiad enwau lleoedd yn Eryri. Fel yr ydym wedi canfod yn y straeon blaenorol mae’n anodd iawn nodi os mai gwirionedd neu chwedl sydd wedi dylanwadu ar enwau, gan amlaf mae’n gymysgfa o’r ddau.

Arferai afanc, a oedd yn greadur bwystfilaidd, fyw mewn pwll yn Afon Conwy, ychydig i fyny’r afon o Fetws y Coed. Yr oedd yn peri dipyn o boen yn lleol gan y byddai tiroedd gerllaw yn cael eu boddi wrth iddo symud o gwmpas yn wyllt yn y dŵr, ac felly fe benderfynodd y trigolion lleol ei symud i Lyn Glaslyn ar lethrau’r Wyddfa.

Hudwyd ef i’r lan gan lais swynol merch leol, ac fe’i daliwyd a’i rwymo gan gadwynau haearn y gôf gorau yng Nghymru. Neidiodd yr afanc i mewn i’r pwll ac roedd rhaid i’r holl ddynion lleol ac ychen dynnu er mwyn ei gael yn nol i’r lan. Cymaint oedd ymdrech y tynnu daeth llygad un o’r ychen o’i le a ffurfiodd y dagrau bwll yn y fan a’r lle, a byth ers hynny Pwll Llygad yr Ych y’w enw arno!

Yn ffodus, daeth yr ych dros ei brofiad amhleserus a llwyddwyd i lusgo’r afanc at y llyn lle cafodd ei ryddhau. Dywedir ei fod yn dal i lechu yno hyd heddiw, felly byddwch yn ofalus os byddwch yn gwlychu eich traed ar ddiwrnod braf o haf!

Guto Roberts sy'n esbonio sut mae anifeiliaid wedi dylanwadu ar amryw o enwau llefydd yng ngogledd Eryri.

Merch ifanc yn hudo'r afanc at y lan (© APCE)

Merch ifanc yn hudo'r afanc at y lan (© APCE)