Eryri o'r Awyr

Llyn Trawsfynydd

Eryri o'r Awyr

Concwest y Rhufeiniaid

Roedd trigolion gogledd-orllewin Cymru yn adnabyddus i’r Rhufeiniaid fel yr Ordofigiaid. Cofnoda Tacitus nifer o ymgyrchoedd yn eu herbyn yn y deunaw mlynedd cyn i Agricola eu trechu’n derfynol. Gwelir tystiolaeth o’r ymgyrchoedd hyn yn y gwersylloedd gorymdaith mawr a wyddom amdanynt bellach ger Llanfor, Bryncir a Thomen y Mur. Ar ôl y goncwest yn 77-78 OC, codwyd nifer o gaerau mewn mannau strategol dethol o amgylch Eryri, i warchod y prif ffyrdd trwy’r mynyddoedd a chyda rhwydwaith o sarnau yn cysylltu iddynt. Arweiniodd y goncwest at newidiadau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol sylweddol a diau bod y rhaglen o adeiladu’r caerau yn gryn fuddsoddiad mewn llafur a deunyddiau.

Dim ond am tua deng mlynedd a thrigain y defnyddiwyd y rhan fwyaf o’r caerau hyn ar y tro ond arhosodd Segontium, ar y bryn isel uwchlaw Caernarfon heddiw, fel canolfan weinyddol tan ddiwedd y bedwaredd ganrif. Maes o law ar ôl y goncwest a’r goresgyniad milwrol, dechreuodd y brodorion ffynnu dan ddylanwad economaidd y weinyddiaeth Rufeinig. Mae tystiolaeth yn dyddio o thua’r ail ganrif o ddatblygiad aneddiadau brodorol unigryw ar ffurf cutiau caeëdig. Yn ystod cloddio’r aneddiad yn Graeanog ger Bryncir, cafwyd bod grawn unwaith wedi’i dyfu’n helaeth yno a bod gan y trigolion ffordd o fyw bur chwaethus, yn defnyddio nwyddau o flas a gwneuthuriad Rhufeinig. Roedd rhai o’r caerau mwyaf yn parhau mewn defnydd pryd hynny. Defnyddiwyd llestri pridd Rhufeinig ac ym Mraich y Ddinas ffeiriwyd eu pres am nwyddau, gan ddangos bod cyfundrefn economaidd Rhufain wedi treiddio’n ddwfn i’r gymdeithas frodorol.

Er y gwyddom am leoliad pob un o’r prif gaerau Rhufeinig, gwneir darganfyddiadau newydd o hyd, gan gynnwys gwersylloedd gorymdaith ac ymarfer, tyrau gwylio, odynau teils ac, wrth gwrs, rhagor o olion ffyrdd. Oherwydd patrwm unffurf unigryw’r olion milwrol Rhufeinig mae’n hawdd eu canfod o’r awyr, er eu bod weithiau wedi’u chwalu ar ôl aredig y tir yn barhaus.

Tomen y Mur, Trawsfynydd

Tomen y Mur, Trawsfynydd © RCAHM 945119-48

Un o’r ardaloedd archaeolegol mwyaf diddorol yn Eryri yw’r safle Rhufeinig, ymhlith eraill, o amgylch Tomen y Mur ger Trawsfynydd. Pren oedd y gaer gyntaf a godwyd a thua deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, codwyd un lai mewn cerrig. Gorwedd y gaer ar gefnen isel a golygfeydd ysblennydd o’r wlad o’i chwmpas a maes o law defnyddiwyd yr un lleoliad strategol gan y Normaniaid hwythau i godi eu castell pridd. Yn ôl chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogi, hen lys o’r Oesoedd Tywyll oedd Tomen y Mur, ond nid yw hyn eto wedi’i gadarnhau’n archaeolegol. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gytundeb rheoli gyda pherchennog Tomen y Mur, sy’n safle gwerth ei weld. Mae rhan o'r wal gerrig wedi'i hailgodi i'w huchder llawn, gydag atgynhyrchiad o un o'r meini canwriad a ddarganfuwyd ar y safle.

Tomen y Mur, Trawsfynydd

A: Caer Rufeinig; B: Tomen Normanaidd yn gorwedd dros borth y rhagfur diweddarach; C: Porth de-ddwyrain y gaer; D: Baddondy a mansio; E: Pentan y bont dros y ffos; F: Y Maes Parêd; G: Aneddiad ôl-ganoloesol diweddarach?; H: Yr Amffitheatr; J: Dyfrffos i’r baddondy; K: Dyfrffos o Lyn yr Oerfel i’r gaer. Cafn pren oedd rhan olaf y ddyfrffos fel arfer; L: Dyfrffos ganoloesol; M: Terfyn clawdd pridd a ffos ganoloesol; N: Ffordd Rufeinig i’r gogledd; Q: Ffordd i’r gorllewin; R: Hen ffordd; T: Tramffordd i chwarel Braich Ddu yn y 19eg ganrif.