Eryri o'r Awyr

Llyn Trawsfynydd

Eryri o'r Awyr

Y Dyfodol

Mae’n gyffredin i ddamcaniaeth a roddir gerbron gan un ysgolhaig gael ei dyfynnu gan un arall yn ddi-gwestiwn a’i bod, o dipyn i beth, yn cael ei derbyn fel ffaith. Gydol yr adran hon rydym wedi ceisio tynnu sylw at yr amryw feysydd sy’n parhau’n annelwig yn y cofnod archaeolegol a hanesyddol ac i wahaniaethu rhwng ffaith, damcaniaeth a dyfalu. I rai gall hyn ymddangos yn ddiflas, ond mae’n agwedd hanfodol bwysig os nad yw’r gorffennol i’w anwireddu. Mae’n eglur bod angen cryn astudiaeth bellach eto os yr ydym i ddeall tirlun Eryri’n well. Afraid dweud mai gwaith arbenigwyr yw ymchwil hanesyddol ac archaeolegol yn y maes, ond gydag adnabod safleoedd lleol, cofnodi hen enwau caeau a’u tarddiad, traddodiadau a hanesion llafar, gall pawb wneud ei ran. Yn anad dim, gall roi ymdeimlad o berthyn a pharhad i’r unigolyn, yng ngholl yn rhy aml yn yr oes ddyrys sydd ohoni gyda’i chysylltiadau a’i dylanwadau byd eang. Ond i’w hastudio’n iawn ar unrhyw lefel, mae’n rhaid i’r dystiolaeth fod ar flaenau’r bysedd. Mae’r ardal hon yn hynod ffodus bod ganddi, yng Nghaernarfon, un o’r archifdai lleol hynaf ym Mhrydain ac nid oes fyth amheuaeth bod angen diogelu llawysgrifau a hen luniau hanesyddol. Mae tystiolaeth archaeolegol yn fwy bregus. Cymharwyd y tirlun i lyfr gwerthfawr a phob safle a droir neu a chwalir fel rhwygo tudalen. Ond nid ymbil am lwyr gadwraeth sydd yma. Mae’r tirlun yn gofnod cynhyrfus a mwyfwy cymhleth o hyd o sut roedd pobol yn byw ac yn gweithio ers talwm. Mae’r newidiadau a ddisgrifir ar y tudalennau hyn oll wedi digwydd dros gyfnod o thua 6000 o flynyddoedd a, chan gymryd 30 o flynyddoedd yn fras fel cenhedlaeth, daw hyn i fawr mwy na 200 o genedlaethau. Yn wir, oni bai ein bod yn cymryd agwedd anobeithiol iawn ar ddyfodol yr hil ddynol, mae’n glir mai megis dechrau y mae dylanwad dyn ar ei dirlun. Mae gan wleidyddion, datblygwyr, cyrff cefn gwlad, perchnogion tir ac unigolion fel ei gilydd ran hollbwysig i’w chwarae mewn hyrwyddo cydbwysedd rhwng yr angen am gadwraeth a’r pwysau di-baid am newid, fel nad ydym yn atal datblygiad y presennol nac ychwaith yn dinistrio tystiolaeth y gorffennol, naill ai’n ddiangen neu’n ddiarwybod inni. Mae yma oblygiadau clir i bawb sy’n ymwneud a defnyddio a rheoli cefn gwlad, nid lleiaf yr angen i gadw persbectif ehangach, o’r gorffennol a’r dyfodol.

Ffridd Newydd and Phen y Braich, Garndolbenmaen

Ffridd Newydd and Phen y Braich, Garndolbenmaen © CUCAP TQ 54, 1956

Mae’r llun hwn o gasgliad Caergrawnt a dynnwyd yn 1956 yn ddiweddglo teilwng i’r adran hon. Mae sawl enghraifft yn Eryri o dresbas ar dir comin, ond r’un ar dir mor llwm a diffaith a hwn, ar ystlys orllewinol pentref y Garn ar droad y 18fed ganrif, sefydlodd amryw byd o sgwatwyr ar yr anialdir hwn, gan godi cabannau unnos mewn ymdrech ofer yn aml i sefydlu hawl i’w tresbas. Mae’r cyfnod hwn yn cynrychioli penllanw ymdrechion dyn i ddofi’r tirlun anghyfannedd hwn, ac ar ddechrau’r 19eg ganrif, cofnodwyd mai “pobol afreolus yn herio pob hawl blwyfol” oedd y tresbaswyr hyn. Yn sgîl Deddf Cau Tir Comin 1812 gwelodd cymdogaeth y Garn, fel ambell i ardal arall helynt difrifol a dedfrydwyd y terfysgwyr i flynyddoedd lawer o garchar am feiddio a herio’r drefn newydd. Hyd yn oed heddiw, adwaenir triolion y Garn fel ‘y deunaw mul’ fel a welir o’r hen gwpled talcen slip hwn “Deunaw mul o deulu’r Garn - a aeth i’r farn rhyw fore” ac er bod tarddiad yr hanes yn angof bellach mae’n debyg mai at y digwyddiadau cythryblus hyn y cyfeiria, sy’n dyst i gof hir a chryfder y teimlad lleol yn erbyn y tirfeddianwyr mawr a gorthrwm awdurdod pell difater. Er hynny, medrodd rhai o’r sgwatwyr brynu eu tyddynnod yn ddigon rhad ac os na allent eu fforddio, cawsant aros fel tenantiaid. Yng Nghofrestr y Degwm am 1838, cofnodir bod gan David Griffiths o Ben y Braich ychydig dros ddwy acer yn werth 2/9d a Gruffydd Pierce o Ffridd Newydd, oedd yn denant i William Ormsby Gore, ychydig dros un acer, gwerth 1/8d. Dyma ddau o’r tyddynnod lleiaf yn y plwyf. Fel hyn y dywedodd Colin Gresham yn ei astudiaeth fanwl o berchnogaeth tir yn Eifionydd, “Roedd y tir ar y dechrau bron yn ddiwerth ond, ar ôl blynyddoedd lawer o’i glirio, roedd digon o lewyrch ar y caeau i gadw’r teuluoedd oedd yn ymlafnio mor ddiflino arnynt rhag adfyd. Mae’r ardal gyfan yn dyst hyd heddiw i’r frwydr galed drybeilig i grafu bywoliaeth o’r diffeithdir hwn. Yn wir, ni allwn lai na rhyfeddu wrth weld y peth wmbreth o gerrig, mawr a man, sydd wedi’u pentyrru’n gloddiau anferth o gwmpas caeau mor bitw, a diau y tynnir deigryn o lygad y sawl a’i gwelo”.