Eryri o'r Awyr

Llyn Trawsfynydd

Eryri o'r Awyr

Patrymau Cynhanesyddol

Mae gan Eryri gannoedd lawer o olion henebion caeau ardderchog o’r cofnod cynhanesyddol. Mae llawer o’r rhain yn safleoedd ynysig megis y siambrau claddu o’r Oesoedd Neolithig ac Efydd neu’r caerau a’r aneddiadau o’r Oes Haearn, fel a ddangosir ac a ddisgrifir yn yr adran hon. Yn ddiau, prif ffurf y cyfnod cynhanesyddol oedd y cylch, fel a welir o’r carneddau a’r cylchoedd cerrig, o’r buarthau aneddiad a defodol ac, yn anad dim, o’r tai crynion a’r cylchoedd cutiau.

Yn wahanol i sawl ardal arall yng Nghymru, neu’n wir ym Mhrydain, mae gan ucheldir Eryri olion helaeth o sustemau caeau cynnar, mewn rhai ardaloedd yn ddigon amlwg inni weld hen batrwm y tirlun. Maent yn arbennig o eglur ar hyd arfordir Ardudwy ac mae aneddiad Muriau’r Gwyddelod (isod) yn enghraifft ragorol. Yn aml, mae’r caeau’n deillio’n glir o sawl cyfnod o weithgarwch a gallai’r caeau cynharaf fod wedi’u defnyddio am gannoedd, hyd yn oed filoedd o flynyddoedd cyn eu newid. Er mai bugeiliol yn llwyr bron yw economi amaethu Eryri heddiw, mae’n amlwg mai nid fel hyn y bu hi erioed. Mae sawl enghraifft, hyd yn oed ar yr ucheldir, o olion rhychau troi a rhai ohonynt yn sicr yn dyddio’n ôl i gyfnodau cynhanesyddol.

Mae’r safleoedd defodol mawr a’r caerau yn dyst i’r modd yr oedd cymunedau cynnar yn cydfyw, efallai dan rym penaethiaid pwerus. I’r gwrthwyneb fodd bynnag, archaeoleg y werin bobl yw’r patrwm caeau a’r aneddiadau, ac ôl llafur y tyddynnwr tlawd sy’n britho wyneb y tir. Mae’n atgof didwyll o’r modd y mae dyn wedi trin a hwsmona’r tir dros y canrifoedd dan amodau digon anodd yn aml.

Muriau'r Gwyddelod, near Harlech

Muriau’r Gwyddelod, ger Harlech © RCAHMW 965014-14†

I’r dde o’r ffordd fawr fodern gwelir grwpiau o gutiau anghyffredin o fewn buarth mwy. Yn ymledu ar allan o’r buarth mae cyfres o gloddiau terfyn yn cysylltu i fuarthau eraill ac yn y blaendir ar y chwith mae dwy wal o bobtu trac sy’n amlwg yn gynharach na rhai o’r cloddiau terfyn. Mae rhai o’r waliau diweddar yn dilyn olion hŷn a hyd yn oed mewn caeau wedi’u chwalu mae llinell yr hen gloddiau i’w gweld eto.

Cylch y Derwyddon, Penmaenmawr

Cylch y Derwyddon, Penmaenmawr © RCAHMW 945116-69

Fe wyddom bod amryw byd o gylchoedd cerrig wedi bodoli yn Eryri rhywdro neu’i gilydd a dyma’r enghraifft orau hyd heddiw. Fel gyda sawl heneb hynafol, traddodiad sy’n gyfrifol am darddiad yr enw ac nid oes iddo fawr o gysylltiad gyda na defnydd na dyddiad y safle.

Caer Moel Goedog, above Harlech

Caer Moel Goedog, uwchben Harlech © RCAHMW 9635113-51

Caer anghyffredin o’r Oes Haearn yw hon gyda rhagfuriau cyfochrog agos iawn at ei gilydd. Mae cerrig y gaer wedi’u lladrata’n rhemp i godi’r waliau diweddarach ac nid oes arwydd o na mynedfa nac adeiladau mewnol bellach.