Eryri o'r Awyr

Llyn Trawsfynydd

Eryri o'r Awyr

Patrymau yn y Tirlun

Mae Eryri’n dra adnabyddus am ei harddwch naturiol a dyma’r rheswm pam ddynodwyd yr ardal yn Barc Cenedlaethol. Fodd bynnag, nid yw cyfraniad dyn at greu’r tirlun hwn wedi’i werthfawrogi cystal.

Mae miliynau lawer o gynnwrf ac erydiad wedi addasu’r ddaear solet hon yn fynydd-dir ysgithrog wedi’i hollti’n ddyffrynnoedd dyfnion. Mor ddiweddar â thua 10,000 o flynyddoedd yn ôl, diflannodd yr olaf o’r rhewlifoedd, gan adael o’u hôl gymoedd creigiog a dyffrynnoedd U bedol y tirlun cyfoes, rhai’n llawn o lynnoedd diwaelod. Blingwyd yr ucheldir yn graig noeth gan y rhew gan adael y llethrau is yn farianau ac yn haenau dwfn o rewglai.

Tomen y Mur and Llyn Trawsfynydd

Tomen y Mur a Llyn Trawsfynydd © RCAHMW 965503-18

Ers hynny mae effaith tirlithriad a dŵr glaw wedi erydu’r llethrau, gan lenwi’r dyffrynnoedd a’r gwaelodion arfordirol gyda graean a llaid. O dipyn i beth, llanwyd y tir â phlanhigion, llwyni a choed, gydag anifeiliaid o bob math yn cartrefu’r ardal. Arferai hyd yn oed lethrau uchel y Carneddau fod unwaith yn drwm dan goed, ac mae eu holion i’w gweld o dan y mawnogydd mwy diweddar. Digwyddodd y newid hwn oll yn sgìl prosesau naturiol a hinsawdd hyd nes, tua 8000 o flynyddoedd yn ôl, i ddyn ymgartrefu am y tro cyntaf yn Eryri.

Ers tua 4000 Cyn Crist, mae tystiolaeth fod pobl Neolithig yn dechrau gwladychu a ffermio’r tirlun hwn, gan adeiladu siambrau claddu a chanolfannau defodol. O hyn ymlaen, dyn a’i dylwyth oedd yr effaith fwyaf ar y tirlun. Cliriwyd wyneb y tir o gerrig i hwyluso amaethu ac i godi cloddiau terfyn; darganfuwyd mwynau a cherrig o ansawdd neilltuol i wneud celfi ac i adeiladu. Newid o bwys i’r tirlun, ac un a eglurir orau trwy astudio paill mewn corsydd mawn, oedd cilio graddol y gorchudd coed gwreiddiol yn sgil clirio’r tir, pori anifeiliaid a defnyddio coed i adeiladu ac yn danwydd domestig a diwydiannol. Parhau hefyd oedd effaith yr hinsawdd, ar lysdyfiant a phatrwm aneddiad fel ei gilydd. Mewn cyfnodau sychach a chynhesach, byddai’r boblogaeth wedi tyfu a chodi i’r ucheldir; mewn blynyddoedd oerach a gwlypach, cefnu ar yr hafotai a wnaed. Heb goed, daeth pridd yr ucheldir yn fwy asid ac ymsefydlodd y corsydd mawn. O’r canrifoedd diweddarach mae gennym ddarlun cliriach o ddatblygiadau cymdeithasol a gwleidyddol yn ogystal ag economaidd yr ardal, sydd oll wedi cyfrannu at newid y tirlun.

Does nemor ddim o Eryri lle na welir dylanwad dyn, boed hynny’n uniongyrchol trwy iddo fod wedi gweddnewid wyneb y tir neu trwy’r newidiadau i’r llysdyfiant.

Egryn, Dyffryn Ardudwy

Ardal Egryn, Dyffryn Ardudwy © CUCAP RC8-EZ-174, 1983

Mae gan lethrau gorllewinol y Rhinogydd, rhwng Harlech a’r Bermo, rai o’r tirluniau mwyaf cymhleth yn Eryri, a gwelir rhai ohonynt yn glir iawn yn y llun hynod hwn o’r awyr o gasgliad Caergrawnt. Mae arfordir cul yr ardal, gyda’r tir mwyaf toreithiog, wedi’i glirio’n helaeth i ddatguddio clytwaith afreolaidd o gaeau, ond hyd yn oed yma gwelir olion hen gloddiau terfyn a buarthau cynhanesyddol (canol gwaelod y llun).

Ar lethrau uwch hanner ucha’r llun, mae peth wmbreth o olion aneddiad ac amaethu cynnar o sawl cyfnod gan greu tirlun eithriadol hynafol a di-dor bron. Mae yma gaer gynhanesyddol (pen y dudalen ar y chwith), nifer o aneddiadau cynhanesyddol eraill, cloddiau terfyn, tomenni cerrig, rhychau troi ac amryw byd o aneddiadau canoloesol ac ôl-ganoloesol. Draw ar y tir gwastad uwch, gwelir olion carneddau Neolithig ac Oes Efydd, cylchoedd cerrig ac amryfal aneddiadau eraill. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, roedd yr ucheldir hwn wedi’i amgáu gan gyfres ryfeddol o waliau sythion yn rhedeg hyd grib y Rhinogydd (maent i’w gweld yn gliriach ar luniau mwy diweddar). Yn ei dro, daeth datblygiad twristiaeth yn sgîl dyfodiad y rheilffyrdd ar hyd yr arfordir ac mae cornel un o’r meysydd carafanau di-ri i’w gweld. I gyfeiriad y môr o’r clawdd cerigos mae olion y fforestydd cynnar, a foddwyd yn dilyn toddi’r mynyddoedd rhew, bellach yn ddwfn dan fawnogydd ac wedi hen bydru. Hyd yn oed yma gwelir olion caeau cynnar islaw’r marc llanw.