Eryri o'r Awyr

Llyn Trawsfynydd

Eryri o'r Awyr

Rhagarweiniad

Nod y safle hwn yw disgrifio, trwy gyfrwng lluniau a geiriau, rhai o ffyrdd y datblygodd tirlun Eryri trwy law dyn gan geisio dangos faint o dystiolaeth i weithgareddau'r gorffennol sydd wedi goroesi. Mae'r graig galed a'r pridd gwael wedi cyfyngu erioed ar werth amaethyddol yr ardal, yn enwedig felly ar yr ucheldir, a dim ond yn rhannol y llwyddodd ein cyndadau i ysgubo olion gwareiddiadau'r gorffennol ymaith. Mae'r ardal yn frith o wahanol olion o'r holl gyfnodau hanesyddol a chynhanesyddol, fel y tystia'r siambrau claddu cynnar, y caerau Rhufeinig, yr abatai a'r cestyll canoloesol a'r olion aneddiad o bob cyfnod. Yn llai adnabyddus, ac yn anos eu canfod ar y ddaear, yw olion helaeth y sustemau caeau cynnar sy'n gosod safle sy'n ynysig i bob golwg mewn cyd-destun ehangach. Mewn rhai ardaloedd mae patrwm y caeau yn ddigon amlwg inni fedru adnabod tirluniau cynnar eang.

Mae ffotograffiaeth o'r awyr yn gyfrwng arbennig o ddefnyddiol i ddangos patrymau aneddiad cynnar ac yn caniatáu inni werthfawrogi dylanwad dyn o lygad y ffynnon fel petai. Yn wir, heb olygfeydd o'r awyr, byddai wedi bod yn enbyd o anodd canfod, cofnodi a dehongli'r wybodaeth hon. Er y cyflwynir y dystiolaeth mewn modd thematig a chronolegol fwy na heb, dengys bron bob llun olion sawl cyfnod o weithgarwch sy'n dyst i gymhlethdod a natur amrywiol y tirlun heddiw.

Er gwaetha tua chanrif o astudiaeth archaeolegol a hanesyddol helaeth, niwlog braidd yw sawl agwedd ar Eryri eto. Yn enwedig, prin fu'r astudiaethau manwl o'r aneddiadau a'r sustemau caeau a phur anaml y mae modd eu dyddio'n fanwl neu ddarganfod hyd yn oed eu hunion bwrpas. Yn ddiau, mae llawer o weithgareddau dyn heb adael olion digon clir inni eu gweld o'r awyr ac adlewyrchir hyn yn y dewis o themâu.

Er gwaetha tua chanrif o astudiaeth archaeolegol a hanesyddol helaeth, niwlog braidd yw sawl agwedd ar Eryri eto. Yn enwedig, prin fu'r astudiaethau manwl o'r aneddiadau a'r sustemau caeau a phur anaml y mae modd eu dyddio'n fanwl neu ddarganfod hyd yn oed eu hunion bwrpas. Yn ddiau, mae llawer o weithgareddau dyn heb adael olion digon clir inni eu gweld o'r awyr ac adlewyrchir hyn yn y dewis o themâu.

Maen y Bardd area

Ardal Maen y Bardd © RCAHMW 94-CS-0815

The flanks of the Carneddau are littered with early remains. The dominant feature in this view is the Roman road, climbing steeply from Rowen towards Bwlch y Ddeufaen. Communications round the northern flank of the mountains have always been made difficult by the Penmaenbach headland and this high pass was one of the main routes until Telford’s coast road was built in the 19th century.

Mae ystlysau'r Carneddau yn frith o olion cynnar. Nodwedd amlycaf y llun uchod yw'r Ffordd Rufeinig, sy'n dringo'n serth o Rowen tuag at Fwlch y Ddeufaen. Mae cyfathrebu o amgylch ystlys ogleddol y mynyddoedd hyn wedi'i lesteirio erioed oherwydd pentir Penmaenbach a'r bwlch uchel hwn oedd un o'r ffyrdd pwysicaf hyd nes adeiladu ffordd arfordirol Telford yn yr 19eg ganrif. Dangosir y defnydd a wnaed o'r ffordd hon fel sarn gynnar gan y clwstwr claddfeydd a chylchoedd cerrig ar fin y ffordd ac, wrth gwrs, gan y meini hirion ar ben y bwlch. Mae'r ffordd Rufeinig yn torri trwy sustem helaeth o gaeau cynnar, yn eu plith feddrod Neolithig ac aneddiadau o sawl cyfnod. Mae gan y llethrau uwch beth wmbreth o olion rhychau troi ac adeiladau hirsgwar, o'r cyfnod canoloesol cynnar mae'n debyg. Mae clirio'r tir yn barhaus, ynghyd ag ailwampio'r cloddiau terfyn, wedi gadael yr olion cynharach braidd yn ddrylliedig gan arwain at godi'r waliau uchel hyn sydd mor amlwg ar wyneb y wlad.

Mynydd Egryn

Mynydd Egryn © RCAHMW 943-CS-0819

Dengys yr olygfa letraws o'r ardal yng nghanol hanner ucha'r llun uchod dystiolaeth fwy manwl o aneddiad cynnar. Y nodwedd amlycaf yn rhan ucha'r llun yw caer gynhanesyddol Pen Dinas, gyda'i rhagfur enfawr o gerrig anferth ac ail ragfur i warchod y fynedfa. Oddi tani, ar ymyl Ceunant Egryn gwelir buarth crwn gyda chylch cut crwn yn ei ganol. Cloddiwyd y safle yn y 1920au gan O.G.S. Crawford, gyda chymorth lleol, ond yr unig ddarganfyddiad oedd modrwy haearn - rhan o ffrwyn ceffyl mae'n debyg. Ar lan arall yr afon, ymhellach i'r dde, mae buarth crwn arall sydd hefyd yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol siwr braidd.

Yng nghanol y llun mae chwarel lechi fechan o'r 19eg. I'r dde iddi, yr ochr arall i Geunant Egryn, mae darn o dir garw sy'n nodi ardal Carreg Egryn a ddefnyddiwyd gyntaf yn y 13eg ganrif i ddarparu cerrig i godi Castell Harlech. Dengys cofnodion manwl o'r cyfnod hwn i olosg gael ei gludo i'r efail yn y chwarel i hogi cynion y chwarelwyr a'r seiri meini. Ar y llechwedd yng nghanol gwaelod y llun mae cyfres o gaeau afreolaidd gerllaw adeiladau hirsgwar, un yn dair siambr. Prin y gwelwch yr aneddiad arall ar y llechwedd islaw'r gaer nac ôl y tai hirsgwar hyd goridor mynedfa'r gaer. Yng nghanol y llun ar y dde mae dau fuarth gydag adeiladau hirsgwar, ond erys dyddiad y rhain yn ansicr. Mae'n debyg eu bod yn dyddio'n ôl i'r 13eg neu i ddechrau'r 14eg ganrif, ond efallai mai olion diweddarach ydynt ar ôl i daeogion y faestref ffoi rhag pla du canol y 14eg ganrif.