Eryri o'r Awyr

Llyn Trawsfynydd

Eryri o'r Awyr

Tirluniau Hanesyddol

O’r Oesoedd Tywyll hyd heddiw

Yn ystod y saith canrif rhwng ymadawiad y Rhufeiniaid a dyfodiad y Normaniaid, gwelwyd datblygiadau hanfodol bwysig yng ngwleidyddiaeth, cymdeithas ac yn yr eglwys yng Nghymru. Fodd bynnag, prin ac anodd iawn i’w dehongli yw’r ffynonellau hanesyddol, a bratiog iawn yw ein gwybodaeth o archaeoleg y cyfnod. Yr henebion archaeolegol mwyaf niferus yw’r cerrig Cristnogol cynnar a rhydd eu harysgrifau gipolwg treiddgar inni o bwysigion y cyfnod rhwng y 6ed a’r 9fed ganrif. Daethpwyd o hyd i lawer o’r cerrig hyn gerllaw eglwysi, sy’n profi eu hynafiaeth, a chafwyd rhai mewn hen fynwentydd cynnar neu’n agos at ffyrdd Rhufeinig. Darganfuwyd un garreg, sydd bellach yn Eglwys Penmachno, ar safle Beddau Gwŷr Ardudwy ger Ffestiniog. Cofnoda ei harysgrif anghyffredin mai bedd Cantiorix ydyw, dinesydd Venedos (h.y. Gwynedd) a chefnder i Fagli’r Ynad, sy’n awgrym o drefn oddeutu’r 7fed ganrif nad oes gennym nemor ddim tystiolaeth arall ar ei chyfer. Mae atgynhyrchiad o'r garreg hon wedi'i chodi yng ngwaith dŵr Garreg Lwyd (SH 725 427) ger y man y credir y daethpwyd o hyd iddi.

Yr unig aneddiad yn Eryri sydd modd ei ddyddio i gyfnod cynharaf yr adeg hon yw caer enwog Dinas Emrys ger Beddgelert (isod). Dywed Nennius, hanesydd o’r 9fed ganrif, am ddigwyddiadau chwedlonol a gysylltir gyda chwedl Vortigern ac Ambrosius a llyn lle mae’r ddraig goch a’r ddraig wen yn ailgreu’r ymladd rhwng y Brython a’r Sacson. Yn dilyn cloddio yn 1955 daethpwyd o hyd i greiriau’n dyddio o ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid, gan gynnwys llestri pridd a gwydr lliw cywrain yn dyddio o’r 5ed neu’r 6ed ganrif, sy’n cadarnhau’n anhygoel bron bod yma oresgyniad tua’r un adeg a’r digwyddiadau a draddodir yn yr hen chwedl. Mewn pant yn y canol mae pwll hirsgwar wedi’i lenwi â mawn a llaid gyda gwely cerrig drosto, ac olion adeiladwaith pren yn is wedyn. Nid yw’n hawdd egluro’r rhain fel adeiladau confensiynol ac efallai’n wir bod hanes cyfrin llawer cynt i’r safle. Eglurhad mwy diramant efallai yw mai ychwanegiadau diweddarach at hanes Nennius yw’r chwedlau mewn ymgais i egluro enw’r safle. Un dehongliad o’r dystiolaeth yw bod gan Ddinas Emrys arwyddocâd defodol sy’n deillio’n ôl i gwlt addoli dŵr cynhanesyddol ac a ddefnyddiwyd gan un o benaethiaid yr Oesoedd Tywyll i ddyrchafu ei safle. Mae darganfyddiadau o’r safle, sy’n cynnwys casgenni gwin o’r Canoldir, tamaid o lestr pridd wedi’i stampio gyda’r symbol ‘Chi-Rho’ Cristnogol ac olion gemwaith, yn dyst i chwaeth fydol a chysylltiadau eang y pennaeth hwn.

Mae yma hefyd beth tystiolaeth o barhad defnydd y bryn hwn, fel a awgrymir gan y sylfaen hirsgwar ar y copa. Nid oes gennym gofnod dogfennol o ddyddiad ei wneuthuriad, ond mae ei debygrwydd i’r tŵr gwreiddiol yn Nolwyddelan yn awgrymu mai castell bychan oedd Dinas Emrys a godwyd gan Llywelyn ap Iorwerth ar ddiwedd y 12fed neu ddechrau’r 13eg ganrif.

Dinas Emrys, Nantgwynant

Dinas Emrys, Nantgwynant

Dinas Emrys, Nantgwynant © RCAHM 965063-69

Roedd copa’r bryn creigiog hwn wedi’i amddiffyn yn wreiddiol gan balis pren, yna’n ddiweddarach gan ragfur cerrig sy’n aneglur braidd yn y llun. Rhoddwyd mynediad i’r gaer i fyny’r llechwedd eithriadol serth o’r gorllewin i lwyfan is sydd hefyd wedi’i amddiffyn. Mae’r pyrth yn y ddau ragfur (A,B) i’w gweld yn glir ar y ddaear ac mae’r pwll (C) yn y pant coediog dwfn o dan y copa. Uchaf un mae sylfaen hirsgwar (D) tŵr castell canoloesol. Yng nghanol cefndir y llun, mae caer gynhanesyddol Dinas, fry uwchben pentref Beddgelert. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar Ddinas Emrys heddiw. Mae arolwg geoffisegol diweddar wedi dangos bod y rhagfur yn un gwydrol.