Addysg Uwchradd
Nod yr adran yma yw cyflwyno gwybodaeth am bwrpas Parc Cenedlaethol Eryri yn unol â Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad 1949. Y ddeddf yma yw sail bodolaeth holl Barciau Cenedlaethol Prydain ac mae wedi ei strwythuro yn ôl y tri prif amcan yma;
- Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth diwylliannol yr ardal.
- Hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau nodweddion arbennig yr ardaloedd gan y cyhoedd.
- Meithrin lles economaidd a chymdeithasol cymunedau lleol y Parc Cenedlaethol.

Addysg Uwchradd (© APCE)
Mae’r adran yma wedi ei rhannu’n dair rhan ac yn eich cyflwyno i’r gwaith sy’n cael ei wneud ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn ogystal â rhoi gwybodaeth am y bobl sy’n byw yma, yr ymwelwyr blynyddol a pham ei bod mor bwysig edrych ar ôl y rhan yma o’r wlad.
I ddarganfod a deall mwy am yr agweddau uchod a sut mae Parc Cenedlaethol Eryri yn gweithredu ei amcanion, cliciwch ar y dolenni isod;
Am fwy o wybodaeth am Barc Cenedlaethol Eryri, cliciwch ar y dolenni isod.