Dysgu Am

Castell Harlech

Addysg

Llywelyn ap Gruffudd [Llywelyn Ein Llyw Olaf], (m.1282)

Teitl: Tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri.

Teulu: Ail fab Gruffudd ap Llywelyn a’i wraig, Senena ac wyr i Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr). Brawd i Owain, Dafydd a Rhodri ap Gruffudd. Priododd ag Eleanor de Montfort a ganed iddynt un ferch, sef y Dywysoges Gwenllïan.

Bu farw Dafydd ap Llywelyn ym mis Chwefror 1246 ac fel rhan o gytundeb Woodstock, 1247, rhanwyd tiroedd ac eiddo Dafydd rhwng Llywelyn ap Gruffudd a’i frawd hŷn, Owain (a oedd bellach wedi’i ryddhau o fod yn wystl yn Nhŵr Llundain). Cyfyngwyd Owain a Llywelyn i Wynedd Uwch Conwy, a phan ddaeth eu brawd, Dafydd yn ddigon hen, ceisiodd yntau dderbyn ei gyfran o etifeddiaeth ei ewythr.

Yn 1255, trechodd Llywelyn, Owain a Dafydd trwy frwydr a sefydlodd ei hun yng Ngwynedd Uwch Conwy, cyn ehangu ei diroedd i ochr ddwyreiniol yr afon Conwy (Y Berfeddwlad). Unwaith llwyddodd i adennill Meirionnydd, roedd wedi ail sefydlu Tywysogaeth ei Daid, Llywelyn ab Iorwerth.

Ffurfiodd Llywelyn gynghrair filwrol a gwleidyddol gydag arweinwyr Cymreig eraill, gan sicrhau undod yng Nghymru. Nid oes unrhyw amheuaeth bod hyn yn gamp anferthol ac yn dystiolaeth o allu Llywelyn fel arweinydd. Cadarnhawyd hyn yn 1258, pan dyngodd yr arweinwyr Cymreig lw i Llywelyn mewn cynulliad. Ceisiodd Llywelyn fynd â’r cynnydd hwn gam ymhellach trwy geisio sicrhau bod yr holl arweinwyr Cymreig yn talu gwrogaeth iddo, yn hytrach nag i frenin Lloegr, ac mai fo yn unig fyddai’n talu gwrogaeth i’r brenin. Methodd yr ymgais yma, ond yn 1262, dechreuodd Llywelyn ddefnyddio’r teitl ‘Tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri’.

Wedi blynyddoedd ansicr, cadarnhawyd tiroedd y dywysogaeth Gymreig i Llywelyn a’i etifeddion, gan Harri III, ym mis Medi, 1267, fel rhan o Gytundeb Mynwy. Derbyniodd wrogaeth yr holl arglwyddi Cymreig, ar wahân i Meredydd ap Rhys Gryg. Gorfodwyd Llywelyn i dalu 25,000 marc am y cytundeb ac i ddarparu ar gyfer Dafydd ap Gruffudd, ei frawd.

Yn 1272, daeth Edward I yn frenin Lloegr. Ymddengys na ddangosodd Llywelyn ddigon o barch tuag at y brenin newydd, gan na thalodd wrogaeth iddo ym Mynwy yn 1273 a methodd dalu taliadau gofynnol Cytundeb Mynwy. Mae’n debyg bod Llywelyn yn wynebu problemau ariannol dyrys. Gwaethygodd y sefyllfa pan fethodd Llywelyn fynychu seremoni coroni Edward I yn 1274 a methodd dalu gwrogaeth i’r brenin yn yr Amwythig yn 1274. Gofynwyd wrth Llywelyn i dalu gwrogaeth i Edward I yng Nghaer yn 1275. Teimlodd Llywelyn nad oedd hi’n ddiogel iddo fynychu, gan fod Edward wedi rhoi lloches i ddau ddyn a oedd wedi ceisio lladd Llywelyn.

Yn ystod y cyfnod ansicr yma, trefnwyd priodas rhwng Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montfort, merch Simon de Montfort, Iarll Caerlŷr. Roedd Edward I yn amheus iawn o’r briodas hon, a mynegodd hynny mewn llythyrau i’r Pab, Gabriel III.

Lluniwyd Cytundeb Aberconwy rhwng Edward I a Llywelyn yn 1277. Cytunwyd y câi Llywelyn gadw tir Gwynedd Uwch Conwy a theitl ‘Tywysog Cymru’, gyda phump is-arglwydd Cymreig yn talu gwrogaeth iddo. Yn y flwyddyn honno, talodd Llywelyn wrogaeth i Edward I.

Cynhaliwyd seremoni briodas Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montfort yn Worcester yn 1278. Edward roddodd y briodferch i ffwrdd a fo hefyd dalodd am y wledd.

Lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri ar Ragfyr 11eg, 1282. Ceir tystiolaeth ei fod wedi’i hudo yno gan Edmund Mortimer a barwniaid eraill y Mers, a gynllwyniodd i’w fradychu. Ymddengys ei fod wedi’i ladd gan filwr na wyddai pwy oedd o ar y pryd. Torrwyd ei ben i ffwrdd a chafodd ei wisgo gyda choron eiddew a’i arddangos yn Nhŵr Llundain.

Mae Carnedd Llywelyn yn Eryri wedi'i enwi er cof am Llywelyn ab Iorwerth a Llywelyn ap Gruffudd a bellach, caiff Diwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf ei ddathlu yn flynyddol, ar Ragfyr 11eg.