Dysgu Am

Castell Harlech

Addysg

Tywysogion Eryri

Erbyn yr Oesoedd Canol, prif deyrnasoedd Cymru oedd Gwynedd, Powys a'r Deheubarth. Ar y cyfan, Gwynedd oedd teyrnas fwyaf pwerus Cymru, a hynny’n bennaf oherwydd bod daearyddiaeth fynyddig Eryri yn ei gwneud yn haws i’w hamddiffyn. Gellir olrhain goruchafiaeth Gwynedd yn ôl i deyrnasiad Maelgwn Gwynedd yn y G6. Yn ei ddydd, Maelgwn oedd arweinydd grymusaf Cymru.

Yn 825, sefydlwyd llinach newydd yng Ngwynedd, gan Merfyn Frych. Ei olynydd ef oedd Rhodri Mawr, sef rhagflaenydd Gruffudd ap Cynan, a ail sefydlodd linach Rhodri Mawr yn 1098. Dyma’r llinach y bu Llywelyn ab Iorwerth a Llywelyn ap Gruffudd yn rhan ohoni.

Sefydlwyd Tywysogaeth Cymru yn swyddogol yn 1267, fel rhan o Gytundeb Trefaldwyn, pan gydnabyddodd Edward I, Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Cymru. Lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri yn 1282 a danfonwyd ei unig etifedd, y Dywysoges Gwenllïan, i fyw mewn lleiandy yn Sempringham, Swydd Lincoln. Etifeddwyd teitl Tywysog Cymru gan frawd Llywelyn, sef Dafydd ap Gruffudd ond daeth y llinach i ben yn fuan, pan ddienyddwyd Dafydd yn 1283. Dyma gwblhau yr Oresgyniad Edwardaidd tros Gymru.

Serch hynny, parhaodd y Dywysogaeth Gymreig a sefydlwyd gan Dywysogion Gwynedd i fodoli, gan na chafodd ei chynnwys yn rhan o deyrnas Lloegr. Pan ddaeth mab Edward I, sef Edward o Gaernarfon, yn Dywysog Cymru yn 1301, derbyniodd y Dywysogaeth Gymreig fel y pennwyd hi yn 1267. Hyd Ddeddf Uno Cymru a Lloegr yn 1536, rhanwyd Cymru yn ddwy ran, sef Y Dywysogaeth a’r Mers. Bellach, ystyrir ‘Y Dywysogaeth’ yn Gymru gyfan, fel y caiff ei dynodi yn ddaearyddol heddiw.

Llinell Amser y Tywysogion

1039: Bu farw Iago ab Idwal, Brenin Gwynedd. Daeth Gruffudd ap Llywelyn ap Seisyll yn Frenin Gwynedd, gan hawlio perthynas i Rhodri Fawr trwy ei fam, Prawst.

c.1055: Ganed Gruffudd ap Cynan ym mhentref Swords, swydd Dulyn. Ef oedd mab Cynan ab Iago ab Idwal ac wŷr Iago ab Idwal, cyn frenin Gwynedd.

1063: Lladdwyd Gruffudd ap Llywelyn ap Seisyll. Yn ôl un traddodiad, honnir mai Cynan ab Iago (tad Gruffudd ap Cynan) a'i lladdodd.

1075: Dychwelodd Gruffudd ap Cynan i Wynedd, o Iwerddon, gyda’r bwriad o ail-sefydlu teyrnas ei daid, Iago ab Idwal yng Ngwynedd.

1099: Llwyddodd Gruffudd ap Cynan i ennill Ynys Môn. Rhoddodd hyn sail iddo ehangu ei diroedd yng Ngwynedd.

1137: Bu farw Gruffudd ap Cynan a daeth ei fab, Owain Gwynedd (Owain ap Gruffudd) yn Frenin Gwynedd.

1163: Talodd Owain Gwynedd wrogaeth i’r Brenin Harri II yn Woodstock.

1165: Yng Ngorffennaf / Awst, gyrrodd Owain Gwynedd ei lythyr cyntaf at Louis VII o Ffrainc, yn ceisio’i ddarbwyllo i arwain ymgyrch filwrol yn erbyn Harri II. Bathwyd y teitl ‘Tywysog Cymru’ ar Owain Gwynedd.

1167: Ymosododd Owain Gwynedd a’r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth ar Owain Cyfeiliog, arweinydd Powys, ond parhaodd Harri II yn brif fygythiad Tywysogaeth Gwynedd.

1170: Bu farw Owain Gwynedd. Rhanwyd ei diroedd ymysg ei feibion, Iorwerth Drwyndwn, Maelgwn, Dafydd a Rhodri.

1171: Lluniwyd fersiwn gwreiddiol ‘Historia Gruffud vab Kenan’ yn yr iaith Ladin.

1173: Ganed Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr). Dywedyd mai yn Nolwyddelan y ganwyd ef.

1174: Bu farw Iorwerth Drwyndwn.

1188: Dechreuodd Llywelyn ab Iorwerth ei ymgyrch yn erbyn ei ewythredd, Maelgwn, Dafydd, a Rhodri.

1201: Lluniwyd cytunteb rhwng Llywelyn ab Iorwerth a’r Brenin John o Loegr, yn cadarnhau tiroedd Llywelyn yng Ngwynedd.

1204/5: Priododd Llywelyn ab Iorwerth â Siwan, merch anghyfreithlon y Brenin John o Loegr. Ganed pump o blant iddynt, sef Dafydd, Gwladus, Marared, Susanna ac Elen. Roedd Llywelyn eisoes yn dad i ddau blentyn anghyfreithlon, sef Gruffudd a Gwenllïan.

1216: Cynhaliodd Llywelyn ab Iorwerth Senedd Gymreig yn Aberdyfi.

1220: Cydnabyddodd Goron Lloegr mai Dafydd ap Llywelyn, yn hytrach na Gruffudd ap Llywelyn, fyddai olynydd Llywelyn ab Iorwerth.

1221: Dechreuwyd adeiladu Castell y Bere ger Llanfihangel y Pennant.

c.1225: Ganed Llywelyn ap Gruffudd yn fab i Gruffudd ap Llywelyn a’i wraig, Senena. Roedd Llywelyn ap Gruffudd yn ŵyr i Llywelyn ab Iorwerth.

c.1230: Comisiynodd Llywelyn ab Iorwerth adeiladu Castell Dolbadarn yn Llanberis.

1237: Bu farw’r Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn ab Iorwerth.

1237-40: Yn sgil marwolaeth y Dywysoges Siwan, adeiladodd Llywelyn ab Iorwerth, briordy er cof amdani, yn Llanfaes, Ynys Môn.

1240: Bu farw Llywelyn ab Iorwerth. Claddwyd ef yn Abaty Aberconwy. Ei olynydd oedd Dafydd ap Llywelyn.

1241: Ildiodd Dafydd ap Llywelyn gantref Tegeingl i Harri III.

1244: Bu farw Gruffudd ap Llywelyn wrth geisio ffoi o Dŵr Llundain.

1246: Bu farw Dafydd ap Llywelyn. Rhanwyd ei diroedd rhwng ei neiaint, Owain a Llywelyn ap Gruffudd.

1255: Trechodd Llywelyn ap Gruffudd ei frodyr a sefydlodd ei hun yng Ngwynedd Uwch Conwy.

1262: Bathodd Llywelyn ap Gruffudd deitl newydd arno fo’i hun, sef ‘Tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri’.

1267: Arwyddwyd cytundeb Mynwy rhwng Llywelyn ap Gruffudd ac Edward I.

1278: Priodwyd Llywelyn ap Gruffudd ac Eleanor de Montfort yn Worcester.

1282: Ym mis Mehefin, ganed y Dywysoges Gwenllïan i Llywelyn ap Gruffudd a’i wraig, Eleanor de Montfort. Bu farw Eleanor wrth roi genedigaeth i Gwenllïan. Ar Ragfyr 11eg, 1282, lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri a gyrrwyd y Dywysoges Gwenllïan i leiandy yn Sempringham, Swydd Lincoln. Magwyd hi yno, ac yno y bu farw, heb wybod am ei chysylltiadau brenhinol yng Nghymru. Dilynwyd Llywelyn ap Gruffudd yn Dywysog Gwynedd gan ei frawd, Dafydd.

1283: Cafodd Dafydd ei ddal gan fyddin Edward I, ei dreialu a’i grogi am fradwriaeth. Dywedodd Edward I mai dyma achos llys ‘yn erbyn yr olaf o deulu o fradwyr’. Cafodd ei ddiberfeddu a’i chwarteru a gyrrwyd darnau o’i gorff i bedwar dinas gwahanol. Dyma ddynodi diwedd y goncwest Edwardaidd tros Gymru.

1369: Hawliodd Owain Lawgoch, Gwynedd. Owain oedd nai Llywelyn a Dafydd ap Gruffudd (sef mab eu brawd, Rhodri).

1378: Lladdwyd Owain Lawgoch gan yr Albanwr, John Lamb. Roedd Lamb yn filwr a gyflogwyd gan Goron Lloegr.

1400: Lawnsiodd Owain Glyndŵr ei wrthryfel trwy ymosod ar dref Rhuthun. Cyhoeddodd Owain Glyndŵr mai ef oedd Tywysog Cymru, yng Nglyndyfrdwy.

1404: Cynhaliwyd Senedd gan Glyndŵr ym Machynlleth.

1406: Danfonodd Owain Glyndŵr Lythyr Pennal at Charles VI, Brenin Ffrainc. Dengys y llythyr weledigaeth Glyndŵr ar gyfer sefydlu Cymru annibynol, sefydlu eglwys annibynnol yng Nghymru a dwy brifysgol Gymreig.

1415: Gwrthododd Owain Glyndŵr gynnig pardwn gan Frenin Harri V o Loegr.