Dysgu Am

Castell Harlech

Addysg

Porthmyn Eryri

Ceir tysiolaeth sy’n awgrymu bod porthmona wedi dechrau yng Nghymru a Lloegr yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Yn dilyn y goresgyniad Rhufeinig, roedd modd i’r Rhufeiniaid godi trethi, ac roedd modd eu talu gyda chaethweision, metelau, neu warthog. Dyma ddechrau’r gal war gyfer symud gwartheg o un ardal i’r llall.

Byth ers y cyfnod Normanaidd, mi fu’n gyffredin gweld heidiau o wartheg, defaid, moch a gwyddau yn teithio ar hyd lonydd Cymru, tua marchnadoedd dwyrain Lloegr ac yn y G17, dechreuwyd gyrru twrcïod yn yr un modd. Gellir dychmygu bod y teithiau hyn yn eithriadol o swnllyd, a’r porthmon ei hun yn gweiddi ar dop ei lais, er mwyn rhybuddio ffermwyr lleol bod haid ar fîn pasio. Yna, byddai’r ffermwr yn casglu’i anifeiliaid ei hun er mwyn sicrhau na fyddont yn ymuno â thaith yr haid. Câi’r anifeiliaid eu gyrru o Gymru i Loegr i’w gwerthu ar gyfer eu cig: incwm da i’r diwydiant amaethyddol, a oedd yn y cyfnod hwnnw, yn ddiwydiant cynhaliol ar y cyfan, gydag ychydig iawn o gynnyrch ychwanegol (boed yn llysiau, yn gig neu yn llefrith) ar gael i’w werthu: cynhyrchu i gynnal y teulu yn unig fyddai’r rhan fwyaf o ffermwyr.

Meddai Adam Smith: “The mountains of Scotland, Wales and Northumberland indeed are not capable of much improvement and seemed destined by nature to be the breeding grounds for Great Britain" (The Drovers’ Roads of Wales; Godwin and Toulson, Biddles Ltd., 1977, t.16-17).Gwelwyd bod haenau canol ac uwch y gymdeithas Seisnig yn medru byw ar gig eidion Cymreig, lle bo ffermwyr Cymru’n goroesi ar ddeiet gwael. Meddai W.F.Mayor yn 1805: “the poor Welsh farmer depends more on his livestock to pay his rent than on the produce of the Earth, which seldom furnishes more than a subsistence for himself and his family" (The Drovers’ Roads of Wales; Godwin and Toulson, Biddles Ltd., 1977, t.17).

Ymddengys bod rhywfaint o dystiolaeth bod porthmoniaeth yn bodoli yng Nghymru yn ystod y cyfnod Normanaidd, ac mae’n sicr ei fod yn arfer cyffredin o tua dechrau’r Canol Oesoedd. Cofnodwyd y gair ‘porthmon’ yn gyson mewn cofnodion Bwrdeistrefol ac Argwlyddiaethol yn ystod y G14-15, yn ôl yr hanesydd R.T.Jacks. Erbyn Rhyfel Cartref Lloegr, roedd porthmoniaeth yn ei anterth, a bu’r rhyfel hwnnw, rhwng y Seneddwyr a’r Brenhinwyr yn berygl ynddo’i hun i borthmyn. Mi fu’r bygythiad mor sylweddol i borthmyn a’r heidiau o anifeiliaid nes yr ysgrifenodd criw o wyr bonheddig o ogledd Cymru at y Brenin i ymofyn iddo warantu eu diogelwch:

“Our cattle driven and sould in most parts of England, hath bin and is the onelie support of yo’r petitioners being and livelihood, aming whom be many thousand families on the mountainous part of this country, who sowing little or noe corn at all, trust merely to the sale of their cattle, wool and welch cottons for provision of bread" (The Drovers’ Roads of Wales; Godwin and Toulson, Biddles Ltd., 1977, t.12).

Pont Scethin, Llanddwywe

Pont Scethin, Llanddwywe (© APCE)

Roedd y brif ffordd o Harlech i Ddolgellau yn croesi ochr ddeheuol crib uchel y Rhinogydd gan ddilyn llwybr ysblennydd dros grib y Llawllech ac i lawr crib hir y Fraich i Bontddu, gan groesi’r Afon Ysgethin dros y bont odidog hon.

Arferion Porthmona

Porthmyn fu’n gyfrifol am yrru anifeiliaid i farchnadoedd mawr yn Lloegr a châi anifeiliaid eu pedoli o flaen llaw, gan deithio am rhwng chwech a deuddeg milltir y diwrnod. Gallai gymryd tua thair wythnos i haid deithio o ogledd Cymru i Swydd Caint. Byddai cannoedd o anifeiliaid ym mhob haid, a byddent yn ffufio llif o hyd at hanner milltir! Byddai hyd at ddeuddeg porthmon yn hebrwng haid o bedwar cant o wartheg, gyda chwn llathaid yn sicrhau fod yr anifeiliaid yn aros gyda’i gilydd.

Ceir straeon ar lafar wlad yn ardal Ardudwy bod y cwn llathaid yn medru ffeindio’u ffordd adref yn gynt na’u meistri! Fel rheol, byddai porthmyn yn ceisio osgoi’r prif lonydd – er mwyn gwneud y daith yn esmwythach i’r anifeiliaid, ac erbyn y G17, er mwyn osgoi’r tollbyrth.

Peryglon Porthmona

Doedd teithio, yn gyffredinol, ddim yn weithgaredd ddiogel ac o’r herwydd, byddai teithwyr unigol yn dueddol o deithio gyda’r porthmyn – hyd yn oed os oedd taith y porthmyn yn un araf a llafurus. Erbyn y G18, mae’n debyg bod rhamantiaeth anturus yn cael ei gysylltu gyda thaith y porthmon, gyda meibion tirfeddianwyr cefnog yn ymuno â’u taith er mwyn profi’r antur. Byddai eraill, gan gynnwys gwyr â oedd ar eu ffordd i gymryd prentisiaethau yn ninasoedd Lloegr, yn ymuno â’r porthmyn – ac erbyn y G19, byddai merched yn cyd-deithio â nhw hefyd. Un o’r rhain oedd Jane Evans, Sir Gaerfyrddin, ar ei ffordd i ymuno â nyrsus Florence Nightingale yn Rhyfel y Crimea.

Yn sicr, roedd gan borthmyn gyfrifoldeb mawr, wrth iddyn nhw gario symiau sylweddol o arian yn ôl i Gymru gyda nhw (ar ôl gwerthu’r anifeiliaid) a hefyd buont yn cludo dogfennau cyfreithiol ac arian yn ôl ac ymlaen i’r dinasoedd a’r trefi ar ran y ffermwyr, fel trethi a biliau. Hyd at y G18, pan sefydlwyd banciau ar gyfer y porthmyn, mi fu’n arferiad i brothmyn ‘brynu’ anifeiliid gan ffermwyr, heb dalu amdanyn nhw, gan dalu’r arian yn ôl ar ôl dychwelyd o’r marchnadoedd. Roedd gofyn i borthmyn fod yn onest iawn, felly ond nid dyna’r achos bob amser ac o’r herwydd mi fu ffermwyr yn ddrwgdybus iawn ohonynt.

Fel y medrwn ddychmygu, roedd cludo arian ar hyd a lled y wlad yn fenter beryglus, a arweiniodd at sefydlu banciau porthmyn yng ngorllewin Cymru. Byddai’r person a oedd am i’r porthmon dalu bil neu gludo arian, yn talu’r arian i’r banc a byddai’r porthmon yn talu’r bil ar achlysur gwerthu’r anifail.

Twyll a Brad

Doedd bywyd y porthmon ddim yn fêl i gyd. Yn ystod teyrnasiadau Edward VI ac Elisabeth I, pasiwyd cyfreithiau yn gorchymyn y dylai porthmyn gyflwyno cais ar gyfer trwydded i weithio fel porthmon ac yna byddai angen cofrestru’r drwydded gyda’r Clerc Heddwch. Roedd yna gyfyngiadau tynn iawn ar bwy gâi fod yn borthmon: dim ond gwr priod dros 30 mlwydd oed, a oedd yn berchen ar ei gartref ei hun câi drwydded. Byddai’n rhaid i borthmon ymgymryd â’r gwaith gyrru dan gytundeb, ac erbyn teyrnasiad y Frenhines Anne (1665-1714), ni châi borthmon ddatgan ei hun yn fethdalwr ac felly rhyddhau ei hun rhag ei gyfrifoldeb i gyflawni amodau ei gytundeb. Hefyd, byddai unrhyw borthmon a gafodd ei ddal heb drwydded yn derbyn dirwy o £5 a chyfnod yn y carchar am dorri cyfrieithiau crwydro ac ni chawsant weithio ar y Sul chwaith. Cafodd rai porthmyn enw drwg am fod yn dwyllodrus. Yn wir, doedd gan lawer o feirdd fawr o feddwl ohonyn nhw – megis Twm o’r Nant:

“Llwyr wfft i borthmyn am dwyllo’r byd,
“O! na byddent hwy gyd yn grogiedig.”

Ond, o gadw at y rheolau, roedd modd i borthmyn ddatblygu’n dirfeddianwyr cyfoethog: yn wir cawsant eu hystyried yn rhan o haenau canol cymdeithas Gymreig y Cyfnod Modern Cynnar.

Anturiaethau

Yn sicr, roedd porthmoniaeth yn alwedigaeth arbennig iawn, gyda galw i’r porthmyn Cymreig fod wedi derbyn addysg dda. Roedd medru’r Saesneg yn sgil hanfodol wrth geisio bargeinio gyda’r masnachwyr ym marchnadoedd Lloegr a chyfrannodd rai porthmyn i’r ddiwylliant Gymreig trwy ganu barddoniaeth, fel Edward Morris, Cerrigydrudion. Roedd gofyn i borthmyn fedru sicrhau bod gwartheg yn eithaf tawel eu tymer wrth groesi tros fynyddoedd, o gofio bod gwartheg yn greaduriaid sy’n dueddol o banicio ar ddim. Mae’n eironig iawn bod porthmyn, fel creffwtyr eraill, yn cyfeirio at eu galwedigaeth fel ‘an art and a mystery’. Nhw hefyd, oedd yn cludo newyddion o fferm i fferm ac o bentref i bentref, a buont yn cludo newyddion cenedlaethol a rhyngwladol hefyd: gan borthmyn y dysgodd y Cymry am fuddugoliaeth Prydain ym Mrwydr Waterloo yn 1815. Byddai’r porthmyn, hefyd, yn dod â ffrwyth anghyffredin i Gymru o gefn gwlad Lloegr, fel cyrans cochion o Swydd Caint.

Bu’r porthmyn yn ymwelwyr cyson â threfi Cymru, ac mae eu cofnodion ohonynt yn werthfawr. Disgrifiodd Edward Morris, porthmon o bentref Cerrigydrudion, dref Dolgellau fel: “Tre Gomora fyglyd… llawn baw a phuteiniaid." (‘Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar’, Geraint H.Jenkins, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd. 1983, t.69)

Amodau Caled

Gweithiodd y porthmyn dan amgylchiadau caled a pheryglus, gan deithio dwy’r tywydd gwaethaf a chysgu yn yr awyr agored gyda’r anifeiliaid yn aml iawn. Byddai’n rhaid i wisg y porthmyn fod yn addas ar gyfer pob math o dywydd ac er mwyn cadw eu trowsus yn sych, byddent yn gwisgo sannau pen-glin gwlân â gafodd eu gwau tros y Gaeaf a’u gwerthu ym marchnad Y Bala. Bu’r tirwedd bras yn beryglus a hyd y G18, cawsant eu bygwth gan fleiddiau hefyd. Roedd lladron yn berygl beunyddiol, o gofio’r symiau aruthrol o arian y byddai porthmyn yn eu cludo’n ôl o’r trefi wedi iddyn nhw werthu’r anifeiliaid. Yn ôl rhai, arweiniodd hynny at sefydlu nifer o fanciau bychan yng Nghymru, gan gynnwys ‘Banc y Ddafad Ddu’ a ‘Banc yr Eidion Du’.

Galwodd John Williams, Archesgob Caerefrog, y porthmyn Cymreig yn “llynges Sbaenaidd Cymru” sef ffynhonnell “yr ychydig aur ac arian a feddwn”. Yn sicr, daeth nifer o borthmyn yn bûr gefnog, fel Robert Ellis o Lanberis, a oedd yn berchen ar stad â gwerth o £281 ar ei farwolaeth yn 1757.

“Y Saim a Irai’r Economi Gymreig”

Geilw John Davies y porthmyn yn “saim a irai’r economi Gymreig Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar" (Geraint H.Jenkins, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd. 1983, t.69-70). Gyda dyfodiad y Chwyldro Diwydiannol yn ystod y G18, parhaodd borthmona yn rhan allweddol o’r economi Gymreig. Gyda thwf trefi diwydiannol yng Nghymru, cynyddodd y galw ar gyfer gwartheg Cymreig a thrwy weithgareddau'r porthmyn, daeth y gymdeithas wledig yn fwy cyfarwydd gyda masnachu gydag arian yn hytrach na chyfnewid cynnyrch. Yn sicr, bu’r arfer newydd hwn yn ddefnyddiol iawn gyda chynnydd cyfalafiaeth yng Nghymru - yn yr ardaloedd mwyaf gwledig hyd yn oed.

Effaith Diwydiant

Arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol at gynnydd yn y nifer o fasnachwyr gwartheg yng Nghymru. Er hynny, yn Llundain fu’r brif ffrwd fasnachu a bu modd i nifer o fasnachwyr Cymreig fanteisio’n llawn ar y llewyrch hwnnw.

Yng nghanol y G19, gyda dyfodiad y rheilffyrdd i ardaloedd gwledig Cymru, newidiodd drywydd nifer o’r lonydd porthmon, gan fod nifer o ffeiriau bychan yn symud i ardal y gorsafoedd rheilffordd, ond parhaodd borthmoniaeth yn rhan o fywyd gwledig Eryri hyd y 1930au.

Porthmyn Eryri

Tudur Penllyn ab Ieuan ab Iorwerth Foel
Fel bardd y caiff Tudur Penllyn ei gofio’n bennaf, a chafodd ei noddi gan dri uchelwr adnabyddus, sef: Gruffydd Fychan, Rheinallt ap Gruffydd a Dafydd Siencyn. Bu’n porthmona hefyd, gan gadw stoc o’i ddefaid ei hun er mwyn gwerthu eu gwlân, yn ogystal.

William Rowland
Arferai Williams Rowland gadw tafarn ym mhentref Maentwrog ac yn 1762, cynhaliwyd cyfarfod Gwyl Fihangel y Sesiwn Chwarter yn ei gartref, ac eto yng nghyfarfodydd y Pasg, 1764. Mae’n amlwg, felly fod William Rowland yn wr uchel iawn ei barch yn Sir Feirionnydd. Disgrifiwyd William Rowland fel ‘a top man drover’, sy’n awgrymu ei fod yn fasnachwr anifeiliaid, yn ogystal â phorthmon.

Rowland Edmund
Felinrhyd-fawr, Maentwrog oedd cartref Rowland Edmund. Bu farw yn 1819, a dengys ei ewyllys ei fod yn berchen ar stad gwerth £963 – swm go sylweddol yr adeg honno. Roedd Edmund yn berchen ar werth £80 o wartheg, £30 o fustych, £150 o ddefaid, £3 o foch a £30 o geffylau. Roedd ganddo ddau fab, ill dau yn borthmyn ac yn ffermwyr. Roedd Rowland Edmund ei hun an anllythrennog ac ychydig iawn o Saesneg fedrai siarad. Serch hynny, ymddengys bod ei feibion wedi’u haddysgu, gan fod un ohonynt yn berchen ar eiriadur Saesneg.

John Roberts, Llandanwg
Porthmon, a ddilynodd yn ôl troed ei dad yn ol pob tebyg. Bu’n briod â Mary Griffith a ganwyd iddynt wyth o blant ac fe’i gladdwyd yn Eglwys Llandanwg.

The Pugh Family, Llandanwg
Bu meibion ac wyrion y Parch.William Pugh, Eglwys Llanfair yn borthmyn, gan borthmona hyd yn oed wedi dyfodiad y rheilffordd.

Siôn Cwmorthin, C18
Porthmon defaid a yrrodd ei ddefaid cyn belled â Dyffryn Clwyd a daethpwyd i adnabod y dyffryn fel ‘Lloegr Siôn Cwmorthin’. Daeth yn berchen ar gloc taid – y cyntaf yn ardal Ffestiniog yn ôl y sôn. Dyma gyhoeddusrwydd gwych i Siôn – roedd y cloc yn destun cyfaredd a daeth bobl o bell i’w weld. Roedd Siôn ei hun yn melltithio’r cloc, gan ei fod yn canu ar bob awr o’r dydd a’r nos!