Dysgu Am

Castell Harlech

Addysg

Chwedloniaeth

Mae gan Eryri gyfoeth o chwedlau a chymeriadau anhygoel! Cliciwch ar y dolenni isod i ddarllen mwy am rai o'r chwedlau a'r cymeriadau mwyaf enowg yn Eryri:

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2009 yn Y Bala, dewisodd Eisteddfodwyr Cymru y canlynol i'w cynnwys yn rhestr 10 Cymeriad Mwyaf Anhygoel Eryri:

  1. Owain Glyndŵr
  2. Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn)
  3. Thomas Telford
  4. Gelert
  5. Syr Ifan ab Owen Edwards
  6. Gwyn Thomas
  7. Blodeuwedd
  8. Thomas Charles
  9. Caradog Prichard
  10. Mari Jones

Cymeriadau Anhygoel Eryri

Chwedl Gelert, Beddgelert

Welsoch chi erioed fedd y ci, Gelert ar lan afon Glaslyn ym Meddgelert? Yn ôl y stori, aeth Llywelyn Fawr i hela un diwrnod, a phan ddaeth yn ôl adref, gwelodd olygfa erchyll. Roedd gwaed ym mhob man a chrud ei faban yn wag. Yna, gwelodd Gelert, â’i geg a’i ddannedd wedi’u gorchuddio gyda gwaed. Credai Llywelyn fod Gelert wedi lladd y baban, ac yn ei wylltineb, lladdodd Llywelyn, Gelert, gan ei drywannu â’i gleddyf. Yn fuan wedyn, clywodd Llywelyn fabi’n crïo, a daeth o hyd i’r baban yn ddiogel, gyda blaidd wedi marw wrth law. Roedd Gelert wedi amddiffyn y baban a lladd y blaidd. Torrodd Llywelyn Fawr ei galon gan ei fod wedi lladd Gelert, ei gi ffyddlon.

Cantref Gwaelod

Cantref Gwaelod oedd y darn anferthol o dir yng ngorllewin Cymru a foddwyd, a sydd bellach yn gorwedd dan donnau Bae Ceredigion. Brenin y cantref yn y cyfnod hwn oedd Gwyddno Garanhir. Roedd y cantref yn dir ffrwythlon iawn a’r trigolion yn mwynhau gwledda ar gynnyrch y tir yn fawr iawn. Un anfantais a oedd yn perthyn i Gantref Gwaelod oedd bod y tir mor isel nes bod angen codi morglawdd rhwng Cantref Gwaelod a’r môr, fel na châi ei orlifo. Roedd nifer o ddorau yn y morglawdd ger aberoedd yr afonydd ac roedd gwaith agor a chau’r dorau yn hynod bwysig, gan fod dyfodol y cantref yn ddibynol arno.

Ceidwad y dorau yng nghyfnod Gwyddno oedd y meddwyn, Seithennyn ab Seithyn Seidi – gŵr nad oedd yn addas ar gyfer y swydd o gwbl: cafodd ei adnabod fel un o dri o “Garnfeddwon Ynys Prydain”.

Un noson, cafwyd gwledd ardderchog yng Nghantref Gwaelod a bu Seithennyn yn mwynhau ei hun cystal â phawb arall yn hwyl a rhialtwch y wledd. Bu’n yfed y gwinoedd a’r medd, ac yn ei feddwdod, anghofiodd ei ddyletswydd i gau’r dorau cyn y nos.

Llifodd ddŵr y môr drwy’r dorau – dinistriwyd y llysdyfiant, cartrefi’r trigolion a boddwyd eu hanifeiliaid. Bu rhai o drigolion Cantref Gwaelod yn ddigon ffodus i fedru ffoi, i Feirionnydd, Llŷn a Cheredigion, ond boddwyd mwyafrif llethol y trigolion.

Goroesodd Gwyddno y drychineb, ond drannoeth, cafodd ei ddigalonni’n fawr gan yr olygfa dros ei dywysogaeth:

“Ochenaid Gwyddno Garanhir
Pan droes y don dros ei dir”.

Maen nhw’n dweud os gwrandewch chi’n astud iawn ar y traeth yn Aberdyfi, eich bod yn medru clywed clychau Cantre’r Gwaelod yn canu dan y dŵr. Ydych chi wedi’u clywed erioed?

Gwylliaid Cochion Mawddwy

Yn y G16, roedd criw o ladron pen ffordd a herwyr yn crwydro ardal Dinas Mawddwy, a chawsant eu hadnabod fel ‘Gwylliaid Cochion Mawddwy’ neu ‘Gwylliaid y Dugoed’. Maen nhw’n dweud mai dihirod cymdeithas oedd y Gwylliaid, a ddaeth i ardal Dinas Mawddwy ar ôl cael eu hysgymuno o’u hardal eu hunain. Credai Thomas Pennant mai gwehilion Rhyfel Cartref Lloegr rhwng teuluoedd Efrog a Chaerhirfryn oedd y Gwylliaid, a orfodwyd, yn sgîl yr heddwch rhwng y ddau deulu, i fudo i ardal arall ar gyfer parhau â’u ffordd o fyw anwaraidd.

Roedd trigiolion lleol yn ofni’r Gwylliaid yn fawr iawn a phryd bynnag y byddent yn teithio oddi cartref, byddent yn cario arfau gyda nhw. Byddai rhai yn cuddio pladur neu gyllell finiog yn simdde eu cartrefi, rhag ofn y byddai un o’r Gwylliaid yn ceisio dod i fewn i’r tŷ drwy’r simdde.

Roedd gan y Gwylliaid eu trefn a’u defodau eu hunain, gydag un person yn eu harwain. Cynyddodd ymosodiadau’r Gwylliaid i’r fath raddau, y penderfynodd yr awdurdodau bod rhaid gweithredu. Apwyntiwyd Syr John Wynn ab Meredydd o Wydir a’r Barwn Lewis Owain i gasglu dau fyddin o wŷr arfog i geisio trechu’r Gwylliaid. Un noson Nadolig, llwyddasant i ddal tua chant o’r Gwylliaid Cochion. Crogwyd rhai ohonynt a chafodd eraill eu gyrru o’r ardal am byth. Erfynodd dau frawd a ddedfrydwyd i farwolaeth, am bardwn gan y Barwn Owain, ond fe’u gwrthodwyd, gan gynddeiriogi’r Gwylliaid. Roedden nhw’n benderfynol o gael dial arno, felly un noson, wrth i’r Barwn Owain ddychwelyd o’r brawdlys yn Sir Drefaldwyn, gosododd y Gwylliaid drapiau ar y ffordd a phledwyd saethau ato ef a’i gwmni. Daethpwyd o hyd i’w gorff gyda thri deg o saethau yn glynu ynddo.

Llofruddio’r Barwn Owain achosodd gwymp y Gwylliaid Cochion ac yn sgîl y llofruddio, gweinyddiwyd holl nerth y gyfraith yn erbyn y Gwylliaid. Ceir traddodiad sy’n honni bod pob dyn rhwng wyth a phedwar ugain oed wedi’i grogi a bod Gwylliaid eraill wedi’u halltudio i ardaloedd a gwledydd eraill. Ni chafwyd erioed sir lle’r oedd cyfraith a threfn mor gryf a’r bobl mor rinweddol ag yn Sir Feirionnydd wedi hynny.

Hanes Taliesin

Arferai bonheddwr o’r enw Tegid Foel fyw ym Mhenllyn, gyda’i wraig, Ceridwen. Gwrach oedd Ceridwen ac roedd hi a Tegid yn byw mewn plasdy yng nghanol y tir ble mae Llyn Tegid heddiw. Roedd gan y ddau fab o’r enw Morfran ab Tegid a merch o’r enw Creirfyw. Roedd ganddynt fab arall hefyd, sef Afagddu, ac Afagddu druan oedd y dyn hyllaf yn y byd i gyd. Roedd Ceridwen yn poeni na châi Afagddu druan fyth ei dderbyn ymhlith boneddigion a phenderfynodd ferwi swyn mewn pair er mwyn ei dlysu.

Roedd rhaid i’r swyn ferwi am flwyddyn a diwrnod, hyd y ceir o’r pair, dri diferyn rhagorol o’r swyn. Rhoddwyd y gofal o ferwi’r swyn i Gwïon Bach, a Morda gafodd y gwaith o gadw’r tân i fynd am yr holl amser.

Tua blwyddyn ar ôl dechrau berwi’r swyn, cafodd Gwïon ddamwain a chollwyd tri diferyn o ansawdd da o’r swyn ar ei fys. Roedd y swyn wedi’i ddifetha ac i wneud y sefyllfa’n waeth fyth, roedd y swyn mor boeth, rhoddodd Gwïon ei fys yn ei geg ac yn syth bin, daeth i wybod popeth, gan gynnwys y gallai Ceridwen fod yn berygl iddo. Cafodd Gwïon y fath fraw, ffodd yn ôl i’w gartref ym Mhowys.

Pan welodd Ceridwen fod y swyn wedi’i ddifetha, roedd hi’n lloerig a tharodd Morda â phastwn, nes fod ei lygad wedi disgyn o’i le.

“Pam dy fod wedi ymosod arnaf i?”, gofynnodd Morda, “nid arnaf i mae’r bai am dy golled.”

“Ti’n iawn”, meddai Ceridwen, “Gwïon Bach wnaeth y difrod”.

Felly, aeth Ceridwen ar helfa ar ôl Gwïon a phan welodd Gwïon hi, trodd ei hun yn ysgyfarnog er mwyn medru dianc oddi wrth Ceridwen, ond roedd y wrach yn glyfar, a throdd ei hun yn filiast er mwyn rhedeg yn gynt nag o. Yna trodd Gwïon ei hun yn bysgodyn, a neidiodd i’r afon, ond trodd Ceridwen yn ddyfrast a nofiodd ar ei ôl. Roedd Ceridwen bron â’i ddal, pan drodd Gwïon yn aderyn a hedfan i’r awyr, ond roedd Ceridwen wedi troi’n hebog a dod yn agosach. Pan welodd Gwïon ronynnau ŷd, trodd ei hun yn ronyn a neidiodd i’w canol, ond gwelodd Ceridwen ei chyfle, a throdd yn iâr, gan fwyta’r holl ronynnau, a Gwïon yn un ohonynt. Yn fuan, sylweddolodd Ceridwen ei bod yn feichiog ac mai Gwïon oedd y babi’r tu mewn iddi. Fe’i chynddeiriogwyd hi, ac roedd hi â’i bryd ar ladd y baban, nes iddi ei eni a gweld mor dlws yr oedd o. Yn hytrach na’i ladd, lapiodd Ceridwen y babi mewn croen anifail a’i roi ar y môr, mewn cwrwgl. Elffin ddaeth o hyd iddo fo ger Cors Fochno yng Ngheredigion, gan enwi’r baban yn Taliesin, oherwydd ei dalcen uchel. Mae’n debyg mai ar ôl y Taliesin hwn yr enwyd pentref Tre Taliesin, ger Aberystwyth.

Breuddwyd Macsen Wledig

Macsen Wledig oedd Ymerawdwr Rhufain a chafodd ei adnabod fel y mwyaf ardderchog o holl ymerawdwyr Rhufain trwy’r oesoedd.

Tra’n gorffwys yn ystod diwrnod o hela, disgynodd Macsen Wledig i gysgu a breuddwydiodd ei fod yn teithio tros fynydd ucha’r byd, i ardal gwastad rhwng y môr a’r mynydd. Yno, roedd caer ysblennydd ac yn y gaer, roedd y ferch harddaf a welodd neb erioed. Disgynodd Macsen Wledig mewn cariad â’r ferch a welodd yn ei freuddwyd a chysgodd Macsen ar hyd yr wythnos, er mwyn iddo gael breuddwydio am y ferch, ond doedd ganddo ddim syniad yn y byd yn lle’r oedd hi’n byw. Felly, gyrrodd dri deg o negeswyr ar daith o dair mlynedd o amgylch yr ymerodraeth i chwilio amdani.

Daeth y negeswyr o hyd i’r ferch yng Nghymru, yng nghaer Segontiwm, Caernarfon, ond gwrthododd hi deithio gyda’r negeswyr yn ôl i Rufain. Yn hytrach, mynodd hi fod Macsen Wledig yn teithio o Rufain i’w chyfarfod. Dyna a fu.

Deallodd Macsen Wledig mai Elen Lhuyddog oedd enw’r ferch. Treuliodd Macsen saith mlynedd ym Mhrydain ac oherwydd hynny, collodd ei le fel Ymerawdwr Rhufain a chafwyd ymerawdwr newydd yn ei le.

Felly, teithiodd Macsen yn ôl i Rufain, a goresgynodd yr holl dir rhwng Prydain a Rhufain, ond ni allai oresgyn Rhufain nes i frodyr Elen, Cynan a Gadeon a’u llu hwy, ddod i’w gefnogi. Roedd llu Cynan a Gadeon yn gryfach ac yn fwy cyfrwys na lluoedd Macsen a llwyddasant i oresgyn Rhufain a daeth Macsen Wledig yn ymerawdwr unwaith eto.

A’r chwedl hon a elwir ‘Breuddwyd Macsen Wledig, Ymerawdwr Rhufain’. Ac yma y mae terfyn arni.

Marged ferch Ifan

Roedd Marged ferch Ifan yn byw yn Llanberis yn y G18 ac mae’n debyg ei bod yn wraig rinweddol iawn: gallai ganu’r delyn a chyfansoddi alawon, roedd yn saer, crudd a theiliwr campus, ac maen nhw’n dweud ei bod yn gryfach na dau ddyn cryfaf yr ardal hefo’i gilydd. Gofynnwyd am ei llaw mewn priodas sawl gwaith, ond yn y diwedd, penderfynodd Marged briodi â’r dyn mwyaf llwfr, gan wybod mai hi fyddai’r feistres wedyn.

Bu Marged a’i gŵr yn cadw Tafarn y Telyrniau yn Nrws y Coed am rhai blynyddoedd a bu Marged yn feistres yn fanno hefyd, yn cadw rheolaeth ar y mwynwyr copr a ddaeth yno i feddwi. Roedd gan Marged gytundeb â’r pyllau copr a hi fyddai’n rhwyfo’r mwynau ar draws llynnoedd Padarn a Pheris ac am y rheswm hwnnw, cafodd ei hadnabod fel ‘Brenhines y Llynnoedd’.

Cyfansoddwyd cyfres o gerddi am Marged ferch Ifan, sy’n crynhoi ei chymeriad lliwgar i’r dim:

Mae gan Marged fwyn ach Ifan
Badell fawr a phadell fechan,
Un i olchi crys a chynfas
A’r llall i ferwi uwd o bwrpas.

Mae gan Marged fwyn ach Ifan
Glocsen fawr a chlocsen fechan,
Un i gicio’r cŵn o’r gornel,
A’r llall i gicio’r gŵr i gythrel.

Mae gan Marged fwyn ach Ifan
Grafanc fawr a chrafanc fechan,
Un i dynnu’r cŵn o’r gongol,
A’r llall i dorri esgyrn pobl.

Mae gan Marged fwyn ach Ifan
Fegin fawr a megin fechan,
Un i chwythu’r tân i gynnau,
A’r llall i chwythu’r mwg i’r simnai.

Mae gan Marged fwyn ach Ifan
Delyn fawr a thelyn fechan;
Un i ganu yng Nghaernarfon,
A’r llall i gadw’r gŵr yn fodlon.

Ac mae ganddi, heb law corlan,
Geffyl mawr a cheffyl bychan;
Un i gadw’r gŵr o’r dafarn
A’r llall i gario’r god a’r arian.

Yn y Bala mae hi’n bydio,
A’i dwy fron fel eira’n lluchio.
Dygwch fy ngorchymyn ati,
Marged fwyn ach Ifan ydi.

Bu farw Marged tua’r flwyddyn 1789, yn 102 mlwydd oed, ychydig o amser wedi marwolaeth ei hoff forwyn a fu’n ei gwasanaethu am dros ddeugain mlynedd.

Llam y Trwsgl

Arferai gawr fyw yng Nghwm Trwsgl a byddai’n canlyn â merch Hafod Wydyr. Doedd teulu’r merch ddim yn hapus iawn â’r garwriaeth ac un noson, penderfynodd ddynion y Nant ddod at ei gilydd i geisio dal y cawr. Rhedodd y cawr o’u blaenau a llamodd o ben un graig i ben craig arall, ac mae ôl ei droed ar y graig hyd heddiw. Bechod y bu i’r cawr lithro a disgyn ar ei hyd, gyda’i gorff fel pont ar draws y nant. Byth ers hynny, galwyd y lle yn ‘Llam y Trwsgl’ a’r cwm ar ochr draw y nant yn ‘Gwm Trwsgl’.