Dysgu Am

Yr Esgob William Morgan

Addysg

Yr Esgob William Morgan

Beibl Cymraeg

Ganed William Morgan yn Nhŷ Mawr Wybrnant, plwyf Penmachno yn 1544/5, yn fab i John Morgan a Lowri Williams. Roedd John Morgan yn is-denant i deulu Wyniaid Gwydir a oedd yn berchen ar Dŷ Mawr Wybrnant ac ymddengys ei fod yn iwmon gweddol gefnog. Bellach, mae Tŷ Mawr Wybrnant yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Addysgwyd William Morgan gan gaplan teulu Wyniaid Gwydir a ddysgodd feibion y teulu a rhai disgyblion eraill o’r gymuned leol. Mae’n bosib ei fod wedi mynychu Ysgol Westminster, Llundain am gyfnod cyn mynd yn ei flaen i Goleg St Ioan, Caergrawnt. Graddiodd oddi yno yn BA yn 1568, yn MA yn 1571, yn BTh yn 1578 ac yn DTh yn 1583. Roedd Morgan yn ddiwinydd cryf a chadarnhawyd hynny yn 1575, pan apwyntiwyd ef yn bregethwr y brifysgol.

Dechreuodd gyrfa eglwysig William Morgan tra roedd o’n dal yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt. Yn 1572, apwyntiwyd ef yn rheithor Llanbadarn Fawr a dilynwyd hynny gyda chyfnodau yn y Trallwng, Dinbych, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanfyllin a Phennant Melangell. Roedd ei gyfnod yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn un cythryblus tu hwnt. Yn gyntaf, priododd Morgan â Katherine ferch George, sef gweddw Oliver Thomas, rhagflaenydd Morgan yn Llanrhaeadr a hefyd, trefnodd briodas rhwng Robert Wynn o Wydir ac aeres gyfoethog o ardal Llanrhaeadr, ar draul bachgen lleol. Cynddeiriogwyd un o’r bonedd lleol, Efan Meredith, gan y ddau beth yma a chafwyd achosion cyfreithiol yn erbyn William Morgan ac Efan Meredith ill dau. Yn y diwedd, datryswyd y sefyllfa gan ymyrraeth Syr John Wynn o Wydir.

Er gwaetha’r annifyrrwch yma, parhaodd William Morgan â gwaith cyfieithu’r Beibl a chanmolir ef yn fawr am ei wasanaeth cydwybodol a’i haelioni. Canwyd mawl iddo gan y beirdd, Siôn Tudur, Owain Gwynedd, Ieuan Tew a Siôn Mawddwy.

Yn 1595, apwyntiwyd William Morgan yn esgob Llandaf ac yn dilyn marwolaeth yr Esgob Hughes yn 1601, fe’i apwyntiwyd yn esgob Llanelwy.

Yn 1547, pasiwyd y Ddeddf Unffurfiaeth gan amddiffynwyr Edward VI (gan mai naw oed yn unig oedd Edward pan ddaeth yn frenin yn 1547), a fynnai bod pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr i’w cynnal yn yr iaith Saesneg, nid Lladin nag unrhyw iaith arall. Roedd gan deulu’r Tuduriaid wreiddiau Cymreig ond, fel llinach frenhinol, credasant mewn canoli grym o ran gweinyddiaeth, crefydd ac iaith. Nod y ddeddf oedd gwreiddio Protestaniaeth, ond fe’i gwrthwynebwyd yng Nghernyw gan siaradwyr yr iaith Gernyweg a lladdwyd miloedd ohonynt. Ni chafwyd yr un gwrthwynebiad yng Nghymru ac edrychai’n debyg bod yr iaith Gymraeg am ddirywio.

Serch hynny, yn 1563, pasiwyd Deddf Cyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin gan Elisabeth I, a oedd yn gwrthddweud deddf 1547 yn llwyr. Roedd Elisabeth I am weld copïau Cymraeg o’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin ym mhob eglwys yng Nghymru erbyn 1567.

Pam felly fod Elisabeth I wedi pasio’r ddeddf hon? Doedd Protestaniaeth heb fwrw gwreiddiau dyfnion yng Nghymru, oherwydd y canfyddiad ymysg llawer o Gymry bod Protestaniaeth yn hereticiaeth newydd ac yn ffydd Seisnig, estron. Doedd y Cymry ddim yn deall gwasanaethau Lladin (iaith Pabyddiaeth) na Saesneg, ond roedden nhw wedi arfer â’r iaith. Roedd yna gysur hefyd yn arferion ac ofergoeliaeth Pabyddol, gan fod bywyd mor ansicr. Roedd sicrhau diogelwch Lloegr hefyd ar flaen meddwl Elisabeth I, gan y gallai gelynion Lloegr ymosod ar y wlad trwy Gymru, yn yr un modd ag y gwnaeth Harri Tudur ar ei ffordd i Frwydr Bosworth yn 1485. Byddai darparu Beibl Cymraeg hefyd yn golygu bod y Cymry’n fwy parod i gefnogi coron Lloegr, a oedd yn bwysig iawn yn y 1580au, gan fod bygythiad cynyddol i Loegr gan Gatholigion Ewrop, e.e. Armada Sbaen yn 1588. Hefyd, byddai’r cyfieithiad Cymraeg o’r Beibl ar gael ochr yn ochr â’r fersiwn Saesneg, a’r gobaith oedd y byddai’r Cymry yn dysgu Saesneg ac anghofio’u Cymraeg ymhen amser.

Roedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn gam hynod bwysig, gan mai’r Gymraeg oedd yr iaith Ewropeaidd gyntaf, nad oedd yn iaith y wladwriaeth, i fod yn gyfrwng yr ysgrythur wedi’r Diwygiad Protestannaidd.

Ymddengys bod William Morgan wedi dechrau ar y gwaith o gyfieithu’r Beibl rhyw dro yn 1569, yn ystod ei gyfnod yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Derbyniodd gymorth gan esgob Bangor, Hugh Bellott a gan ei gyfeillion, Edmwnd Prys, Richard Vaughan a David Powel a bu gweithiau crefyddol eraill, mewn amrywiaeth o ieithoedd (Lladin, Groeg, Hebraeg a Ffrangeg) hefyd yn gymorth i Morgan. Roedd y Llyfr Gweddi Gyffredin a’r Testament Newydd eisoes wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg, yn 1567, gan William Salesbury ond aeth Morgan ati i’w moderneiddio a’u symleiddio o ran iaith ac arddull, gan ddiolch i Salesbury am ei waith gwreiddiol.

Ar ddiwedd 1587, cynhyrchodd Morgan gyfieithiad o’r Hen Destament (ond nid y Salmau) ac adolygiad o gyfieithiad Salesbury o’r Salmau a’r Testament Newydd. Mae addysg a gwybodaeth feiblaidd William Morgan yn amlwg yn y gwaith hwn yn ogystal â’i ymwybyddiaeth a’i werthfawrogiad o’r traddodiad llenyddol Cymreig a Chymraeg. Er bod iaith y Beibl Cymraeg yn wahanol iawn i Gymraeg llafar, roedd gan y Beibl eirfa eang ac arddull arbennig a oedd yn ased pwysig i’r Gymraeg, o gymharu â’r ieithoedd Gaeleg, Cernyweg a Gwyddeleg, nad oedd yn gyfryngau’r ysgrythur. Gallai’r Cymry addoli trwy gyfrwng eu hiaith eu hunain, ac roedd hynny’n ffactor pwysig ym mharhad yr iaith Gymraeg.

Yn draddodiadol, y beirdd fyddai’n gwarchod y Gymraeg, ond gan fod yr arfer hwnnw’n prysur ddirywio, camodd Beibl William Morgan i’r bwlch. Roedd y Beibl yn enghraifft o lenyddiaeth raenus a godidog a ymgorfforai athrylith ac elfennau pwysicaf y traddodiad barddol yng Nghymru. Sefydlodd y Beibl yr iaith Gymraeg fel iaith dysg ac ehangodd sgôp ysgrifenedig yr iaith yn fawr. Nid yw’n syndod felly fod beirdd a dyneiddwyr Cymraeg wedi croesawu’r cyfieithiad. Cymerodd flwyddyn i argraffu Beibl William Morgan a threuliodd y cyfnod hwnnw yn Llundain, yn cywiro’r drafftiau.

Canodd y beirdd fawl i William Morgan a’i Feibl, e.e. Siôn Tudur:

“Iaith rwydd gan athro iddyn’
A phawb a’i ddallt, a phob dyn”

a bu Gwenallt hefyd yn ei glodfori:

“Canmolwn er am ei ddygnwch a’i ddewrder a’i sancteiddrwydd,
A’i gymorth i gadw’r genedl a’r iaith lenyddol yn fyw,
Gan roddi arni yr urddas a’r anrhydedd uchaf
Wrth ei throi yn un o dafodieithoedd Datguddiad Duw.”

Ym mis Medi, 1588, gorchmynodd y Cyfrin Gyngor i gopi o’r Beibl Cymraeg gael ei yrru i bob plwyf yng Nghymru ar gost o £1 y copi.

Yn sgil penodi William Morgan yn esgob Llandaf yn 1595, dechreuodd o a’r dyneiddiwr, John Davies, adolygu Llyfr Gweddi Gyffredin William Salesbury a Thestament Newydd 1588. Cyhoeddwyd y Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1599 ac mae’n debyg bod hwn yn gam pwysig yn y broses o gyhoeddi’r fersiwn diffiniol. Roedd y Testament Newydd a adolygwyd gan Morgan a Davies yn barod i’w gyhoeddi yn Llundain yn 1603, gan y Cymro Llundeinig, Thomas Salisbury. Gresyn y collwyd y gwaith yn ystod pla 1603. Yn y diwedd, Llyfr Gweddi Gyffredin 1599 fu etifeddiaeth ddiwethaf William Morgan. Bu farw yn 1604.

Yn 1620, golygwyd Beibl William Morgan gan Dr John Davies, Mallwyd a Richard Parry, esgob Llanelwy. Hyd 1988, y fersiwn honno ddefnyddiwyd yn eglwysi Cymru.