Ysgoloriaeth Geraint George
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth hon gan Gyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri er cof am Geraint George, a oedd yn amgylcheddwr, addysgwr a chyfathrebwr brwd. Roedd wrth ei fodd yn gweithio gyda phobl ifanc a’u hannog i drafod a ffurfio barn am bynciau amgylcheddol yng Nghymru a thu hwnt.
Nod yr ysgoloriaeth flynyddol, sy’n agored i unigolion 18-25 oed, yw meithrin cyfathrebwyr gwych a all helpu pobl yng Nghymru i werthfawrogi’r byd naturiol a deall y ffactorau sy’n effeithio arno.
Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu, mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru. Bydd yr enillydd yn cael dewis un ai ymweld â Pharc Cenedlaethol Triglav yn Slofenia (sydd wedi ei gefeillio â Pharc Cenedlaethol Eryri), neu fynychu cynhadledd Ewroparc a gynhelir mewn gwahanol ran o Ewrop bob blwyddyn.

Geraint George (© APCE)

Parc Cenedlaethol Triglav (© APCE)
Gwahoddir cystadleuwyr i anfon gwaith cyfathrebu mewn unrhyw gyfrwng ac ar unrhyw bwnc amgylcheddol sy’n berthnasol i Gymru.
Gallwch gyflwyno’ch gwaith drwy unrhyw gyfrwng – dyma ambell syniad i chi!
- Ffilm fer [hyd at 3 munud o hyd]
- Blog [wythnos fan lleiaf]
- Eitem sain wedi recordio [hyd at 3 munud o hyd]
- Hyd at 3 Erthygl(au)
- Cartwnau neu Bosteri [hyd at 3]
- Cyflwyniad PwyntPwer ar bwnc arbennig
- Taflen(ni) Gwybodaeth [hyd at 3]
- Ysgrif(au) neu ddetholiad o draethawd ar bwnc arbennig
- Stori/Straeon [hyd at 3]
Gellir canfod mwy o wybodaeth am enillwyr blaenorol a sut i gyflwyno'ch gwaith ar wefan yr Urdd.
