Dysgu Am

Addysg

Addysg

Yr Iaith Gymraeg

Y Gymraeg yw un o'r ieithoedd byw hynaf yn Ewrop. Mae'r Llydaweg a'r Gernyweg yn perthyn yn agos iddi, ac mae'r Wyddeleg a Gaeleg yr Alban yn tarddu o'r un iaith yn wreiddiol.

Mae'r iaith Gymraeg a llewyrch crefydd wedi mynd law yn llaw dros y canrifoedd. Mae Tŷ Mawr Wybrnant yng Nghoedwig Gwydr, Betws y Coed, yn symbol enwog o'r iaith Gymraeg gan mai dyma oedd cartref yr Esgob William Morgan, a gyfieithodd y Beibl i Gymraeg ym 1588. Fe wnaeth y gwaith hwn gyfraniad allweddol i lenyddiaeth a safonau llythrennedd yng Nghymru yn ogystal ag i ddatblygiad enwadau anghydffurfiol penodol y canrifoedd dilynol. Erys y Cymraeg ysgrifenedig cynharaf, sy'n dyddio'n ôl i 700 OC, fel arysgrifiad ar garreg goffa yn eglwys Tywyn nid nepell o ffin y Parc Cenedlaethol.

Mae hen draddodiadau Cymreig o ganu gwerin a barddoniaeth wedi parhau'n gryf yn Eryri ers y dyddiau pan oedd beirdd yn rhoi adloniant yn llysoedd y Tywysogion. Mae digwyddiadau y dyddiau hyn yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau a drefnir yn lleol er enghraifft Sesiwn Fawr Dolgellau lle mae grwpiau Cymraeg a Cheltaidd yn perfformio.

Gwyliwch y fidio isod i weld uchafbwyntiau stondin Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala, 2009:

« Chwarae Fidio

Ffeithiau am y Gymraeg

  • Mae 562,016 o bobl yn siarad Cymraeg yng Nghymru.
  • Mae 65.4% o boblogaeth Gwynedd yn siarad Cymraeg.
  • Mae 89% o bobl ifanc rhwng 3 ac 15 yng Ngwynedd yn gallu siarad Cymraeg.
  • Mae 58.6% o boblogaeth Parc Cenedlaethol Eryri yn siarad Cymraeg.

Cliciwch yma i weld canran siaradwyr Cymraeg ym mhob ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.