Yr Ysgwrn

Yr Ysgwrn, Y Gadair Ddu

alt=

Yr Ysgwrn

CLICIWCH YMA AR GYFER GWEFAN NEWYDD YR YSGWRN

Hedd Wyn - ffermwr, milwr, bardd.

Nid oes rhyfedd mai milwr anfodlon oedd Hedd Wyn wrth i chi sefyll ar aelwyd Yr Ysgwrn ar ddyddiau hir o haf. Ei gartref oedd ei fwyniant, ei gynefin oedd ei nefoedd, a'i bensil oedd ei unig arf.

Yn fardd hunan ddysg i bob cyfri, meistrolodd allu ar linellau anoddaf o farddoniaeth Cymraeg, sef y gynghanedd, erbyn iddo droi'n ddeuddeg oed. Does prin syndod felly iddo guro prif wobr llenyddiaeth Cymraeg, cadair yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ond, yn ddiarwybod i'r miloedd oedd yn bresennol yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, 1917 chwe' wythnos cyn i'r Archdderwydd gyhoeddi mai 'Fleur-di-Lis' oedd yn fuddugol am y gadair ar lwyfan ar gyrion dinas Lerpwl. Saethwyd Hedd Wyn yn ei stumog a bu farw islaw'r tân gwyllt o fwledi a mortar mewn cae ymhell i ffwrdd o gaeau Trawsfynydd. Ni chafodd erioed y neges ei fod yn Brifardd.

Yr Ysgwrn

Ffermdy Yr Ysgwrn (© APCE)

Y Gegin

Cegin Yr Ysgwrn (© Geraint Thomas)

Nid ffermdy Cymreig cyffredin yw'r Ysgwrn. Un o brif resymau prynwyd y lle gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Mawrth 2012 yw'r hanes a symboliaeth mae'r lle yn gynrychioli.

Mae'r cartref yn adlewyrchiad cyfnod o hanes cymdeithasol, diwylliant ac amaethyddiaeth ar droad yr G20. Mae bywyd a marwolaeth Hedd Wyn yn cynrychioli cenhedlaeth gyfan o ddynion ifanc o Gymru, Prydain ac Ewrop aberthodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Prin iawn yw'r nifer o newidiadau a wnaed gan y teulu yn y ty, sydd yn rhoi'r argraff eich bod yn camu yn ôl mewn amser. Er hyn mae'r lle wedi cadw'r teimlad o fod yn gartref yn hytrach nag amgueddfa.

*Mae'r Ysgwrn yn ffermdy rhestredig gradd II*. Ar Ddydd Gwyl Dewi 2012 cyhoeddodd APCE a'i bartneriaid eu bod wedi sicrhau Yr Ysgwrn ar gyfer y genedl. Gwnaed y pryniant gyda chyfraniadau ariannol gan Gronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol a Llywodraeth Cymru.