Ymweld ag Eryri

Cader Idris o Foel Caerynwch

alt=

Lle Gewch Chi Fynd?

Mae rhan fwyaf o dir Parc Cenedlaethol Eryri yn cael ei ffermio'n breifat. Trwy ddangos parch ac ystyriaeth tuag at gefn gwlad a bywyd gwyllt a thuag at y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn Eryri, fe allwch chi helpu sicrhau y bydd Parc Cenedlaethol Eryri yma i'w fwynhau gan y cenedlaethau sydd i ddod.

Mae mynediad i dir preifat trwy Hawliau Tramwy Cyhoeddus:

 Llwybrau Cyhoeddus
 Llwybrau Ceffylau
 Llwybrau wedi'u Caniatau

Mae gennych yn ogystal hawl cyfreithiol i fynd ar droed i dir sydd wedi'i fapio fel Tir Agored a Thir Comin Cofrestredig.

Nodir yr ardaloedd hyn ar fapiau Arolwg Ordnans Explorer OL. Mae rhifau 17, 18 a 23 yn ymwneud â'r Parc ar raddfa o 1:25,000.

 Gwelir y logo brown a gwyn ar gamfeydd a giatiau sy'n arwain i Dir Agored.
 Dengys y logo eich bod yn gadael Tir Agored. Mynediad trwy hawliau tramwy yn unig a geir.
Llwybr Foel Caerynwch, Dolgellau

Llwybr Foel Caerynwch, Dolgellau (© APCE)

Yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGaHT 2000)

Yn unol â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGaHT 2000) mae’n ofynnol i’r mapiau sy’n dangos tir agored – mynydd-dir, gweundir, rhostir a thwyndir a thir comin cofrestredig gael eu hadolygu gan Gyfoeth Naturiol Cymru bob deng mlynedd. Dechreuwyd ar y broses yma ym mis Gorffennaf 2012. Mae ail gyfnod yr adolygiad bellach wedi cychwyn gyda chyhoeddiad Map dros dro ar gyfer Cymru gyfan.

Mae copïau cyflawn o’r Mapiau Dros Dro sy’n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri ar gael i’r cyhoedd eu gweld yn ein swyddfeydd ym Mhenrhyndeudraeth. Os byddwch angen rhagor o wybodaeth gallwch gysylltu â Swyddog Mynediad APCE, Peter Rutherford ar 01766 772 258 - peter.rutherford@eryri.llyw.cymru neu gallwch ddilyn y ddolen i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

O dro i dro, efallai y bydd ardaloedd o Dir Agored ar gau i'r cyhoedd neu efallai y bydd rhai amodau penodol. Gall hyn fod er mwyn atal perygl i'r cyhoedd, er lles bywyd gwyllt neu er mwyn gadael i ffermwyr wneud gwaith hanfodol. Gellir cael gwybodaeth am unrhyw dir sydd wedi'i gau neu ei gyfyngu ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru sef www.ccw.gov.uk.

Y tu allan i Dir Agored, a fyddech cystal â chadw at hawliau tramwy. Fe fydd hyn yn golygu llai o darfu ar ffermwyr a'u da byw, anifeiliaid gwyllt, adar a phlanhigion.

Cyngor ar gŵn

Ein cyngor cyffredinol i holl berchnogion cŵn yw i sicrhau bod eich ci ar dennyn trwy’r amser pan fyddwch yn agos i dda byw.

Mae cefn gwlad yn lle gwych i ymarfer eich ci ond dylid gwneud hynny mewn modd cyfrifol ac mewn man lle nad yw’ch ci yn gallu poeni neu fod yn beryglus i dda byw, bywyd gwyllt na phobl eraill (neu gŵn eraill). Mae’n drosedd caniatáu i’ch ci ymosod ar neu erlid da byw dan y Ddeddf Cŵn (Gwarchod Da Byw) 1953, a chaiff ffermwr saethu yn gyfreithlon unrhyw gi sy’n ymddwyn yn y modd yma heb roi rhybudd nac unrhyw ffurf o iawndal i’r perchennog.

Mae dau brif fath o ddarpariaeth mynediad ar gael i’r cyhoedd o fewn y Parc Cenedlaethol, sydd â rheolau ychydig yn wahanol mewn perthynas â chŵn. Un yw ‘tir mynediad’ a ddynodwyd dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CGaHT) 2000 ac sydd wedi eu marcio ar fapiau AO mewn lliw hufen wedi ei amgylchynu â llinell frown. Datgana hyn bod rhaid i chi roi eich ci ar dennyn tra byddwch ar dir mynediad rhwng Mawrth y 1af a Gorffennaf y 31ain. Y rheswm am hyn yw er mwyn osgoi aflonyddu da byw - defaid a gwartheg yn bennaf, ond gall cyfyngiadau lleol eraill fod yn weithredol ar gyfer adar sy’n nythu ar y ddaear neu gymunedau o blanhigion, neu nythfa benodol o drychfilod (fel glöyn byw prin).

Yr ail fath o fynediad i gefn gwlad yw trwy ddefnyddio’r rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus fel Llwybrau Cyhoeddus. Mae’r ddeddfwriaeth hon ychydig yn wahanol gan mai ‘dan reolaeth glos’ y dylai eich ci fod, ac nid yn benodol ar dennyn. Fodd bynnag, mae’r un rheolau yn berthnasol. Hynny yw – peidiwch â gadael i’ch ci erlid nac ymosod ar dda byw na bod yn boen i eraill.

Efallai nad yw perchnogion cŵn yn ymwybodol o ba mor beryg y gall gwartheg fod, yn enwedig pan fydd ganddynt loeau bach. Gall cŵn ddeffro greddf hynod o amddiffynnol mewn gwartheg ac fe gynghorwn yn gryf i aelodau’r cyhoedd sydd â chŵn i’w hosgoi neu gadw’n ddigon pell ohonynt pryd bynnag y bydd hynny’n bosib. Os cewch eich erlid, rhyddhewch dennyn y ci ar unwaith a chanolbwyntiwch ar eich diogelwch eich hun. Mae’n debygol iawn y bydd eich ci yn rhedeg i ffwrdd ond yn dychwelyd atoch chi yn nes ymlaen pan fyddwch wedi symud yn ddigon pell o’r perygl.

Baw ci!

Mae pawb yn gwybod pa mor annymunol gall hyn fod, ac fe all fod yn ffynhonnell heintiau difrifol. Felly peidiwch byth â’i adael lle bydd pobl yn cerdded, chwarae neu yn cael picnic a chodwch faw eich ci bob amser, cewch wared ag ef yn gyfrifol trwy fynd ag ef ymaith a’i roi mewn biniau pwrpasol. Yng nghefn gwlad fe allwch chi ei daflu i laswellt hir ond gwnewch yn siŵr ei fod yn ddigon pell o unrhyw ddraeniau neu ddŵr a pheidiwch â’i adael mewn bagiau plastig ar ochr llwybrau neu unrhyw le arall.

Gwersylla

Er mwyn gwersylla yn unrhyw le yn y Parc Cenedlaethol, mae'n rhaid i chi gael caniatâd y perchennog tir neu'r ffermwr. Nid yw tir bryniog heb ei ffensio yn eithriad yn hyn o beth. Ni all Awdurdod y Parc Cenedlaethol roi caniatâd i chi; ac ni allwn roi enwau a chyfeiriadau perchnogion tir i chi.

Gellir cael rhestr o feysydd gwersylla trwyddedig sydd yn aml yn fach ac yn anghysbell, gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Header image - Morfa Harlech (© Crown copyright (2014) Visit Wales)