Ymweld ag Eryri

alt=

Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

Y llwybr hwn i fyny’r Wyddfa yw’r tawelaf o’r chwe prif lwybr i’r copa, a’r un sydd â’r golygfeydd mynyddig mwyaf godidog, yn enwedig i gyfeiriad Moel Hebog a bryniau Nantlle.

Mae’r filltir cyntaf yn dringo’n raddol ar hyd hen drac chwarel lechi Bwlch Cwm Llan, ond yna’n gadael y trac gan ddringo’n eithaf serth dros dir creigiog at Grib Llechog. Mae’r llwybr yn dilyn y grib dros dir agored noethlwm ac yna’n arwain ar hyd Bwlch Main cyn y ddringfa olaf i’r copa.

Mae rhai darnau o’r rhan olaf yn arwain ar hyd llwybr cul a chreigiog gyda llethrau serth iawn oddi tano, felly dylid cymryd pwyll ar y rhannau hyn. Pan fydd eira a rhew ar y ddaear, dim ond cerddwyr profiadol gyda’r cyfarpar cywir ddylai fentro ar hyd y rhan yma.

Digwyddiadau Heriol – Côd Ymarfer Yr Wyddfa

Pellter: 7.5 milltir - 12Km (yno ac yn ôl)

Esgyniad: 2,936 troed - 895 metr

Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)

Gradd: Llwybr Anodd Llafurus

Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Rhyd Ddu, oddi ar yr A4085 (SH 571 526)

Parcio: Talu ac Arddangos - angen digon o newid mân

Côd Post: LL54 6TN

Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Manylion Llwybr

1. Gyda’ch cefn tuag at y ffordd fawr, ewch i’r chwith, heibio’r toiledau cyhoeddus, ac i ben pellaf y maes parcio. Ewch trwy’r giât ar y dde a chroesi’r rheilffordd - cofiwch gau’r giatiau ar eich ôl. Dilynwch y trac o’ch blaen.

Mewn ychydig fe welwch adfeilion tŵr bach crwn ar y chwith i chi. Arferai’r tŵr fod yn dŷ powdr ar gyfer Chwarel Lechi’r Ffridd a ddaw i’r golwg ar y dde i chi.

2. Ewch i’r dde pan fydd y trac yn fforchio, ac o amgylch y rhwystr cerbydau. Mae’r trac preifat i’r chwith yn arwain at fferm Ffridd Isaf.

Yn y man, byddwch yn mynd heibio gweddillion Chwarel Lechi’r Ffridd a fu’n gweithio tan y 1860au (cadwch yn ddigon pell o’r chwarel ei hun gan y gall fod yn le peryglus).

Ar un adeg, chwarela a ffermio oedd prif fywoliaeth yr ardal hon, ac mae olion o’r cyfnod hwnnw’n amlwg iawn ar y ddaear hyd heddiw. Gellir gweld tomenni gwastraff Chwarel Glan yr Afon y tu ôl i chi yn y pellter, a defnyddiwyd y llwybr hwn i gyrraedd Chwarel Bwlch Cwm Llan a Chwarel Lechi De’r Wyddfa yng Nghwm Llan. Adeiladwyd pentref Rhyd Ddu (lle dechreua’r llwybr hwn) fel nifer o bentrefi eraill yr ardal, er mwyn cartrefu’r chwarelwyr a’u teuluoedd.

3. Wedi mynd trwy’r giât ger sied fferm fe ddewch at giât arall. Oddi yma bydd y llwybr yn gwyro i’r chwith ac yn dringo’n araf tuag at Pen ar Lôn. Yn y man, fe ddewch at ddwy giât ochr yn ochr.

4. Ar ôl y giatiau cyfochrog cadwch olwg am faen hir a giât ar eich ochr chwith. Ewch trwy’r giât a dilynwch y llwybr sy’n arwain dros dir brwynog a chorsiog. Yn y man fe ddewch at giât arall gyda chorlannau defaid ar y chwith yr ochr draw.

I lawr i’r dde mae Cwm Caregog gydag Allt Maenderyn ar yr ochr draw. I’r dde o Allt Maenderyn mae’r Aran, a Bwlch Cwm Llan ar y gwaelodion rhwng y ddau.

5. Yn y man, daw’r llwybr yn fwy serth a garw dan draed ac fe ddewch at adfeilion hen gwt carreg.

Ar y chwith fe welwch lecyn glaswelltog gwastad, ac yn ôl y sôn arferai’r llecyn fod yn leoliad teml hynafol o’r enw Mur Murianau. Dywedir bod rhes o gerrig yn ffurfio wal o amgylch y safle, a phedair carreg fawr wedi eu gosod mewn modd sy’n debyg i allor.

Edrychwch yn ôl i lawr am Ryd Ddu a mwynhewch yr olygfa fendigedig o Lyn y Gadair a Llyn Cwellyn yn y dyffryn llydan islaw, a Dyffryn Nantlle trwy’r bwlch rhwng y ddau lyn. Ar y gorwel o’r chwith i’r dde mae copaon Moel Hebog, Moel yr Ogof, Moel Lefn, Mynydd Drws y Coed a’r Garn, gyda Mynydd Mawr y tu ôl i Lyn Cwellyn.

Ar lethr Moel yr Ogof mae Ogof Owain Glyndŵr. Yn ôl y chwedl, wrth i Owain Glyndŵr gael ei erlid gan filwyr Brenin Lloegr fe ddringodd i fyny hollt 300 troedfedd mewn craig ar Foel Hebog. Gwrthododd milwyr y Brenin ddringo i fyny’r hollt ar ôl Owain felly aethant yn eu holau i Feddgelert. Daeth Owain o hyd i ogof ar lethr gerllaw ac yno y bu’n cuddio nes y gadawodd y milwyr yn eu holau am Loegr, a byth ers hynny gelwir yr ogof yn Ogof Owain Glyndŵr.

6. O'r adfeilion ymlaen bydd y llwybr yn dringo’n serth ac yn garegog. Ar ôl mynd trwy’r giât nesaf fe fyddwch ar ysgwydd crib Llechog. Dilynwch y llwybr sy’n arwain i fyny i’r dde at y grib.

Oddi yma gallwch weld ar draws Cwm Clogwyn a thrwy Fwlch Cwm Brwynog i lawr am Lanberis. I’r chwith o’r bwlch mae Moel Cynghorion a Chlogwyn Du’r Arddu ar y dde.

7. Dilynwch y llwybr sy’n arwain dros dir agored creigiog.

Mae’r ochr yma o’r Wyddfa yn agored iawn i’r elfennau, yn enwedig yn y gaeaf ac felly mae’r tirwedd creigiog wedi ei chwalu’n deilchion gan rew. Oherwydd yr amgylchedd eithafol nid oes llawer o lystyfiant yn gallu byw yma – ac mae’r ychydig sydd yn gallu goroesi yma’n tyfu’n isel a chrebachlyd – rhywogaethau fel llus, rhedyn y mynydd a glaswelltau.

8. Yn y man fe ddaw’r ganolfan ymwelwyr a charnedd y copa i’r golwg yn y pellter.

Wrth gerdded ar hyd crib Llechog gallwch weld i lawr i’r chwith am Gwm Clogwyn a’i dri llyn bach – Llyn Glas, Llyn Coch a Llyn Nadroedd.

9. Ewch trwy giât fechan arall mewn wal garreg.

Ar ôl mynd trwy’r giât, mwynhewch yr olygfa arbennig o’r Aran ar y dde, ac aber yr afon Glaslyn, gydag arfordir Harlech y tu hwnt iddo.

10. O’r giât diwethaf bydd y llwybr yn parhau ar hyd crib Llechog o amgylch Cwm Clogwyn, cyn dringo’n igam ogam tuag at Fwlch Main.  Ar ben uchaf y rhan igam ogam mae’r llwybr yn mynd yn gul iawn gyda chlogwyn serth oddi tanoch. Cymerwch ofal ar y rhan hwn, yn enwedig mewn tywydd garw, a chadwch at y llwybr. Pan fo eira a rhew ar y ddaear mae’r rhan hwn yn troi’n ddringfa beryg, felly dim ond cerddwyr profiadol gyda’r cyfarpar cywir ddylai fentro yma.

11. Wedi croesi’r llethr fe welwch lwybr y Grib Ddeheuol yn ymuno â’r llwybr o’r dde. Mae’r man lle mae’r ddau lwybr yn cwrdd yn dynodi dechrau Bwlch Main, neu’r Cyfrwy yw’r enw arall arno (cofiwch gadw i’r dde yma ar eich ffordd yn ôl i lawr am Ryd Ddu).

Fel mae’r enw’n awgrymu, bwlch cul iawn yw Bwlch Main gyda llethrau serth ar y naill ochr. Mae’n bwysig eich bod yn cymryd pwyll ar y rhan hwn ac yn cadw at y llwybr. Oddi yma, fe welwch Lwybr Watkin yn arwain trwy Gwm Tregalan i lawr i’r dde, a Chwm Clogwyn i lawr i’r chwith.

12. Ymhen ychydig fe fydd Llwybr Watkin yn ymuno â Llwybr Rhyd Ddu o’r dde – mewn man sydd wedi ei farcio â maen hir. Oddi yma bydd y llwybr yn dringo’n serth ac yn greigiog yr holl ffordd i’r copa.

Golygfa 360 Panorama

Copa'r Wyddfa

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    1. Gyda’ch cefn tuag at y ffordd fawr, ewch i’r chwith, heibio’r toiledau cyhoeddus, ac i ben pellaf y maes parcio. Ewch trwy’r giât ar y dde a chroesi’r rheilffordd - cofiwch gau’r giatiau ar eich ôl. Dilynwch y trac o’ch blaen.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    2. Ewch i’r dde pan fydd y trac yn fforchio, ac o amgylch y rhwystr cerbydau. Mae’r trac preifat i’r chwith yn arwain at fferm Ffridd Isaf.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    3. Wedi mynd trwy’r giât ger sied fferm fe ddewch at giât arall. Oddi yma bydd y llwybr yn gwyro i’r chwith ac yn dringo’n araf tuag at Pen ar Lôn. Yn y man, fe ddewch at ddwy giât ochr yn ochr.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    4. Ar ôl y giatiau cyfochrog cadwch olwg am giât ar eich ochr chwith. Ewch trwy’r giât a dilynwch y llwybr sy’n arwain dros dir brwynog a chorsiog. Yn y man fe ddewch at giât arall gyda chorlannau defaid ar y chwith yr ochr draw.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    5. Yn y man, daw’r llwybr yn fwy serth a garw dan draed ac fe ddewch at adfeilion hen gwt carreg lle’r arferid gwerthu lluniaeth i gerddwyr sychedig.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    6. O adfeilion yr hen gwt lluniaeth ymlaen bydd y llwybr yn dringo’n serth ac yn garegog. Ar ôl mynd trwy’r giât nesaf fe fyddwch ar ysgwydd crib Llechog. Dilynwch y llwybr sy’n arwain i fyny i’r dde at y grib.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    7. Dilynwch y llwybr sy’n arwain dros dir agored creigiog.
    8. Yn y man fe ddaw’r ganolfan ymwelwyr a charnedd y copa i’r golwg yn y pellter.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    9. Ewch trwy giât fechan mewn wal garreg.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    10. O’r giât bydd y llwybr yn parhau ar hyd crib Llechog o amgylch Cwm Clogwyn, cyn dringo’n igam ogam tuag at Fwlch Main. Ar ben uchaf y rhan igam ogam mae’r llwybr yn mynd yn gul iawn gyda chlogwyn serth oddi tanoch. Cymerwch ofal ar y rhan hwn, yn enwedig mewn tywydd garw, a chadwch at y llwybr. Pan fo eira a rhew ar y ddaear mae’r rhan hwn yn troi’n ddringfa beryg, felly dim ond cerddwyr profiadol gyda’r cyfarpar cywir ddylai fentro yma.

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    11. Wedi croesi’r llethr fe welwch lwybr y Grib Ddeheuol yn ymuno â’r llwybr o’r dde. Mae’r man lle mae’r ddau lwybr yn cwrdd yn dynodi dechrau Bwlch Main, neu’r Cyfrwy yw’r enw arall arno (cofiwch gadw i’r dde yma ar eich ffordd yn ôl i lawr am Ryd Ddu).

  • Llwybr Rhyd Ddu, Yr Wyddfa

    12. Ymhen ychydig fe fydd Llwybr Watkin yn ymuno â Llwybr Rhyd Ddu o’r dde – mewn man sydd wedi ei farcio â maen hir. Oddi yma bydd y llwybr yn dringo’n serth ac yn greigiog yr holl ffordd i’r copa.

Nodyn ar Ddiogelwch

Cyn mentro allan ar y mynyddoedd, darllenwch ein Cyngor ar Ddiogelwch ar y Mynydd.

Cofiwch

Er eich bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cofiwch fod y llwybr yn croesi tir fferm a phori preifat yn Ffridd Isaf, Ffridd Uchaf a Chlogwyn y Gwin, lle nad oes croeso i gŵn oni bai eu bod ar dennyn.

Ar eich ffordd i'r copa fe welwch dystiolaeth o waith adnewyddu llwybrau hanfodol a wneir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cadwch at y llwybr os gwelwch yn dda er mwyn atal erydu pellach.