Ymweld ag Eryri

alt=

Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant, Cader Idris

Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant yw’r prif lwybr i ben Cader Idris o ochr Dolgellau. Mae’r llwybr yn un cymharol ddiogel, sydd hefyd yn cynnig y golygfeydd mwyaf gwerth chweil.

Mae Llwybr Madyn (Fox's Path) yn codi o westy'r Gwernan. Mae'r llwybr hwn yn gofyn cerdded ar hyd darn serth a rhydd iawn uwchben Llyn y Gader er mwyn cyrraedd y copa. Rhaid cymryd gofal mawr wrth fentro'r llwybr hwn, yn enwedig pan mae'n wyntog, yn wlyb neu pan fo eira neu rew dros y cerrig. Mae dod i lawr y llwybr yma yn enwedig yn gofyn am ffitrwydd corfforol ac ni argymhellir i neb nad yw'n hyderus ar dir o'r math yma i ddewis y ffordd hon.

Pellter: 6 milltir - 10Km (yno ac yn ôl)

Esgyniad: 2,384 troed - 727 metr

Amser: Tua 5 awr (yno ac yn ôl)

Gradd: Llwybr Anodd Llafurus

Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Tŷ Nant (SH 697 153)

Parcio: Maes Parcio APCE ym Mhont Dyffrydan

Côd Post: LL40 1TL

Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Manylion Llwybr

1. Mae’r llwybr yn cychwyn yn y fynedfa i fferm Tŷ Nant. Wrth i chi gerdded o’r maes parcio, fe welwch ffermdy Tŷ Nant ar y chwith, a thu hwnt iddo grib Cader Idris gyda, o’r chwith i’r dde, Mynydd Moel, Pen y Gader - y copa (2,927tr/893m) a’r Cyfrwy, gyda rhicyn amlwg Bwrdd Idris.

2. Dilynwch y llwybr i Dŷ Nant, ac ewch trwy giât fochyn wrth ochr y ffermdy. Cyn bo hir byddwch yn croesi pont goncrid dros afon ac yn mynd trwy goedwig gymysg o goed bedw, cyll, sycamorwydd, ynn a drain gwynion. Mae coetir yn ddefnyddiol ar fferm fynydd gan ei fod yn rhoi cysgod i anifeiliaid mewn tywydd garw. Fodd bynnag, mae pori parhaus gan ddefaid yn atal coed ifanc rhag tyfu, ac mae hyn wedi golygu lleihad difrifol yng nghoetiroedd brodorol Eryri. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio i annog cadwraeth coetiroedd sy’n bodoli eisoes a chreu rhai newydd.

3. Mae’r llwybr yn greigiog ac yn dringo’n araf deg. Mae’r rhan hon wedi dioddef yn enbyd gan erydiad yn y gorffennol. Suddwyd llechi ar draws y llwybr i atal llithriad mynydd ac i ddraenio dŵr ar y wyneb.

4. Cyn bo hir fe ddowch at dair coeden gastan fawr lle mae’n rhaid i chi droi i’r dde (arwyddbost). Ewch trwy giât fochyn a chroeswch y nant yn ymyl y bont garreg. Mae’r llwybr yn awr yn dechrau dringo’n serth i fyny llethr gwelltog.

5. Wrth fynd trwy fwlch mewn wal gerrig yn ymyl yr afon, fe sylwch fod y tir yn fwy agored. Yr unig goed yw drain gwynion sy’n fychan iawn a cham. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod yr hinsawdd yn mynd yn fwy garw wrth fynd yn uwch i fyny’r mynydd, ac mae llai o rywogaethau’n gallu gwrthsefyll amodau mor andwyol.

6. Wrth gadw at y grisiau sydd wedi eu gosod yn y llethr o’ch blaen, fe ddewch yn y diwedd at giât (caewch os gwelwch yn dda) a thros bont fechan. Ar y chwith fe welwch glogwyni trawiadol y Cyfrwy. Sylwch fod coed bron wedi diflannu ar yr uchder hwn.

7. Cyn bo hir fe ddewch at giât arall yn y wal. Wrth i chi fynd trwy’r giât (caewch os gwelwch yn dda) fe sylwch ar ardal eang o laswellt gwyrdd iawn ar y chwith i chi ger glannau’r afon. Mae’r ardal hon yn wyrddach, ac mae iddi fwy o amrywiaeth o laswelltoedd a rhywogaethau planhigion llydanddail yn tyfu ynddi oherwydd bod mwy o faetholion yn y pridd. Mae’r afon wedi eu toddi o’r creigiau meddal (alcalin) o dan y wahanfa ddŵr uwchben. Croeswch yr afon a chymharwch yr ardal hon â’r glaswelltir mwy bras ychydig lathenni i lawr y llwybr. Ychydig iawn o faetholion sydd yn y pridd yma oherwydd fe’i bwydir gan afonydd sydd wedi llifo dros greigiau caled (asidig). Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd mynyddig Eryri wedi eu gwneud o briddoedd asidig fel hyn.

8. Mae’r llwybr yn dechrau dringo’n serth iawn yn ymyl corlannau defaid cerrig ar y dde i chi. Mae erydiad wedi bod yn broblem ddifrifol yn y gorffennol ar y rhan serth hon. Ym mhen uchaf y grisiau cerrig mae ffens rwystr yn eich atal rhag mynd yn syth ymlaen. Trowch i’r chwith yma (cyfeirbost) ac ewch ymlaen yn igam-ogam i ben y llethr serth - Rhiw Gwredydd.

9. Wedi dringo’n serth mae’r llwybr yn gwastatau hyd nes ei fod yn cyrraedd croestoriad o ffensys gyda giât a chamfa. Caiff y pwynt hwn ei adnabod fel “1842” (560m) - y pwynt uchder.

10. Trowch i’r chwith ac ewch ymlaen am sbel ar hyd y llwybr gwastad, gwelltog. Mae erydiad sylweddol wedi digwydd mewn rhai llefydd ac mewn sawl lle mae’r mawn wedi ei ddatguddio’n helaeth. Mae’n annhebygol o gael ei ailwladychu gan blanhigion oherwydd y diffyg maetholion a’r hinsawdd garw. Mae planhigion yn tyfu’n araf iawn dan yr amodau hyn ac mae tramwy traed cerddwyr yn eu hatal yn effeithiol rhag sefydlu eu hunain. Ymhen ychydig flynyddoedd, bydd glaw trwm wedi golchi’r rhan fwyaf o’r mawn ymaith gan adael yr isbridd a’r graig ar ôl. Mae rhai o rannau mwy serth y llwybr o’ch blaen wedi dirywio i’r cyflwr hwn.

11. Mae’r llwybr yn dechrau dringo’n serth.  Mae’r llwybr yn dilyn cyfres o rannau igam-ogam, yn serth a gwastad bob yn ail, hyd nes eich bod yn cyrraedd pen yr esgyniad lle cewch eich gwobrwyo â golygfa o Ben y Gader a’i amlinell o glogfeini a naddwyd gan rew. Ar y chwith fe welwch grib y Cyfrwy a’r tu ôl i chi Carnedd Lwyd a’r llwybr i lawr i Gwm Pennant (Cwm Llan ar lafar).

12. Wrth fynd drwy dir anial yn llawn creigiau a faluriwyd gan rew, rydych ar ben y clogwyni sy’n edrych ar Lyn y Gader. Dilynwch y llwybr i’r dde gan gymryd gofal drwy'r creigiau yn enwedig pan mae'n wyntog - Bwlch y Gwynt yw enw'r lle yma ar lafar. Peidiwch â mentro'n rhy agos at yr ymyl ar dywydd gwyntog, neu pan fo eira trwm pan y gallech fod mewn peryg o fod yn sefyll ar ordo dros y dibyn a allai dorri'n ddirybudd.

13. Cyn bo hir fe ddowch at greigiau hynod eu siâp a adwaenir fel lafa clustog - creigiau a oedd yn wreiddiol ar wely môr cyntefig. Mae'r llwybr yn cadw i'r ochr chwith ohonynt ac fe ddaw Llyn Gafr  i'r golwg islaw. Dim ond ychydig funudau o sgrialu nawr a byddwch yn cyrraedd y copa.

14. Mae cysgodfan yn agos i garnedd y copa sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan Wasanaeth Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri.

15. Wrth i chi ddychwelyd, gwnewch yn siwr cyn cychwyn eich bod yn anelu i'r cyfeiriad iawn, yn enwedig mewn niwl. Cadwch i'r dde wrth fynd i lawr o'r copa. Ymhen rhyw 25m i'r gorllewin o'r copa byddwch yn pasio hen le tân y caffi gwreiddiol ac ymhen 25m arall mae'r llwybr yn fforchio. Cadwch i'r dde yn y fan hon. Hawdd yw cychwyn i lawr tuag at Craig Cau mewn camgymeriad. Cyn bo hir, dylai'r creigiau lafa clustog fod ar eich llaw chwith.

  • Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant, Cader Idris

    11. Mae’r llwybr yn dechrau dringo’n serth. Mae’r carneddau sy’n nodi’r llwybr yn ganllaw pwysig, yn enwedig pan fo eira ar lawr. Peidiwch â’u difrodi nac adeiladu rhai newydd os gwelwch yn dda. Mae’r llwybr yn dilyn cyfres o rannau igam-ogam, yn serth a gwastad bob yn ail, hyd nes eich bod yn cyrraedd pen yr esgyniad lle cewch eich gwobrwyo â golygfa o Ben y Gader a’i amlinell o glogfeini a naddwyd gan rew. Ar y chwith fe welwch grib y Cyfrwy a’r tu ôl i chi Carnedd Lwyd a’r llwybr i lawr i Gwm Pennant (Cwm Llan ar lafar).

  • Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant, Cader Idris

    12. Wrth fynd drwy dir anial yn llawn creigiau a faluriwyd gan rew, rydych ar ben y clogwyni sy’n edrych ar Lyn y Gader. Dilynwch y llwybr i’r dde gan gymryd gofal drwy'r creigiau yn enwedig pan mae'n wyntog - Bwlch y Gwynt yw enw'r lle yma ar lafar. Peidiwch â mentro'n rhy agos at yr ymyl ar dywydd gwyntog, neu pan fo eira trwm pan y gallech fod mewn peryg o fod yn sefyll ar ordo dros y dibyn a allai dorri'n ddirybudd.

  • Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant, Cader Idris

    13. Cyn bo hir fe ddowch at greigiau hynod eu siâp a adwaenir fel lafa clustog - creigiau a oedd yn wreiddiol ar wely môr cyntefig. Mae'r llwybr yn cadw i'r ochr chwith ohonynt ac fe ddaw Llyn Gafr i'r golwg islaw. Dim ond ychydig funudau o sgrialu nawr a byddwch yn cyrraedd y copa.

  • Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant, Cader Idris

    14. Mae cysgodfan yn agos i garnedd y copa sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan Wasanaeth Wardeiniaid Parc Cenedlaethol Eryri.

  • Llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant, Cader Idris

    15. Wrth i chi ddychwelyd, gwnewch yn siwr cyn cychwyn eich bod yn anelu i'r cyfeiriad iawn, yn enwedig mewn niwl. Cadwch i'r dde wrth fynd i lawr o'r copa. Ymhen rhyw 25m i'r gorllewin o'r copa byddwch yn pasio hen le tân y caffi gwreiddiol ac ymhen 25m arall mae'r llwybr yn fforchio. Cadwch i'r dde yn y fan hon. Hawdd yw cychwyn i lawr tuag at Craig Cau mewn camgymeriad. Cyn bo hir, dylai'r creigiau lafa clustog fod ar eich llaw chwith.

Nodyn ar Ddiogelwch

Cyn mentro allan ar y mynyddoedd, darllenwch ein Cyngor ar Ddiogelwch ar y Mynydd.

Cofiwch

Er eich bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cofiwch fod y llwybr yn mynd trwy dir fferm a phori preifat Tŷ Nant, Dyffrydan, Ty’n Ceunant a Phennant, lle nad oes croeso i gŵn oni bai eu bod o dan reolaeth glòs neu ar dennyn.

Mae rhan helaeth o Gader Idris yn Warchodfa Natur Genedlaethol; sy’n berchen i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac a reolir ganddynt.