Ymweld ag Eryri

alt=

Llwybr Minffordd, Cader Idris

Mae’n debyg mai hwn yw’r llwybr byrraf i ben Cader Idris - tua thair milltir; er mai hwn yw’r esgyniad mwyaf (2,850tr/869m).

Nid oes unrhyw un yn sicr o ble mae’r enw Cader Idris yn tarddu. Mae rhai yn dweud bod Idris yn arwr cenedlaethol, a laddwyd wrth frwydro yn erbyn y Sacsoniaid oddeutu 630 A.D. Mynna eraill ei fod yn gawr, tra bo eraill yn ei gysylltu â chwedl Arthur.

Pellter: 6 milltir - 10Km (yno ac yn ôl)

Esgyniad: 2,585 troed - 788 metr

Amser: Tua 5 awr (yno ac yn ôl)

Gradd: Llwybr Anodd Llafurus

Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Dôl Idris (SH 732 116)

Parcio: Maes Parcio Dôl Idris wrth gyffordd A487 & B4405

Côd Post: LL36 9AJ

Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL23 (Cader Idris a Llyn Tegid)

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Manylion Llwybr

1. Ewch trwy’r giât fochyn ym mhen pella’r maes parcio ger y toiledau, a throwch i’r dde i fyny’r llwybr, sydd â choed aeddfed ar bob ochr. Ewch i’r chwith ar hyd y llwybr graeanog, trwy giât fochyn arall, a dilynwch y llwybr hyd nes y gallwch droi i’r dde trwy giât ac i mewn i’r goedwig dderw oroesol, sydd bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

2. Wedi dringfa serth, mae’r llwybr yn mynd heibio afon fechan. Ewch yn eich blaen hyd nes i chi gyrraedd wal gerrig sy’n nodi diwedd y goedwig. Ewch trwy giât fechan (caewch os gwelwch yn dda) ac i’r mynydd agored.

3. Mae’r llwybr yn ymdroelli’n serth uwchben y goedwig dderw. Cadwch yr afon ar eich llaw dde. Mae’r llwybr yn gwastatáu ychydig, a daw llethrau Mynydd Moel (2,768tr/863m) i’r golwg, wedi eu gorchuddio gan sgrïau hir a thyfiant trwchus o rug. Ewch heibio adfeilion ar y chwith wrth i chi ddringo’n araf i Gwm Cau.

4. Wrth i glogwyni trawiadol Craig Cau ddod i’r golwg, mae’r ffordd yn mynd yn anodd i’w dilyn. Mae’r tir yn welltog a’r llwybr yn aneglur. Ewch i’r chwith o amgylch yr ardal gorsiog sydd o’ch blaen, a gwnewch yn siwr wrth ddychwelyd eich bod yn dilyn yr un llwybr yn ôl, ac nid y fforch i’r dde sy’n arwain at dir serth iawn a allai fod yn beryglus i’r amhrofiadol.

5. Ar ôl mynd heibio’r cafn, fe welwch glogfeini mawr di-drefn ar y chwith i chi. Bu’r rhain yn sownd mewn rhew rhewlifol, ac fe’u gollyngwyd ar hap wrth iddo doddi.

6. Cyn bo hir byddwch yn cyrraedd carnedd fawr, amlwg lle mae’r llwybr yn gwahanu. Bydd y fforch ar y dde yn mynd â chi i Lyn Cau. I fynd ymlaen i’r copa, cymerwch y fforch i’r chwith.

7. Mae’r llwybr yn ymdroelli’n serth i fyny, ac mae wedi ei nodi’n amlwg gan garneddi bychain. Cyn bo hir fe welwch ddyfroedd Llyn Cau ar y dde. Parhewch i ddringo hyd nes i chi gyrraedd ardal fechan wastad lle gallwch fwynhau golygfa dda o’r llyn a’r clogwyni o amgylch. Mae Cwm Cau, gyda’i lyn, yn enghraifft glasurol o ‘gwm’ neu ‘beirian’. Cafodd y bowlen enfawr hon a amgylchynir gan graig ei chafnu wrth i rew falurio ei ffordd i lawr o gapan iâ enfawr. Mae Cwm Cau yn adnabyddus am ei ddaeareg, sy’n amrywiol iawn, yn rhannol o ganlyniad i weithgaredd folcanig hynafol. Mae’r amrywiaeth wedi cael effaith fawr ar fywyd planhigion ac anifeiliaid yn y clogwyni, ac mae terfyn deheuol sawl planhigyn arctig-alpaidd yma.

8. Bydd dringfa fer yn awr yn mynd â chi at ochr orllewinol y clogwyn, a’r golygfeydd prydferth ar yr ochr arall. Mae modd gweld blaen Llyn Mwyngil yn y dyffryn, a gellir gweld y ffordd o Gorris i Fachynlleth dros y ffordd. Mae Bryniau Tarren yn y pellter ar y dde.

9. Mae’r llwybr, sydd wedi ei nodi’n dda gan garneddau yn ymdroelli’n serth at i fyny, gan fynd heibio i fand o garreg risial gwyn yn y graig ar y dde i chi. Bydd gwyriad byr oddi ar y llwybr i’r chwith yn rhoi golygfa dda i chi o Fwlch Tal-y-llyn a’r llyn. Mae’r dyffryn yn rhan o Ffawt y Bala sy’n 30 milltir o hyd. 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl bu i wasgedd mawr beri hollt yng nghramen y ddaear a llithrodd un ymyl i’r hollt ar hyd y llall. Yma, mae ochr ddeheuol y bwlch wedi symud 2 filltir i’r gogledd-ddwyrain - roedd Creigiau Craig y Llam, a welwch i fyny’r dyffryn ar y chwith, ar un adeg yn wynebu creigiau Craig Cau lle rydych yn sefyll nawr.

10. Mae’r llwybr, sydd yn gwastatáu ychydig wrth i Gwm Amarch ddod i’r golwg ar y chwith a Bryniau Tarren yn gefndir bendigedig iddo. Mynydd Pencoed yw’r grib hir gron o’ch blaen.

11. Mae’r llwybr a nodir yn dda gan garneddau sy’n mynd i ben Craig Cau yn serth a rhydd. Dylid bod yn ofalus iawn ar y rhan hon, yn enwedig yn y gaeaf, gan fod cornisiau eira weithiau’n ffurfio dros ymylon y clogwyni ar y dde i chi.

12. Mae dwy ffordd i lawr i Fwlch Cau o ben Craig Cau. Mae un yn glynu’n dynn wrth ymyl y clogwyn ac mae’r llall yn gwyro i’r chwith oddi wrtho. Yr ail yw’r ffordd fwyaf diogel. Cofiwch am y cornisiau eira yn y gaeaf. Wrth gyrraedd Bwlch Cau, edrychwch ar hyd y rhigol garegog ar y dde yn Llyn Cau ymhell oddi tanoch. Ar y chwith i chi fe welwch dir anial eang - gwahanfa ddŵr Afon Cader, gyda llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant i ben Cader Idris i’w weld ar hyd llethrau Tyrrau Mawr yn y pellter.

13. Mae’r llwybr nawr yn dringo’n serth am y tro olaf. Mae’r rhan hon yn llithrig, yn rhydd, ac yn dioddef yn enbyd gan erydiad. Cadwch at y llwybr os gwelwch yn dda i atal yr erydiad rhag lledaenu. Mae rhan igam-ogam fer yn dod â chi yn y diwedd at garnedd y copa. Mae cysgodfan yn ymyl sy’n cael ei chynnal a’i chadw gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

14. Wrth gychwyn eich taith yn ôl, gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn y llwybr sy’n gwyro i’r chwith oddi wrth ymyl y clogwyn, 50m o’r copa. Os na wnewch chi hyn, byddwch yn dilyn llwybr Pilin Pwn, Tŷ Nant i lawr ochr ogleddol y mynydd. Os yw'n niwlog, cymerwch ofal i beidio gwyro i'r dde wrth esgyn Craig Cau yn ôl. Mae'n hawdd cael eich tynnu ar hyd mynydd Pencoed i'r gorllewin. Edrychwch am y llwybr sy'n arwain yn syth i fyny at y copa.

  • Llwybr Minffordd, Cader Idris

  • Llwybr Minffordd, Cadair Idris

Nodyn ar Ddiogelwch

Cyn mentro allan ar y mynyddoedd, darllenwch ein Cyngor ar Ddiogelwch ar y Mynydd.

Cofiwch

Er eich bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cofiwch fod y llwybr yn mynd trwy dir fferm a phori preifat Llwyn Dol Ithel, Pentre Dolamarch a Phennant, lle nad oes croeso i gŵn oni bai eu bod o dan reolaeth glòs neu ar dennyn. Mae rhan helaeth o Gader Idris yn Warchodfa Natur Genedlaethol; sy’n berchen i Gyngor Cefn Gwlad Cymru ac a reolir ganddynt.