Ymweld ag Eryri

alt=

Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

Hen drac Gwaith Copr Britannia ar yr Wyddfa yw Llwybr y Mwynwyr - ond nid dyma’r ffordd a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i gyrraedd y mwynglawdd.

Ar y dechrau, arferai’r mwynwyr gario’r copr i fyny ochr ddwyreiniol y mynydd, ac yna byddai’n cael ei lusgo i lawr yr ochr draw at Lyn Cwellyn ar sled a dynnwyd gan ddau geffyl. O Lyn Cwellyn, byddai’r copr yn cael ei gludo gyda cheffyl a throl i Gaernarfon. Agorwyd y ffordd (yr A4086 heddiw) o Lanberis i Ben y Gwryd rhyw ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ac yn sgil hynny yr adeiladwyd y llwybr mwy ymarferol hwn.

Mae hwn yn llwybr delfrydol os ydych am dro bach ar yr Wyddfa ond ddim am fynd yr holl ffordd i’r copa. Mae’r llwybr yn dechrau’n llydan ac yn wastad gan ddringo’n raddol heibio Llyn Teyrn at Lyn Llydaw, lle mae gweddillion adeiladau’r gwaith copr i’w gweld. Oddi yma, mae’r llwybr yn dringo’n serth tuag at Lyn Glaslyn, ac yna’n troi’n ddringfa galed dros sgri at fan cwrdd Llwybr y Mwynwyr a Llwybr Pyg. Mae’r llwybr yna’n dringo’n igam ogam ar hyd Llwybr y Mul i Fwlch Glas, ac yna ymlaen i’r copa.

Digwyddiadau Heriol – Côd Ymarfer Yr Wyddfa

Pellter: 8 milltir - 13Km (yno ac yn ôl)

Esgyniad: 2,372 troed - 723 metr

Amser: Tua 6 awr (yno ac yn ôl)

Gradd: Llwybr Anodd Llafurus

Dechrau/Diwedd: Maes Parcio Pen-y-Pass, oddi ar yr A4086 (SH 647 557)

Parcio: Mae meysydd parcio Talu ac Arddangos ym Mhen-y-Pass, Pen y Gwryd a Nant Peris (bydd angen newid mân). Os ydych yn parcio ym Mhen y Gwryd, defnyddiwch y llwybr troed goddefol sy'n mynd o Ben y Gwryd i Ben-y-Pass - gweler map y llwybr.
Nodyn - Parcio ychwanegol yn Nant Peris-3 milltir lawr y bwlch.

Côd Post: LL55 4NU

Map Perthnasol: Arolwg Ordnans Exp OL17 (Yr Wyddfa a Dyffryn Conwy)

Map bras yn unig yw hwn. Dylech ddefnyddio'r fersiwn ddiweddaraf o'r map Arolwg Ordnans perthnasol (gweler uchod) wrth gerdded y daith.

Manylion Llwybr

1. Dechreua’r llwybr yng nghornel bellaf chwith maes parcio Pen y Pass, gyferbyn â’r fynedfa.

Wrth i chi gerdded edrychwch ar yr olygfa arbennig o Ddyffryn Gwynant i lawr i’r chwith o’r llwybr. Cyn bo hir fe welir gogoniant Y Lliwedd (898m/2946tr), Yr Wyddfa (1,085m/3560tr), Garnedd Ugain (1,065m/3494tr) a Chrib Goch (921m/3022tr) ar eu gorau, sef y copaon sy’n ffurfio Pedol enwog yr Wyddfa.

Ymhen ychydig fe ddowch at lyn bach ar y chwith i chi, sef Llyn Teyrn. Cadwch olwg am adfeilion hen farics y mwynwyr sydd i’w gweld ger y lan.

Mae’r bibell ddŵr a welwch yn rhedeg i lawr y dyffryn ar y chwith yn cyflenwi dŵr o Lyn Llydaw i orsaf bŵer hydro-electrig Cwm Dyli yn Nyffryn Gwynant. Adeiladwyd y pwerdy yn wreiddiol, sydd y pwerdy hynaf ym Mhrydain, er mwyn cyflenwi trydan ar gyfer rheilffordd drydan trwy ddyffryn Gwynant. Byddai’r rheilffordd yn cysylltu chwareli llechi a mwyngloddiau, ond daeth diwedd ar y cynllun pan redodd allan o arian. Comisiynwyd y pwerdy flwyddyn yn ddiweddarach ym 1906, ac mae wedi bod yn cyflenwi trydan i’r Grid Cenedlaethol byth ers hynny.

2. Bydd y llwybr yn fforchio ger Llyn Llydaw. Cadwch i’r dde ac fe ddowch at sarn sy’n croesi’r llyn.

Cyn adeiladu’r sarn, defnyddiwyd rafft i gario ceffylau a throliau’n llawn copr ar draws Llyn Llydaw, er mwyn torri’r siwrnai i Ben y Pass.Ond wedi damwain a achosodd i un ceffyl foddi, penderfynwyd adeiladu’r sarn ym 1853. Er mwyn ei adeiladu, bu’n rhaid gostwng lefel y dŵr 12 troedfedd, ac yn y broses, darganfuwyd ceufad derw cynhanesyddol yn mesur 10 troedfedd wrth 2 droedfedd - prawf fod pobl wedi troedio’r mynydd hwn am filoedd o flynyddoedd.

3. Croeswch y sarn a dilynwch y llwybr gan fynd heibio adfeilion hen felin falu Gwaith Copr Britannia ar y dde i chi, cyn dringo’n serth at Lyn Glaslyn.

4. Hyd heddiw, mae adfeilion yr hen felin falu i’w gweld ger Llyn Llydaw, ac ymysg y gweddillion mae’r morthwylion malu mawr a ddefnyddiwyd i echdynnu’r mwyn gwerthfawr.

Arferid cario’r mwyn copr ar draws Llyn Glaslyn ac i lawr i’r felin falu ar hyd rhaffordd awyr; roedd hyn yn lleihau’r pellter yr oedd angen cludo’r copr, ac yn osgoi’r ddringfa serth rhwng y ddau lyn.

O Lyn Glaslyn, edrychwch ar yr olygfa ddramatig o’r Wyddfa yn codi bron i 500m uwchben y llyn rhewlifol. Wrth i chi fynd o amgylch y llyn, byddwch yn mynd heibio adfeilion hen farics arall ar y dde i chi, lle’r arferai’r mwynwyr aros yn ystod yr wythnos.

O Lyn Glaslyn, er eich bod wedi cerdded bron i dri chwarter y daith o ran pellter, dim ond tua hanner ffordd i’r copa o ran amser ydych chi.

5. O Lyn Glaslyn, cadwch olwg am faen hir ger adfeilion hen farics, a dilynwch y llwybr i'r dde sy’n dringo’n serth dros y sgri. Mae’r rhan hon o’r daith yn ddringfa galed a gall fod yn hynod o lithrig. Pan fydd rhew ac eira ar y llwybr, gwell gadael gweddill y daith i gerddwyr profiadol gyda’r offer cywir.

Wrth edrych ar draws Llyn Glaslyn, fe welwch Fwlch y Saethau i’r chwith o gopa’r Wyddfa. Arferai mwynwyr o Feddgelert ddringo dros y bwlch hwn i’w gwaith gyda chymorth cadwyni haearn oedd yn sownd wrth y creigiau.

Yn ôl y chwedl, dyma’r fan lle cafodd y Brenin Arthur ei saethu mewn brwydr. Cariwyd ef at lan Llyn Llydaw, lle daeth cwch gyda thair morwyn a’i gludo trwy’r niwl i Afallon.

6. Yn y man fe ddewch at faen hir sy’n nodi’r gyffordd gyda Llwybr Pyg (cofiwch amdani ar eich ffordd i lawr). O’r fan yma mae’r llwybr yn parhau i ddringo’n serth ac yn rhydd dan draed nes y cyrhaeddwch Fwlch Glas.

7. Ymhen ychydig, bydd y llwybr yn dringo’n igam ogam i fyny i Fwlch Glas.

Llwybr y Mul yw’r enw ar y rhan hon o’r llwybr, a chyn i’r ffordd fawr gael ei hadeiladu trwy Fwlch Llanberis, defnyddiwyd y llwybr hwn i gario copr i Fwlch Glas ac yna i lawr ochr arall y mynydd at Lyn Cwellyn.

Wrth i chi nesáu at ran igam ogam y llwybr, cadwch yn ddigon pell o siafftiau agored y gweithfeydd copr ar y chwith i chi.

8. Ym Mwlch Glas, fe fyddwch yn ymuno â Llwybr Llanberis a Llwybr Cwellyn. Mae’r gyffordd hon wedi ei nodi â maen hir (cofiwch amdani ar eich ffordd i lawr).

Unwaith y byddwch yn ymuno â’r ddau lwybr arall fe welwch gledrau rheilffordd yn dringo’r mynydd ar ochr dde’r llwybr. Dyma Reilffordd yr Wyddfa, sydd wedi bod yn cario ymwelwyr i’r copa ers 1896 ar yr unig reilffordd rhac a phiniwn cyhoeddus yn y DU.

9. Dilynwch y llwybr i’r chwith o’r maen hir. Rydych yn awr ar y rhan olaf o’ch taith i gopa’r Wyddfa. Wrth gerdded ar gyflymder hamddenol, gallwch ddisgwyl bod ar y copa ymhen rhyw chwarter awr.

10. O’r copa ar ddiwrnod clir, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd anhygoel - mae’n bosib gweld 18 o lynnoedd ac 14 copa dros 914m (3000 troedfedd). Weithiau, gallwch hyd yn oed weld mor bell â’r Iwerddon, Ynys Manaw ac Ardal y Llynnoedd.

Golygfa 360 Panorama

Copa'r Wyddfa

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    1. Dechreua’r llwybr yng nghornel bellaf chwith maes parcio Pen y Pass, gyferbyn â’r fynedfa.

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    2. Bydd y llwybr yn fforchio ger Llyn Llydaw. Cadwch i’r dde ac fe ddowch at sarn sy’n croesi’r llyn.

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    3. Croeswch y sarn a dilynwch y llwybr gan fynd heibio adfeilion hen felin falu Gwaith Copr Britannia ar y dde i chi, cyn dringo’n serth at Lyn Glaslyn.

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    4. Hyd heddiw, mae adfeilion yr hen felin falu i’w gweld ger Llyn Llydaw, ac ymysg y gweddillion mae’r morthwylion malu mawr a ddefnyddiwyd i echdynnu’r mwyn gwerthfawr.

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    5. O Lyn Glaslyn, ewch i’r dde wedi i chi fynd heibio’r barics, a dilynwch y llwybr sy’n dringo’n serth dros y sgri. Mae’r rhan hon o’r daith yn ddringfa galed a gall fod yn hynod o lithrig. Pan fydd rhew ac eira ar y llwybr, gwell gadael gweddill y daith i gerddwyr profiadol gyda’r offer cywir.

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    6. Yn y man fe ddewch at faen hir sy’n nodi’r gyffordd gyda Llwybr Pyg (cofiwch amdani ar eich ffordd i lawr). O’r fan yma mae’r llwybr yn parhau i ddringo’n serth ac yn rhydd dan draed nes y cyrhaeddwch Fwlch Glas.

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    7. Ymhen ychydig, bydd y llwybr yn dringo’n igam ogam i fyny i Fwlch Glas.

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    8. Ym Mwlch Glas, fe fyddwch yn ymuno â Llwybr Llanberis a Llwybr Cwellyn. Mae’r gyffordd hon wedi ei nodi â maen hir (cofiwch amdani ar eich ffordd i lawr).

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    9. O’r copa ar ddiwrnod clir, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd anhygoel - mae’n bosib gweld 18 o lynnoedd ac 14 copa dros 914m (3000 troedfedd). Weithiau, gallwch hyd yn oed weld mor bell â’r Iwerddon, Ynys Manaw ac Ardal y Llynnoedd.

  • Llwybr y Mwynwyr, Yr Wyddfa

    10. O’r copa ar ddiwrnod clir, cewch eich gwobrwyo â golygfeydd anhygoel - mae’n bosib gweld 18 o lynnoedd ac 14 copa dros 914m (3000 troedfedd). Weithiau, gallwch hyd yn oed weld mor bell â’r Iwerddon, Ynys Manaw ac Ardal y Llynnoedd.

Nodyn ar Ddiogelwch

Cyn mentro allan ar y mynyddoedd, darllenwch ein Cyngor ar Ddiogelwch ar y Mynydd.

Cofiwch

Er eich bod ym Mharc Cenedlaethol Eryri, cofiwch fod y llwybr yn croesi tir fferm a phori preifat yng Ngwastadanas, lle nad oes croeso i gŵn oni bai eu bod ar dennyn.

Ar eich ffordd i'r copa fe welwch dystiolaeth o waith adnewyddu llwybrau hanfodol a wneir gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cadwch at y llwybr os gwelwch yn dda er mwyn atal erydu pellach.